Mae'r sector hamdden a thwristiaeth yn dod yn rhan mwy a mwy allweddol o economi Cymru.
Mae'r cwmni anturiaethau beicio mynydd, OnePlanet Adventure, wedi penderfynu manteisio ar hyn ac mae ei sylfaenwyr brwd sef Jim Gaffney ac Ian Owen yn gweithio'n ddi-flino i sicrhau ei bod yn gyrchfan heb ei hail ar gyfer beicwyr brwd yng Nghymru.
Yn ein cyfres ddiweddaraf o flogiau mae Jim Gaffney yn adrodd hanes OnePlanet Adventure, cynlluniau'r cwmni ar gyfer y dyfodol a hefyd yn cyflwyno cyngor i bobl eraill sy'n mentro i fyd busnes.
Soniwch wrthym am OnePlanet Adventure
Gwnaethom benderfynu sefydlu'r busnes ar ôl sylwi ar gyfle i redeg canolfan beicio mynydd ar dir a oedd yn eiddo i gwmni preifat. Cawsom gais i helpu â'r gwaith o sefydlu'r ganolfan - ac ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach gwnaethom arwain y gwaith o brynu'r ganolfan a'r tir yng Nghoed Llandegla yn Llandegla ger Wrecsam. Mae'r safle bellach yn cynnwys llwybrau beicio, canolfan i ymwelwyr, siop beiciau, uned atgyweirio beiciau, maes parcio a chaffi.
Rydym yn denu tua 170,000 o ymwelwyr bob blwyddyn - o'r DU a thramor.
Gwnes i ac Ian gysylltu â sawl asiantaeth cymorth a'r awdurdod lleol i gael cymorth. Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi cynnig cymorth hanfodol i'r cwmni.
Beth rydych chi fwyaf balch ohono hyd yma?
Heb unrhyw amheuaeth gwblhau'r gwaith o brynu'r ganolfan i ymwelwyr ym mis Rhagfyr 2018. Roedd yn broses hir o drafod ac roeddem yn teimlo ar brydiau na fyddai'r peth yn bosibl. Roedd cwblhau'r broses yn deimlad gwych. Cyn i ni brynu'r adeilad roeddem yn ei rentu ar brydles - a oedd yn golygu nad oedd gennym lawer o reolaeth o safbwynt cyfeiriad y busnes. Ni sy'n gyfrifol am y cyfan erbyn hyn!
O droi'r cloc yn ôl beth y byddech yn ei wneud yn wahanol?
Wrth edrych yn ôl dros y pedair blynedd ar ddeg diwethaf ers sefydlu OnePlanet Adventure buaswn i'n sicr yn gwneud sawl peth yn wahanol. Eto i gyd, o ystyried yr holl bethau rydym wedi'u cyflawni ni fuaswn i'n newid unrhyw beth. Rydym yn sicr wedi gwneud rhai penderfyniadau gwael dros y blynyddoedd ond dyma'n aml y penderfyniadau yr ydych yn dysgu mwyaf ohonynt a heb y profiadau hyn ni fyddai ein busnes mor gadarn heddiw.
Sut y mae'r cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Cawsom lawer iawn o gymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, ac yn arbennig gan yr hyfforddwyr Ray Howard a Bill Pearson a wnaeth helpu â'r gwaith cynllunio busnes, gweithrediadau a chynllunio ariannol.
Pa gyngor a chyfarwyddyd y byddech yn eu rhoi i fusnesau newydd?
● Cofiwch geisio cymorth allanol. Ni allwch fod yn arbenigwr ar bob agwedd ar eich busnes. Cofiwch gydnabod eich gwendidau a gofyn i arbenigwyr eich helpu â'r meysydd hynny.
● Cofiwch sicrhau eich bod yn parhau i ganolbwyntio ar eich prif nod. Mae'n hawdd anghofio amdano a chanolbwyntio ar bethau eraill heb sylweddoli. Os yw eich nod yn gwbl glir dylai fod yn haws i chi wneud penderfyniadau anodd.
● Cofiwch dreulio digon o amser yn gweithio ar y busnes, ac nid o fewn y busnes yn unig. Mae'n hawdd canolbwyntio'n llwyr ar redeg y busnes o ddydd i ddydd, ond mae'n bwysig eich bod yn edrych ar y darlun mwy ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol. Haws dweud na gwneud, ond mae'n gwbl allweddol.
● Treuliwch rywfaint o amser yn ystyried faint rydych wedi'i gyflawni eisoes - mae'n hawdd canolbwyntio ar y rhwystrau sydd o'ch blaen. Gall treulio amser yn ystyried faint rydych wedi'i gyflawni eich helpu i sylweddoli nad yw'r problemau sydd o'ch blaen yn rhai sy'n amhosibl eu trechu.
Dysgu mwy am OnePlanet Adventure.
Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).