Rydym wedi helpu dwsinau o fusnesau ar draws Cymru i ddatblygu, tyfu a darganfod marchnadoedd newydd.

Mae ein cyfres o flogiau yn canolbwyntio ar lawer o'r cwmniau hynny - ac yma rydym yn edrych ar Brenig Construction o Fochdre, cwmni a arweinir gan Howard Vaughan a Mark Perry.

Mae Brenig wedi bod yn cyflenwi prosiectau peirianneg sifil ac adeiladu uchel eu proffil sydd wedi ennill gwobrau ar draws Gogledd Cymru a'r DU ers 2012.

Mae Mark Parry wedi gwneud gyrfa iddo'i hun fel rheolwr prosiect mewn prif gwmni adeiladu cenedlaethol cyn ffurfio Brenig Construction.

Yma, mae Mark Parry a Howard Vaughan yn adrodd stori Brenig Construction ac yn cynnig cyngor gwerthfawr i arweinwyr busnes eraill sy'n bwriadu ehangu.

 

Dywedwch wrthym am Brenig.
Yn 2012, enillom ein contract cyntaf a oedd yn gontract gwerth £11,000 gyda Cartrefi Conwy. Roedd yn arwydd o'r hyn oedd ar ddod inni.

Yn 2013, roedd ein gwerthiannau yn £600,000 ac enillom ein contract £1miliwn cyntaf, drwy weithio ar Ysgol newydd Gogardd, ysgol arbennig yn Llandudno. Erbyn 2014, roedd ein gwerthiannau yn £2.6miliwn ac yn 2015, yn £5miliwn - roedd ein twf cyson yn parhau.

Ers hynny, mae'r cwmni wedi mynd o nerth i nerth, ac yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym wedi sicrhau llyfr archebu o ryw £40miliwn, wedi cael contract 10 mlynedd gyda Wales & West ac wedi ymrwymo i fenter ar y cyd gwerth £10miliwn gyda Cartrefi Conwy.

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Hydref 2019, roedd ein gwerthiannau yn fwy na £15miliwn Rydym yn hynod falch o hyn 

 

 

Beth ydych chi'n fwyaf balch ohono ym myd busnes hyd yn hyn?
Roedd ymgymryd â phrosiect trawsnewidiol mewn hosbis plant leol yn destun balchder mawr inni. Rydym yn gwybod ein bod yn ffodus, yn arwain cwmni ein un ni.

Mae'n golygu y gallwn gefnogi a helpu elusennau - yn yr achos hwn roeddwn yn gallu gweithio gyda'n cadwyn gyflenwi i gyflawni'r prosiect £50,000 yn llai na chyllideb yr hosbis.

 

Pe baech chi'n dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Miliwn o bethau i fod yn onest. Ond, yr un peth y byddem yn ei wneud yn wahanol yw dysgu sut i ddweud na!

Hynny yw, dweud na i gleientiaid penodol a na i brosiectau penodol.

Mae'n anodd pan ydych yn dechrau busnes i ddweud na gan fod angen y gwaith arnoch ac mae angen y trosiant arnoch i ennill arian ac i dalu'r biliau. Ond mae cytuno i wneud popeth yn gallu achosi problemau difrifol ac yn gallu cael effaith andwyol ar y busnes, yn enwedig yn ystod y tair i bum mlynedd gyntaf.

 

Sut y mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae'r arbenigedd a ddarperir gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn anhygoel ac wedi bod yn hanfodol wrth inni dyfu fel cwmni.

Rydym wedi cael cymorth o ran ymgynghori drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru drwy naw pecyn gwaith sy'n ymwneud â strategaeth, rheoli sefydliad a datblygu yn ogystal â dulliau rheoli effeithiol.

Rydym bellach yn cyflogi mwy na 60 o bobl.

 

 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech chi'n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau?

● Byddwch yn weithgar, yn uchelgeisiol, yn ddibynadwy ac yn benderfynol.

● Ceisiwch fod y gorau o hyd yn eich maes.

● Beth bynnag yw ei faint, rhowch yr un lefelau o ymrwymiad a safon i bob prosiect.

● Byddwch ddewis cyntaf eich cwsmer o hyd.

● Cyfathrebwch yn dda gyda chwsmeriaid, cyflenwyr a gweithwyr.

 

Dysgu mwy am Brenig.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page