Recriwtio'r bobl iawn ar gyfer eich busnes yw un o'r elfennau allweddol ar gyfer llwyddiant. Ar gyfer Gyrwyr Go2, sydd wedi'u lleoli ym Mae Colwyn, mae'r ethos hwnnw'n hollbwysig. Darparu talent i'r sector logisteg fu ei nod canolog ers ei sefydlu yn 2011.

Yma, mae'r rheolwr gyfarwyddwr Christopher Hughes yn rhoi trosolwg o hanes y cwmni ac yn rhannu cyngor gwerthfawr i eraill sy'n dechrau ar eu taith entrepreneuraidd eu hunain,

 

 

Dywedwch wrthym am Yrwyr Go2

Yn y bôn, rydym yn asiantaeth recriwtio a chyflogaeth, gyda'n pencadlys ym Mae Colwyn. Dechreuon ni fel Driver Hire (Cymru) yn 2011 – enw sy'n hunanesboniadol, ond roedden ni eisiau rhywbeth i adlewyrchu pwy oedden ni fel cwmni. Daethom yn Yrwyr Go2 yn 2017, ar ôl masnachu fel Driver Hire Solutions am ddwy flynedd, ar ôl i un o'n prif gleientiaid ddweud wrthym yn barhaus mai ni oedd eu “cwmni Go to" i yrwyr.

Ers hynny, rydyn ni wedi ehangu'r sectorau rydyn ni yn eu gwasanaethu ac wedi lansio dau gwmni newydd: Personél Go2 a Hyfforddiant Go2. Cyfeirir at y tri chwmni ar y cyd fel Go2 People.

Yn wahanol i asiantaethau cyflogaeth cenedlaethol, mae gennym ddealltwriaeth gref o'r maes busnes lleol a rhanbarthol. Mae hyn yn ein helpu i ddod o hyd i'r bobl iawn yn gyflym ar gyfer y swyddi cywir, fel y gall sefydliadau ein cleientiaid barhau i weithredu'n ddidrafferth.

Mae'r wybodaeth leol hon hefyd yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i ddod o hyd i geiswyr gwaith y swyddi y maent yn gweddu orau iddynt. Rydym yn edrych y tu hwnt i'r CV i nodi a yw ymgeisydd yn addas i'r cwmni gan ein bod yn credu bod hyn yr un mor bwysig â sgiliau a phrofiad.

Rwy'n arolygu ein holl weithrediadau ac yn rheoli ein staff. Mae gennym 10 o bobl yn ein swyddfa a mwy na 100 o weithwyr o bell, rhif sy'n siarad drosto'i hun pan fyddwch yn meddwl sut rydyn ni wedi tyfu ers i mi sefydlu'r cwmni. Rwyf bob amser wedi bod wrth fy modd yn arwain cwmnïau a'u hadeiladu yn fentrau llwyddiannus, ac rwyf wedi gwneud hyn ers i mi ddechrau busnes yn fy arddegau.

Prynais fwyty pysgod a sglodion yn 1987 am £22K pan oeddwn yn 19 oed a datblygu hwnnw'n fusnes gyda trosiant o dros £7,000 yr wythnos, ac yna ehangais hynny drwy brynu busnes cyfagos. Gwerthais hwnnw yn 2003 am tua £300,000 ac ês i mewn i'r diwydiant trafnidiaeth fel gyrrwr lori C1.

 

Yma y sylwais ar le yn y farchnad am gymorth ychwanegol i yrwyr, ac yr oedd gennyf awydd gwirioneddol i fod yn entrepreneur unwaith eto. Felly yn 2010 pan ailstrwythurwyd y cwmni, penderfynais gymryd pecyn diswyddo a dechrau Driver Hire (Wales). Roedd yn ymddangos yn gyfle delfrydol i ddychwelyd at redeg busnes.

Yn ein blwyddyn gyntaf, roedd gennym drosiant o £200,000. Erbyn ein pedwerydd blwyddyn mewn busnes roeddem wedi cynyddu i dros £800,000.

Cawsom ergyd wirioneddol i'r busnes yn 2015 pan benderfynodd un o'n prif gleientiaid ailstrwythuro, a olygai eithrio gofynion asiantaethau a mynd i gontractau cyflogaeth dim oriau. Roedd hyn yn golygu colled posibl o £400,000 o drosiant.

