Pan benderfynodd dau gludwr ar feiciau modur ffurfio eu busnes eu hunain 20 mlynedd yn ôl, byddai wedi bod bron yn amhosibl iddynt ddychmygu cael dros 100 o gerbydau a dros 150 aelod staff rhyw ddydd.   

Ond dyna’n union beth sydd wedi digwydd i Delsol ers ei ffurfio yn 1999. Mae’r rheolwr gyfarwyddwr David Phillips wedi arolygu twf cadarn y cwmni. 

Yn y gyfres blog ddiweddaraf ar gwmnïau sy’n cael eu cefnogi gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, mae David Phillips yn egluro sut y mae Delsol yn parhau i drawsnewid ac ehangu – a’r gwersi i gwmnïau eraill sy’n dymuno gwneud yr un fath. 

 

Dywedwch wrthym am Delsol.

Roeddem ym Methesda yng Ngwynedd i ddechrau, ond aeth y cwmni yn rhy fawr i’r safle hwnnw yn go fuan.  Rydym bellach yn gwmni logisteg rhanbarthol, yn cynnig anfon parseli, paledau a chludiant Hazchem y diwrnod canlynol, yn ogystal â llwythi uniongyrchol yr un diwrnod ledled y DU.   

Mae gennym gyfleusterau storio yn Sandycroft a Chaernarfon, gyda dros 100 o gerbydau ac rydym yn cyflogi dros 150 o bobl.

Ar y cychwyn, aethom at fusnesau lleol yn ardal Caernarfon a Bangor.  Roeddem am wneud rhywbeth gwahanol.  Yn hytrach na gwerthu yr hyn oedd gennym, bu inni holi, beth ydych chi eisiau?  Yna addasu i anghenion cwsmeriaid. 

 

David Phillips o Delsol
David Phillips o Delsol

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono hyd yma?

Erbyn 2003, roeddem rhy fawr i’r safle gwreiddiol.  Felly aethom ati  iddatblygu canolfan gyflenwi bwrpasol a warws yng Nghaernarfon ac yn ddiweddarach agorwyd ail ganolfan yn Sandycroft ar y ffin â Sir Gaer.

Llwyddodd y ddau safle yn gyflym iawn yn ganolfannau prysur yn unol â’n safonau ansawdd llym. 

Rydym yn falch iawn o’r ffaith ein bod wedi creu cyfleoedd cyflogi newydd yn y cymunedau y cawsom ein magu a ble rydym yn gwasanaethu.   

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Wrth edrych yn ȏl, efallai y gallem fod wedi bod yn fwy dewr ar adegau.  Ond nid ydym yn difaru dim mewn gwirionedd am yr hyn rydyn ni wedi ei wneud a ble mae’r cwmni yn mynd. 

 

 

Sut mae cymorth Cynllun Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn hollbwysig yn ein twf. 

Roedd modd inni gael grant gan Lywodraeth Cymru oedd yn golygu y gallem symud ac adeiladu canolfan newydd yng Ngaernarfon. Roedd hwnnw yn sylfaen i ddatblygu yr ehangu.

Bu Rhaglen Cyfylymu Twf Busnes Cymru yn help inni hyfforddi staff a marchnata ein canolfan storio newydd.  Roedd hyn yn helpu i greu swyddi newydd yn yr ardal. 

Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng ein twf, cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru a chreu swyddi o safon uchel. 

Ers derbyn cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, rydym wedi ehnagu ein gweithlu o 15 o bobl.  Mae hyn yn dangos pa mor werthfawr oedd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru i’n ehangu diweddar. 

 

Pa gyngor a chanllawiau fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy’n dechrau heddiw? 

● Paratoi cynlluniau busnes cadarn, sy’n eich galluogi I fesur eich ymdrechion a’ch llwyddiannau.

● Gosod targedau. Gwnewch rhain yn realistig.

● Byddwch yn onest efo chi eich hun.

● Dod i wybod pa grantiau/gymorth sydd ar gael.  Nid oes angen iddo fod yn ariannol bob tro.



 

Dysgu mwy am Delsol.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page