Wrth barhau ein cyfres o flogiau ar y cwmnïau y mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi eu helpu i ddatblygu ac ehangu, rydym yn awr yn edrych ar Qualitek Engineering.

Sefydlwyd Qualitek o Lanelli yn 2010 ac mae’n gwmni peiriannu manwl a saernïo - cyfuniad anarferol yn y sector peirianneg.

Mae ganddo sylfaen gwsmeriaid gadarn ac amrywiol, yn amrywio o weithgynhyrchwyr mewn ystod o sectorau i sawl gweithgynhyrchwr offer gwreiddiol (OEM), sy’n masnachu ar draws y byd.

Yma, mae’r cyfarwyddwr a’r rheolwr dylunio, John Tovey, yn adrodd stori Qualitek – ac yn rhoi cyfarwyddyd a chyngor i eraill sy’n llywio eu taith drwy’r byd busnes.

 

Dywedwch wrthym am Qualitek.
Dechreuom drwy wasanaethu cleientiaid defnyddwyr olaf yn ne-orllewin Cymru, ac wrth i’r busnesau gael eu symleiddio, datblygodd cyfleoedd pellach.

Rydym wedi sicrhau twf sylweddol drwy ffurfio perthnasau cynaliadwy a chydweithredol yn y sector OEM, yn arbennig yn y sectorau diogelwch, cyfleustodau, gwarchod yr amgylchedd, modurol ac adeiladu.

Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith yn seiliedig ar brosiect neu gynhyrchion sypiau bach. Yn ddiweddar, cyflawnom brosiectau mawr mewn perthynas ag amddiffyn rhag perygl llifogydd mewn cydweithrediad â chwmni arall sy’n gleient i Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae’r prosiectau hyn wedi’u hallforio, gan mwyaf, i’r Dwyrain Pell.

Mae gennym 26 o weithwyr, a lle bynnag y bo’n bosibl, rydym yn annog y cynhyrchion a’r gwasanaethau yr ydym yn eu defnyddio i fod yn rhai o Gymru.

.

 

Beth ydych fwyaf balch ohono hyd yma?
Mae symud i’n cyfleuster gweithgynhyrchu newydd ym Mharc Busnes Dura – a theilwra’r adeilad i fodloni ein gofynion penodol ni – ym mis Medi 2015 yn destun balchder mawr inni.

 

Pe baech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Mae hwn yn gwestiwn caled, ond mae’r gallu i wasanaethau cleientiaid sydd ag ystod eang o ofynion peirianneg yn parhau i fod yn un o gryfderau mwyaf Qualitek ac yn rhywbeth sy’n ei wneud yn wahanol i gwmnïau eraill.

Mae’r ffaith bod angen gwasanaethu amrywiaeth eang o sectorau wedi golygu bod diwylliant arloesol a chydweithredol yn y sefydliad.

Felly, o gofio hynny, mae popeth rydym wedi ei wneud, camgymeriadau neu fel arall, wedi ein helpu i greu’r sefydliad yr ydym heddiw.

 

 

Pa gyngor a chyfarwyddyd y byddech yn eu rhoi i fusnesau eraill sy’n cychwyn arni?

● Peidiwch â cheisio bod yn berffaith cyn codi momentwm – mae digon da fel arfer yn ddigon da.

● Chwiliwch am y cymorth sydd ar gael i fusnesau o Gymru.

● Defnyddiwch dîm bach o gynghorwyr y gallwch ymddiried ynddynt, peidiwch â gadael i ormod o fewnbynnau gwahanol eich parlysu.

● Byddwch yn ddewr wrth wneud penderfyniadau. Os ydych yn gwneud penderfyniad anghywir – dysgwch ohono yn gyflym.

● Ystyriwch eich hun yn fwy na busnes arferol arall o Gymru.

 

 

Dysgu mwy am Qualitek.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page