A oes modd i gwmni cyfreithwyr weithio fel busnes cwbl ddyngarol?  

Mae cwmni AltraLaw o Gaerffili yn brawf bod model chwyldroadol o’r fath yn bosib, ac y gall fod yn sbardun i dyfu. Mae cymwynasgarwch yn rhan cwbl annatod o’r cwmni cyfreithwyr hwn.  Cafodd ei sefydlu gan Nathan Vidini ac mae’n wahanol iawn i gwmnïau traddodiadol.  Ac mae stori Nathan yn profi mor llwyddiannus y gall cwmni cyfreithwyr di-elw fod.

Cafodd AltraLaw o Gaerffili help Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru.  Mae’r AGP yn canolbwyntio ar helpu busnesau uchelgeisiol sy’n tyfu ac mae’n cael ei rhan-ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.  

Dyma Nathan Vidini yn esbonio pam a sut y sefydlodd gwmni cyfreithwyr di-elw, y daith y bu arni a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.  

 

 

Dywedwch wrthym am AltraLaw 
Hoffwn ddechrau trwy esbonio pam mae AltraLaw yn wahanol, a pham ‘mod i mor falch mod i’n arwain busnes o’r fath.  Mae’n ddigon posib mai ni yw’r unig gwmni cyfreithwyr preifat ym Mhrydain sy’n gweithio fel menter gymdeithasol ddi-elw.

Mae hi wedi bod yn daith anhygoel o anodd ond gwerth chweil. Mae’r ffaith bod ein gwaith yn dod â chymaint o fudd i gymdeithas yn golygu nad yw’r holl waith caled wedi bod yn ofer.  Rydyn ni’n rhoi elw’r busnes i elusennau sydd wedi cael eu dewis gan ein cleientiaid – rydyn ni’n rhoi degau o filoedd o bunnau’r flwyddyn erbyn hyn. Wrth i’r busnes barhau i dyfu’n gyflym, fy nod yw gweld y ffigur hwnnw’n codi i filiynau o bunnau.  

 

Mae gennym bump o ymgynghorwyr cysylltiol ac rydyn ni’n cyflogi dau baragyfreithiwr. Rydyn ni’n arbenigo mewn cyfraith gyflogaeth ac yn ymladd yn bennaf dros hawliau gweithwyr gan eu helpu â phroblemau yn y gwaith a’u cynrychioli mewn tribiwnlysoedd.  Mae llawer o’n hachosion yn rhai cymhleth, yn delio â diswyddo annheg, chwythwyr chwiban a chamwahaniaethu.

Dw i wedi arbenigo mewn cyfraith gyflogaeth am fwy na 15 mlynedd ac mae gen i’r enw fel y cyfreithiwr y dylai gweithwyr yng Nghymru a De-orllewin Lloegr fynd ato. Dw i’n cynghori uwch-swyddogion a chyfarwyddwyr yn bennaf.

 

Ar ôl gweithio i nifer o gwmnïau cyfreithwyr corfforaethol, mawr ac uchel eu proffil, roeddwn i am sefydlu cwmni fyddai’n canolbwyntio ar wneud lles, gydag elw’r busnes yn helpu’r rheini sydd ei angen fwyaf. Dair blynedd yn ôl, dechreuais gynllunio AltraLaw ac yn 2020, lansiais y busnes ac mae wrthi’n tyfu’n gyflym.  

 

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono hyd yn hyn?
Yn ein blwyddyn lawn gyntaf, cawsom ein henwebu ar gyfer nifer o wobrau gan ennill dwy uchel eu clod.  Ond yr hyn dw i fwyaf balch ohono yw’r gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud i’n cleientiaid – o ran cael effaith bositif ar eu bywyd a’r effaith ehangach ar yr elusennau maen nhw’n eu cefnogi.  Rydyn ni fel arfer yn helpu pobl pan mae pethau’n ddu iawn arnyn nhw, pan nad ydyn nhw’n gwybod beth i’w wneud nac at bwy i droi.  Mae’n fraint cael eu helpu a’u grymuso i drechu’u problemau.  

