Mae'r defnydd o dechnoleg rithwir i gynorthwyo busnesau ar draws amrediad o sectorau’n tyfu.

Gwelodd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd George Bellwood a Robin David fwlch, a datblygu dechnoleg i lenwi’r bwlch hwnnw, gan ddefnyddio eu harbenigedd a'u sgiliau pan oedden nhw yn eu blynyddoedd olaf yn y brifysgol.

Mae eu cwmni, Virtus Tech, yn gwmni realiti rhithwir a dealltwriaeth data sy'n darparu platfformau rhithwir i fusnesau. Mae eu DIGI Tour blaenllaw yn defnyddio delweddau 360 gradd a nodweddion rhyngweithiol digidol i helpu busnesau i roi  profiad a gwybodaeth well i gwsmeriaid, i gyd mewn un platfform.

Mae'r cwmni wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sy'n darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

 

Yma, mae George Bellwood yn trafod datblygiad y busnes, eu llwyddiant cynnar a sut maen nhw wedi llwyddo i oresgyn rhwystrau yn y ffordd.

 

Dywedoch wrthon ni am Virtus Tech.
Dechreuon ni pan oedden ni'n fyfyrwyr, felly roedd llawer o gymorth ar gael inni. Cawson ni gefnogaeth a chymorth gan Brifysgol Caerdydd pan oedden ni’n datblygu ein syniad, yn ogystal â rhaglen Accelerator NatWest.

O'r fan honno, cawson ni fynediad at Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sydd wedi darparu cymorth mewn llawer o ffyrdd.

Roedd yr holl wasanaethau hyn yn gallu gweld y byddai’n werth chweil cefnogi ein syniad. Mae ein gwasanaeth, DIGI Data, yn defnyddio dysgu peirianyddol ac adnabod delweddau i alluogi cleientiaid i gael rhagor o ddealltwriaeth drwy eu teithiau.

Drwy roi mynediad i gleientiaid at ddangosfwrdd DIGI Data mewn amser real, gallan nhw gynyddu diddordeb eu defnyddwyr yn y teithiau. Drwy ddysgu peirianyddol rydyn ni’n helpu cleientiaid i wneud penderfyniadau mwy gwybodus gan ddefnyddio modelau cyflwr-newid a rhagolygon cyfres amser.

Trafodon ni â llawer o fusnesau i geisio sicrhau ein cleient cyntaf, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a gytunodd i fod ein prosiect mawr cyntaf. Gwnaethon ni ddarparu eu platfform DIGI Tour ar gyfer tri champws y brifysgol, gyda mwy na 700 o ddelweddau rhyngweithiol yn cael eu harddangos ar eu gwefan a'u defnyddio ar gyfer diwrnodau agored rhithwir.

Mae ganddyn nhw hefyd fynediad at ddangosfwrdd DIGI Data sy'n helpu'r brifysgol i ddeall meysydd allweddol o ddiddordeb academaidd darpar fyfyrwyr, gan roi data marchnata amhrisiadwy iddyn nhw er mwyn achub y blaen ar y gystadleuaeth.  

Rydyn ni’n gweithio ar brosiect partneru newydd gyda Phrifysgol Caerdydd a'r GIG, sydd wedi bod yn destun cryn gyffro inni, gan ddarparu platfform hyfforddi rhithwir newydd ar gyfer myfyrwyr meddygol a staff meddygol o dan hyfforddiant, sydd bellach yn y camau terfynol o gael ei baratoi.

 

George Bellwood a Robin David o Virtus Tech
George Bellwood a Robin David o Virtus Tech

 

Beth yw eich adegau mwyaf balch ym myd busnes hyd yn hyn?

Heb os, ein hadeg fwyaf balch oedd cyflogi tri aelod o staff. Roedd yn deimlad gwych a gwnaethon ni hynny heb unrhyw gymorth ariannol gan fuddsoddwyr, ond i gyd drwy refeniw o brosiectau.

