Mae amgylchedd Cymru'n un o asedau allweddol y wlad. Mae’n hollbwysig i ni ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a sicrhau bod pobl yn byw yn gytûn gyda’r byd naturiol os ydym am adeiladu economi mwy cynaliadwy. 

Mae un busnes (a dweud y gwir, mae’n gymdeithas er budd y gymuned) yn Sir Benfro - heb os, dyma ranbarth arfordirol poblogaidd mwyaf enwog Cymru - yn edrych ar sut y gallwn ni ailystyried sut rydyn ni’n defnyddio'r môr fel adnodd ar gyfer bwyd, biowrteithiau i ffermwyr o Gymru a bioblastigau i’r sector pacio bwyd. 

Mae'r busnes hwnnw, sef Câr-y-Môr, wedi cael cefnogaeth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae'r Rhaglen yn rhoi cefnogaeth wedi’i thargedu i fusnesau uchelgeisiol sy’n tyfu. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

 

© Chalmers Creative

 


 

Yma, mae Owen Haines o Câr-y-Môr yn esbonio stori’r busnes ac yn cynnig cyngor i berchenogion busnesau eraill sy’n ceisio cael cydbwysedd rhwng pobl a’r blaned ac elw.

 

Dywedwch wrthym am Câr-y-Môr
Rydyn ni'n gymdeithas budd cymunedol cofrestredig. Fel y gallech ddisgwyl, mae hynny'n golygu ein bod yn bodoli er budd ein cymuned - rydyn ni’n eiddo i’n haelodau ac mae'r holl elw'n mynd yn ôl i'r busnes. Ein pwrpas yw cyfoethogi'r gymdeithas a'r amgylchedd. Y nod wrth galon ein gweithrediadau yw gwella'r amgylchedd arfordirol a llesiant ein cymuned. Cynaliadwyedd sy’n bwysig - ffermio môr a swyddi cynaliadwy lleol. Rydyn ni gyd yn gwybod bod argyfwng byd natur ar hyn o bryd. Rydyn ni angen dod o hyd i fwy o ffyrdd i ffermio'n gynaliadwy a pharchu'r amgylchedd, yn ogystal â thraddodiadau ac anghenion pobl leol. Dyna sy’n ysgogi ein sefydliad, lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd a thynnu sylw at hynny.  

 

Nid dyna oedd fy mwriad - roeddwn i eisiau parhau â'r diddordeb gydol oes fu gennyf mewn ffermio môr a gwneud rhywbeth ynglŷn â’r ffaith drychinebus ein bod ni wedi cam-drin ein planed anhygoel. Mae Câr-y-Môr yn anelu i roi hwb i'r sector gwymon a physgod cregyn yng Nghymru, a gweld os gall hyn dyfu’n fusnes cynaliadwy yn ariannol ac yn amgylcheddol. Rydyn ni'n gweithredu o dyddyn tua milltir o Dyddewi yn Sir Benfro, gyda golygfeydd hardd o Fae Sain Ffraid.  

 

Rydyn ni eisiau annog ac ysbrydoli pobl eraill. Mae ein ffermio heb ychwanegion yn golygu nad ydym yn defnyddio gwrtaith, plaladdwyr na dŵr croyw. Mae eni hymdrechion diweddar wedi arwain at dri pheth ysbrydoledig pwysig: 

 

  • Mae mwy a mwy o bobl o bob cefndir eisiau teimlo eu bod wedi’u grymuso y gellir dechrau gwneud rhywbeth heddiw i ddiogelu ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  Maen nhw’n clywed am Câr-y-Môr ac yn ei weld fel cyfle i gymryd rhan oherwydd ei fod yn fusnes cymunedol lle maen nhw'n cael cyfran gyfartal ohoni. 

 

  • Yr allwedd i’n greal sanctaidd o hyfywedd masnachol yw uno gydag amaethyddiaeth yng Nghymru drwy gynhyrchu biowrteithiau a bioblastigau gyda Notpla, sef ein buddsoddwr sydd wedi ennill gwobr Earthshot. Yna bydd y gwaith o ddatblygu ein cynnyrch bwyd gwymon yn goron ar y cyfan. 

     
  • Yr allwedd yw sicrhau ein bod yn talu am y costau rhedeg am y tair blynedd nesaf, gan gynnwys cost ein tîm o 12 unigolyn sy’n gweithio’n galed i gyflawni’r potensial rydyn ni wedi’i nodi.   

     

Mae’n rhaid dweud mai criw o wirfoddolwyr sydd gennym - mae hyn yn rhywbeth i'w ddathlu. Yn ogystal â'r 12 unigolyn sy’n gweithio i ni nawr, mae gennym 15 gwirfoddolwr, sy’n cyfateb i tua 150 awr yr wythnos.  Fel cymdeithas budd cymunedol, roedd gennym saith aelod gwreiddiol, ac mae hynny bellach wedi tyfu i 220 aelod.  Dyma ddangos sut mae'r syniad wedi mynd o nerth i nerth.  