 

Pa heriau y mae’ch busnes wedi’u hwynebu?
Rydyn ni’n gweithio mewn ffordd wahanol iawn i drwch busnesau cyfreithwyr eraill, felly rydyn ni wedi gorfod delio â sawl problem ar hyd y ffordd.  Mae pobl yn credu ar gam na all cwmni di-elw gynnig y gwasanaeth gorau. Mae hynny ymhell o fod yn wir.  Rydyn ni wedi profi hynny dro ar ôl tro trwy’n canlyniadau i’n cleientiaid yn erbyn cwmnïau mwya’r wlad a’r tystebau y mae’n cleientiaid yn eu rhoi i ni.

Dw i wedi gweithio’n galed i chwalu’r celwydd hwnnw ac yn ymroi bob dydd i brofi ein bod yn brwydro yr un mor ffyrnig (a llwyddiannus!) dros hawliau gweithwyr ag unrhyw gwmni da arall, er natur ddyngarol y busnes.  Rydyn ni’n wasanaeth pum seren yn ôl adolygiadau ein cleientiaid ar safleoedd fel Google.  

 

Mae Covid wedi rhoi ffrwyn ar ein twf gan ei bod yn anodd cymathu ac integreiddio staff newydd o bell.  Rydyn ni felly wedi gorfod rhoi stop ar ein gwaith marchnata gan nad ydyn ni am dderbyn mwy o waith nag y gallwn ni ei wneud at safon uchel.  Gan ein bod bellach mewn sefyllfa gryfach a mwy sefydlog, gallwn ddisgwyl ymlaen at dyfu yn y dyfodol ar ôl Covid.

 

Os byddech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Byddwn yn bendant wedi dechrau’r busnes yn gynt.  Cyn dechrau AltraLaw, treuliais lawer o amser yn perffeithio fy nghynllun busnes i leihau’r risgiau posibl.  Ond dysgais fod ambell beth na allwch chi baratoi ar ei gyfer – Covid-19 yn un! Pe bawn wedi’i lansio’n gynharach, byddem wedi gallu helpu mwy o gleientiaid a rhoi mwy o arian i elusen. 

 

Sut mae AGP Busnes Cymru wedi helpu’ch busnes?
Mae AGP Busnes Cymru wedi bod o help mawr i ni.  Dw i’n dal i elwa ar y rhaglen.  Diolch i’r ymchwil, arweiniad a chefnogaeth rydyn ni wedi gallu manteisio arnyn nhw trwy’r rhaglen, cawsom lansio’r busnes yn gryfach ac yn gynharach. 

Mae’r cymorth un i un dw i wedi’i gael wedi bod yn arbennig o werthfawr, yn ogystal â’r pecynnau gwaith unigol rydyn ni wedi’u defnyddio’n bennaf i’n helpu i ddatblygu’n gwefan a’n deunydd marchnata.

 

Pa gyngor byddech chi’n ei roi i fusnes arall sy’n dechrau?

 

●     holwch am help yn y dechrau’n deg – peidiwch â bod ofn cael eich cyfeirio at fentoriaid allai’ch gwthio ymlaen.

●     siaradwch â phobl sy’n gwneud pethau tebyg – mae’n bosib eu bod nhw wedi llwyddo i ddatrys problemau tebyg i’r rhai rydych chi’n eu hwynebu

●     cydweithiwch ag eraill a derbyn yr egwyddor o helpu’ch gilydd.

●     siaradwch â phobl o fusnesau a phroffesiynau eraill – gall persbectif wahanol eich helpu i ddatrys problemau mewn ffyrdd annisgwyl

●     rhwydweithiwch! rhwydweithiwch! rhwydweithiwch!

 

Dysgu mwy am AltraLaw.

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page