Roedden ni hefyd yn falch iawn pan wnaethon ni ryddhau dangosfwrdd DIGI Data i gleientiaid – roedden nhw wrth eu boddau pan welon nhw safon y dadansoddi data, oedd yn golygu eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus. 

 

Pa heriau rydych chi wedi eu hwynebu yn eich busnes?
Bu’n rhaid inni oresgyn llawer o rwystrau. Penderfynon ni ddechrau heb chwilio am fuddsoddiadau, sydd wedi golygu ein bod wedi gorfod gweithio'n galed i gyrraedd lle rydyn ni heddiw. Heb unrhyw gyfalaf ariannol mawr gan fuddsoddwyr, bu'n rhaid inni ariannu'r gwaith o adeiladu DIGI Tour, DIGI Data a DIGI Tour Customise ein hunain. Fodd bynnag, rydyn ni’n hyderus bydd y ffaith na wnaethon ni chwilio am fuddsoddiadau ar y dechrau yn rhoi ein busnes mewn sefyllfa gryfach os ydyn ni byth yn penderfynu chwilio am fuddsoddiad.

 

Rydyn ni hefyd wedi gorfod goresgyn heriau mewn perthynas â’n llwyth gwaith. Mae wedi bod yn anodd, fy nghyd-sylfaenydd, Robin, yw ein prif swyddog technoleg a’n peiriannydd meddalwedd hefyd, sy'n golygu ein bod wedi gorfod rheoli ein hamser i sicrhau ein bod yn cyflawni'n brydlon.

Mae'r pandemig hefyd wedi arwain at heriau. Bu’n rhaid inni addasu drwy ddarparu meddalwedd i gwsmeriaid o bell. A chan nad oedd modd cael lluniau ar gyfer y delweddau 360 gradd, bu'n rhaid inni ddarparu DIGI Tour ar gyfer cwsmeriaid ac addasu platfform i gleientiaid er mwyn iddyn nhw adeiladu a rhoi ar waith eu taith rithwir bersonol eu hunain yn unol â’u manyleb bersonol.

 

Pe baech chi’n dechrau o’r dechrau, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Rydyn ni’n hynod falch o ba mor bell rydyn ni wedi dod ers dechrau masnachu ym mis Awst 2020. Rydym wedi tyfu'r cwmni drwy gyflogi tri gweithiwr newydd i weithio ar beirianneg meddalwedd, ac mae gennyn ni brosiectau cyffrous iawn ar y gweill. Pe baen ni wedi cael buddsoddiadau efallai bydden ni wedi tyfu’n gyflymach o lawer, ond rydyn ni’n teimlo ein bod mewn sefyllfa dda i adeiladu ac wedyn chwilio am fuddsoddiadau pan fyddwn ni mewn sefyllfa gryfach o ran ein sylfaen cwsmeriaid a'n cynhyrchion.

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Rydyn ni wedi cael llawer o gymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Dechreuodd ein taith gyda Syniadau Mawr Cymru, pan es i benwythnos Bŵtcamp Syniadau Mawr. Yna gwnaethon ni gais i Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, lle helpodd ein Rheolwr Perthynas Andrew Beer i ddarparu cymorth strategol allweddol i'n helpu i gynyddu ac ennill cleientiaid newydd.

Rydym mor ddiolchgar am yr holl gymorth mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi'i roi inni, a oedd yn cynnwys ein cyfeirio ni at gymorth Adnoddau Dynol i'n helpu i recriwtio.

 

Pa gyngor ac arweiniad byddech chi’n eu rhoi i fusnesau eraill sydd ar fin dechrau?

●     Peidiwch ag ofni dechrau busnes, jest ewch amdani.

●     Byddwch yn amyneddgar, mae datblygu pethau’n cymryd amser.

●     Peidiwch byth â phoeni ynghylch gofyn am gymorth.

●     Gwnewch eich ymchwil.

●     Mwynhewch beth bynnag rydych chi’n ei wneud  .

 

Dysgu mwy am Virtus Tech.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page