Yng Nghymru, mae’n fraint ein bod yn gallu mwynhau arfordir mor hardd. Yma yn Sir Benfro, mae’r arfordir hwnnw'n barc cenedlaethol, arwydd o ba mor unigryw yw'r ardal.  Mae’r bywyd gwyllt, y golygfeydd a’r cymunedau sydd wedi bodoli yma ers canrifoedd yn bethau y dylem ni eu trysori, eu meithrin a'u diogelu fel gwlad. Rhan o’r ateb yw sefydliad fel sydd gennym ni, sy’n gweithio mewn partneriaeth â chymunedau ac yn darparu atebion cynaliadwy i anghenion amaethyddiaeth a physgota ac amgylcheddol Cymru.  

 

 


 

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt busnes hyd yn hyn?
Rydyn ni'n freintiedig ac yn dal i deimlo’n wylaidd gan ein hased mwyaf, sef ein haelodau. Maen nhw wedi ymuno oherwydd eu bod eisiau cymryd rhan - maen nhw eisiau gwneud rhywbeth cadarnhaol nawr i helpu'r blaned. Mae potensial cymdeithasau budd cymunedol yn enfawr ond mae ymgysylltu parhaus yn allweddol, yn ogystal â phobl yn sylweddoli y gallwn ni weithredu ac mae angen i ni wneud hynny nawr. Mae gennym 220 o aelodau sy’n dangos beth y gellir ei wneud a pha mor bwysig yw’r pethau hyn i bobl.  Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda chymaint o bobl sy’n blaenoriaethu gwella'r gymuned rhag budd preifat.  

 

Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu ym myd busnes?
Roedd digon o rwystrau pan wnaethon ni gychwyn. Un o’r rhwystrau oedd deall cymhlethdod yr hyn roedden ni’n ei wneud a sut roedden ni’n gallu cael cefnogaeth gan randdeiliaid amrywiol.  Roedd gallu nodi a gwneud cais llwyddiannus am gyllid a grantiau’n broblem i ni ar y dechrau. Mae ein rheolwr cysylltiadau Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn ein helpu ni i sicrhau cyfalaf a grantiau cyfalaf gweithio sylweddol i sefydlu’r busnes.  

Her arall oedd sicrhau'r drwydded forol i ddechrau’r fferm fôr, sydd ger Sant Stinian, tua 1.5 milltir o Dyddewi. Mae trwyddedau tymor byr ar waith, ac rydyn ni’n gwneud cynnydd ac yn datblygu hygrededd, felly rydyn ni'n bwriadu datblygu ymhellach. Rydyn ni'n gweithio’n agos gyda sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau eraill i gael y cydsyniad angenrheidiol.  


Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Rwy’n meddwl y byddem yn canolbwyntio ar geisiadau cyllid yn gynharach. Mae cymaint o gefnogaeth i'w chael.  Bellach mae gennym yr help sydd ei angen arnom i gael gafael ar y gefnogaeth honno. Diolch i Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sydd wedi rhoi'r arbenigedd i ni nad oeddem yn gwybod ei fod ar gael, nac yn gwybod ein bod ei angen arnom!  


Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Rydyn ni wedi cael cymaint o gefnogaeth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, ac mae wedi bod yn help aruthrol wrth i ni geisio datblygu’r busnes. Mae'r rheolwr cysylltiadau a’r mentora wedi bod o fudd mawr. Mae wedi ein cadw ar y llwybr cywir ac wedi ein cyfeirio at gynlluniau a mentrau eraill a allai helpu ein cwmni. Rydyn ni’n gallu cysylltu twf ein gwaith i'r rhaglen, ac mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi ein helpu ni mewn nifer o feysydd. Rydyn ni wedi cael cymorth gyda grantiau, rhannu a storio data, cael gafael ar gyllid, cysylltiadau cyhoeddus a chynllunio busnes. Mae’n anhygoel ein bod yn gallu cael mynediad at gefnogaeth arbenigol mor helaeth. 

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n eu rhoi i fusnesau eraill sy'n dechrau arni? 

  • Cysylltu â rhaglen cymorth i fusnesau fel Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru mor fuan â phosibl. 
  • Cael gweledigaeth glir yn ogystal â bod yn glir o ran beth rydych yn sefyll drosto. Yna, gallwch greu strategaeth a chynllun realistig sy’n cyfleu’n glir beth rydych yn ceisio’i wneud.  
  • Cadwch at y cynllun os medrwch chi, ond byddwch yn fanteisgar - sy’n mynd yn anoddach wrth i chi ddatblygu. 
  • Gwnewch yn siŵr bod pobl sydd â’r un ethos â chi o’ch cwmpas. 
  • Ceisiwch fagu cydnerthedd pan na fydd pethau’n mynd yn ôl y bwriad! 



I ddysgu mwy am Câr-y-Môr, cliciwch yma.

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru



 

 

A picture containing graphical user interface

Description automatically generated

 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen ar draws Cymru sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Share this page

Print this page