Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi rhoi arbenigedd i gefnogi twf nifer o gwmnïau ledled y wlad.   

Y cwmni diweddaraf inni ganolbwyntio arno yn ein cyfres blog yw Creative Adventures, sy’n masnachu fel Boathouse Climbing Centre, busnes teuluol yn Llandudno.

Wedi’i sefydlu gan Andy ac Emma-Jane Sutcliffe, mae gan y cwmni ethos cymunedol, sy’n apelio at bob oedran a gallu. 

Yma mae Andy Sutcliffe yn dweud stori Creative Adventures ac yn rhoi rhywfaint o gyngor i eraill sy’n dechrau yn y busnes.

 

Dywedwch wrthym am Creative Adventures.
Rwyf wedi treulio sawl blwyddyn yn datblygu sgiliau a gwybodaeth am y sector awyr agored, gan weithio i gwmnïau gwahanol ledled y DU mewn amrywiol swyddi. 

Am yr 17 mlynedd diwethaf, mae fy nghanolfan yng Ngogledd Cymru, yn gweithio gyda nifer o ganolfannau awyr agored yn ogystal ag ennill fy Nhrwydded Gweithgareddau Antur (AALA).  Treuliais wyth o’r blynydddoedd hynny fel Cydlynydd Dringo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac am y ddwy flynedd ddiwethaf, roedd gennyf les i redeg y wal ddringo yng Nghanolfan Hamdden Cyffordd Llandudno, o’r enw JunctionWall.

Y Boathouse Climbing Centre yw’r bennod ddiweddaraf o daith chwe mlynedd sydd wedi bod yn hynod heriol.

Wrth chwilio am adeilad unigryw i wireddu ein breuddwyd, yn ogystal â’r cyllid angenrheidiol, daeth cyfle i ddatblygu canolfan ddringo yn Hen Orsaf Cychod Achub Llandudno ym mis Rhagfyr 2017. 

Daeth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru atom a chawsom fentora ar amrywiol feysydd.  Roedd hyn yn golygu bod modd inni sicrhau y cyllid a fyddai’n golygu ei bod yn bosibl dechrau’r prosiect. 

Cafodd y cynllun ei wneud, a’r wal ei hadeiladu gyda rhywfaint o gymorth masnachol.  Dechreuodd y gwaith adeiladu fis Tachwedd 2018, gydag agoriad bach ym mis Chwefror 2019.

 

 


Pryd oeddech yn teimlo’n fwyaf balch o’r busnes hyd yma?
Cael y benthyciad a gweld yr arian yn y banc.  Roedd yn golygu y gallem wireddu ein gweledigaeth.  Mae ymateb y gymuned a chwsmeriaid wedi gwneud popeth yn werth chweil, ac rydym wedi derbyn adborth gwych gan y bobl sydd wedi defnyddio’r ganolfan.

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Byddem wedi cael amserlen ar gyfer ein cynllun gwaith.  Byddai hyn wedi ein helpu gyda’r amser i adeiladu a’r costau.  Hefyd, nid wyf yn meddwl y byddem wedi poeni am gwblhau’r gegin gan nad oedd ei hangen mor gyflym ag oeddem wedi’i feddwl. 

 

Sut y bu i’r cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru helpu eich busnes?
Rhoddodd  Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru fentoriaid gwych imi – a arweiniodd yn y pen draw at gael benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru. 

Heb y benthyciad, ni fyddai’r busnes wedi agor!  Yna cefais y cymorth gyda brandio a datblygu’r wefan trwy fy mentro marchnata, oedd yn help mawr gan nad oedd gennyf syniad pa mor gymhleth oedd.  Bellach mae gennym frand cryf yr wyf yn falch ohono yn hytrach na dim ond logo. 

 

 

Pa gyngor a chanllawiau fyddech chi’n ei roi i fusnesau eriall sy’n dechrau?

● Dal ati – bob tro y mae drws yn cau, curwch ar dri arall! 

● Gwrandewch arnoch eich hun – gwrandewch ar gyngor ond gwnewch eich penderfyniad eich hun.

● Derbyniwch bod camgymeriadau’n digwydd, bod hyn yn rhan o fywyd.

● Dysgwch – o ddrysau’n cau, cyngor gan eraill a’r camgymeriadau rydych yn eu gwneud. 

● Gall fod yn emosiynol – byddwch yn ddigalon, yn hapus, yn gwylltio, yn siomedig, yn cael eich gadael i lawr – wetihiau i gyd ar yr un pryd.  Ewch yn ôl i gyngor un – daw haul ar fryn! 

 

 


Learn more about Boathouse Climbing Centre.

You can find further information on Business Wales Accelerated Growth Programme (AGP)

Share this page

Print this page