Mae defnyddwyr yn dod yn fwyfwy ymwybodol o effaith amgylcheddol y pethau y maent yn eu prynu.

 

Mae Project Blu yn cynnig cynlluniau arloesol, cynaliadwy ar gyfer cynnyrch anifeiliaid sy’n para am amser hir.  Mae’r cwmni yn anelu at wneud plastig (a deunyddiau eraill sy’n llygru) mor werthfawr fel ei fod yn cael ei ailgylchu yn hytrach na’i daflu i ffwrdd.    

 

Yma mae Geryn Evans, sylfaenydd Project Blu yn dweud hanes y cwmni ac yn cynnig cyngor i eraill sy’n dechrau datblygu eu busnes. 

 

Dwedwch wrthym am Project Blu.
Dechreuodd y busnes yn dilyn sgwrs ddamweiniol a gefais gyda ffrind agos.  Roedd yn seiliedig ar ymgyrch bersonol i leihau faint o blastig untro sy’n mynd i’r môr trwy ddod o hyd i ddefnydd positif i’r deunydd. 

Mae ein pencadlys ym Mro Morgannwg, a’n cyfleusterau cynhyrchu yn ardal Toscana yn yr Eidal. 

Rydym yn dod o hyd i’n deunyddiau sydd wedi’u hailgylchu o rai o wledydd tlotaf y byd.  Ein hymgyrch yw troi gwastraff plastig yn nwydd gwerthfawr.  Nid yn unig bydd hyn yn helpu i lanhau’r amgylchedd, bydd hefyd yn helpu i leihau tlodi. 

Mae ein cynnyrch wedi’u gwneud o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu 100% a fyddai fel arall wedi llygru ein hamgylchedd.  Rydym yn trawsnewid plastig fyddai yn y môr fel arall a dillad sydd wedi’u defnyddio i greu defnydd a llenwadau wedi’u hailgylchu 100%.  

 

Project Blu cynnyrch
Project Blu cynnyrch

 

Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono ym myd busnes ar hyn o bryd? 

Rwyf wedi cael fy nerbyn i LEAP Ventures Studio yn Los Angeles gan ddechrau ym mis Chwefror 2020, a byddaf yn derbyn $200,000. Dyma gyfle cyffrous iawn imi fel arweinydd busnes ac i’r cwmni. 

Pwrpas y rhaglen gyflymu hon yw ein paratoi ar gyfer digwyddiad mawr i gyflwyno ein hunain i’r 400 o brif gynadleddwyr MARS & RGA (gan gynnwys y teulu MARS) ym mis Mai yn Efrog Newydd.

O’r digwyddiad hwn, y buddsoddiad lleiaf yw $2m.

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech wedi ei wneud yn wahanol?   

Ehangu a datblygu yn gyflymach drwy fod yn fwy hyderus ac oedi llai.  Efallai y byddai’n well dilyn mwy ar agwedd yr UD – os ydych yn rhoi o’ch gorau ac yn methu, gallwch barhau i ddysgu a datblygu.  Dyna rhywbeth yr ydym yn ceisio ei wneud wrth inni fynd ymlaen fel cwmni. 

 

Project Blu cynnyrch
Project Blu cynnyrch

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes? 

Mae cymorth gyda hyfforddiant gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ar gynllunio strategol a chodi arian wedi bod yn werthfawr iawn i helpu inni ddatblygu.  Rydym bellach ar daith gyffrous fel busnes, mae’n gyfnod cymharol gynnar i ni, ond rydym yn teimlo’n gyffrous ynghylch y posibiliadau at y dyfodol a faint y gallwn ehangu a datblygu.  Gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, rydym yn teimlo y gallwn wneud hyn.   

 

Pa gyngor a chanllawiau fyddech chi yn ei roi i fusnesau eraill sy’n dechrau heddiw? 

 

● Dilynwch eich greddf.

● Cynnwys eich cysylltiadau a’ch ffrindiau pan bod modd iddynt helpu. 

● Chwiliwch a defnyddiwch adborth gan bawb sy’n fodlon ei roi ichi. 

 

 

Dysgu mwy am Project Blu.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page