Bu'n rhaid inni ddod â phartner busnes i mewn i edrych ar werthiannau, a newidiwyd enw'r cwmni i Driver Hire Solutions nes iddo gael ei newid o'r diwedd i Gyrwyr Go2 yn 2017. Erbyn 2019 tyfodd y busnes i tua £2.5 miliwn o drosiant gyda chleientiaid ychwanegol, a hefyd daeth y cleient 'coll' yn ôl – gan ddod â £500,000 mewn trosiant yn ôl gyda nhw.

Ar ddiwedd 2019 penderfynwyd bod angen i'r bartneriaeth ddod i ben felly prynais y cyfranddaliadau hynny a dod yn unig berchennog a chyfarwyddwr. Roedd ein trosiant yn 2020 yn £2.7 miliwn, a gyda'r twf a ragwelir yn aros yr un fath, rydym yn disgwyl trosiant o £3-3.25 miliwn yn 2021.


Beth ydych mwyaf balch ohono hyd yn hyn?

Rwy'n credu bod y cwmni yn cael ei barchu gan ein cleientiaid am fod yn ddarparwr gwasanaeth o safon, yn hytrach nag asiantaeth sy’n dod o hyd i yrwyr o unrhyw safon. Rydym yn cael ein gwerthfawrogi gan rai o brif gwmnïau'r DU felly mae hynny'n golygu llawer i mi'n bersonol, ar ôl sefydlu'r cwmni, ond rwy'n credu ei fod hefyd yn helpu staff i ddeall bod eu gwaith caled yn talu ar ei ganfed ac yn golygu ein bod yn gwneud y pethau iawn.


Pa heriau ydych chi wedi eu hwynebu?

Roedd yna bwynt lle nad oeddwn yn cyd-dynnu’n dda gyda fy mhartner busnes blaenorol. A bu'n rhaid inni ddod allan o’r sefyllfa honno. Rhoddodd hynny lawer o amser imi feddwl. Rwyf wedi dysgu llawer.

Yna eleni, bu’n rhaid inni ddelio â'r pandemig. Fel bron pob busnes, mae yn effeithio ar yr hyn a wnawn. Mae busnes wedi parhau yn sefydlog, ond nid yw hynny'n golygu nad yw wedi cael ergyd. Cyn COVID-19, roedd twf gyrwyr Go2 ar y trywydd iawn i gyrraedd 50%, ond mae'n debygol o fod tua 22% erbyn hyn, sydd yn newyddion gwych yn ystod cyfnod ansicr iawn. Roedd ein partneriaid ariannol yn rhyfeddu bod y cwmni wedi gwneud cystal yn ystod misoedd y pandemig.

Dioddefodd Personél Go2 oherwydd bod rhan o waith yr adran honno mewn twristiaeth. Ond gwnaethom gyflogi dau aelod newydd o staff gyda phrofiad recriwtio yn 2020 ac mae'n ymddangos bod busnes bellach yn gwella eto.

 

Petaech yn dechrau eto, beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol?

Fyddwn i ddim yn ymrwymo i bartneriaeth eto, mae hynny wedi bod yn wers bwysig i mi, a byddwn byth yn newid unrhyw beth heb dderbyn cyngor da yn gyntaf.

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?

Mae bod yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi rhoi llawer iawn o gymorth ac arbenigedd i'n busnes. Rydym wedi cael hyfforddiant ar ystod eang o swyddogaethau busnes. Mae wedi bod mor ddefnyddiol i ni ac wedi ymgorffori llawer o arferion da o fewn y cwmni yn ogystal â sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda wrth i ni dargedu twf newydd.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi'n eu rhoi i fusnesau eraill sy'n dechrau?

 

● Gweithio'n galed i sbarduno twf busnes a chadw llygad ar bethau pan fyddwch wedi adeiladu momentwm a busnes sefydlog.

● Canolbwyntio'n glir ar yr hyn rydych chi'n anelu amdano a pheidio gadael i chi eich hun gael eich taflu oddi ar y trywydd iawn gan ddigwyddiadau annisgwyl.

● Eich staff YW eich busnes, felly dylech eu trin â pharch.

● Byddwch yn angerddol am yr hyn rydych chi'n ei wneud.

● Cyflogi rheolwyr y gallwch ymddiried ynddynt.

● Dylech bob amser gredu yn y cwmni  – gwydr hanner llawn bob amser!


 

Dysgu mwy am Go2People.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page