Gallai mwydion afalau atal pobl rhag mynd yn ordew yn ôl Pennotec, cwmni technoleg sy’n arloesi ym maes bwydydd y dyfodol. Mae ei ddull o droi gwastraff ffrwyth yn sylwedd a all gymryd lle braster a siwgr mewn bwydydd wedi denu buddsoddiad £350,000 gan y Llywodraeth. Mae’r cwmni wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ac mae’n arwain y ffordd drwy ddatblygu cynhyrchion sy’n gweithredu fel braster, a hynny o fwydion afalau, gweddillion solet y broses tynnu sudd a chynhyrchu seidr, a ffrwythau gwastraff.
 

 

Ar hyn o bryd mae mwydion afalau yn cael eu compostio neu’u hychwanegu at fwyd i anifeiliaid. Fodd bynnag, yn ôl pennaeth a sylfaenydd Pennotec,  Dr Jonathan Hughes, gallai fod gwerth masnachol llawer uwch i ffeibrau’r mwydion os byddant yn cael eu hychwanegu, ar ffurf powdr neu bast, at fwydydd poblogaidd. Yn ei farn ef, mae hyn yn berthnasol iawn wrth i’r frwydr yn erbyn gordewdra ymhlith plant ddwysáu. Bernir bod mwy na 25 y cant o oedolion a bron traean o blant y Deyrnas Unedig yn ordew neu dros eu pwysau. Yng Nghymru, cartref Pennotecmae’r ganran ar gyfer pobl ifanc yn llawer uwch, sef 40 y cant, ac mae hyn yn golygu bod ganddynt risg uchel o ddatblygu clefyd y galon, canser a diabetes Math 2. 
 

“Mae mwydion afalau’n rhyfeddod naturiol; sylwedd llawn maeth sy’n gallu tewhau bwyd. Mae ganddynt feicroffeibrau sy’n gallu cael eu defnyddio i gymryd lle elfennau uchel eu calorïau mewn bwyd, fel braster, ac ar yr un pryd maen nhw’n gallu codi lefel y ffeibr mewn bwydydd sy’n boblogaidd yn yr ysgol fel cacennau, prydau sawrus, grefi a sawsiau”, meddai Hughes. “Prif nod y prosiect hwn yw sicrhau bod bwyd yn iachach ac yn rhatach, heb aberthu blas na gwead. Rhaid iddo wneud hynny, neu ni fydd yn llwyddo yn y farchnad na mynd i’r afael â gwastraff bwyd byd-eang. Ar hyn o bryd, yr unig ffordd o wneud elw o wastraff bwyd yw drwy gynhyrchu bio-nwy ond mae’r broses yn dadelfennu popeth beth bynnag fo’i werth. Mae’n technoleg ni’n defnyddio prosesau sy’n cadw’r gwerth”.

 

 

Ymhlith cwsmeriaid Pennotec ar gyfer ei gynnyrch MilaCel, mae gweithgynhyrchwyr bwyd, manwerthwyr, arlwywyr ysgolion, a’r cyhoedd. Dywedodd Hughes sy’n fiotechnolegydd diwydiannol â phrofiad eang ym maes marchnata, “Mae’r ymateb wedi bod yn frwdfrydig. Mae’n ymddangos bod dewisiadau amgen yn cael mwy o groeso nawr wrth i sefydliadau sylweddoli ei bod yn hanfodol arloesi ym maes cynhyrchu bwyd ar sail gwyddoniaeth ac yn gynaliadwy wrth i adnoddau’r byd leihau. Er hynny, rydym yn dal i daflu ein gwastraff bwyd ac mae cost cael gwared ar wastraff yn codi o hyd.”
 

Mae chwe gwyddonydd o’r tîm yn gweithio yn labordy Pennotec ac mae trosiant y cwmni wedi cynyddu 500 y cant dros y ddwy flynedd diwethaf i £400,000. Mae gwaith y cwmni’n canolbwyntio ar ymchwil i fuddion  gwastraff bwyd a sgil gynhyrchion bwyd. Mae prosiect arall yn ymwneud â gweithgynhyrchu a gwerthu puryddion naturiol dŵr sy’n dod o gregyn corgimychiaid a chrancod.
 

Mae’r cwmni’n cydweithio â phrifysgolion, yn enwedig y rheini sydd yng Nghymru a’r Alban lle ceir cefnogaeth gref ar gyfer y fioeconomi wledig. Daeth cyllid ar gyfer y gwaith ar fwydion afalau oddi wrth is-adran bwyd a diod Llywodraeth Cymru ac Innovate, sef menter y Deyrnas Unedig ar gyfer busnesau ymchwil bach. Mae Dr Adam Charlton o Ganolfan Biogyfansoddion  Prifysgol Bangor a Chanolfan Technoleg Bwyd Coleg Menai yn rhan o’r prosiect. “Mae’r cymorth wedi bod yn holl bwysig inni”, meddai Hughes, “drwy sicrhau y gallwn ni roi’n technoleg ar waith ym maes cynhyrchu bwyd. Ein nod yw dod yn gynhyrchydd. Felly, cyn bo hir byddwn yn chwilio am fuddsoddiad ac arbenigedd oddi wrth gwmni angel. Mae pawb yn sylweddoli fwyfwy bod angen inni elwa ar wastraff.”

Ewch i’r
Rhaglen Cyflymu Twf i weld rhagor o wybodaeth.
 


 

Share this page

Print this page