Chwyldro yng ngofal y geg: Brushbox, gwasanaeth bocs tanysgrifio brwshys a phast dannedd cyntaf y DU, sy’n cludo cynhyrchion i’ch stepen drws pan fyddwch chi eu hangen. Sefydlwyd y cwmni ym mis Mawrth 2017, a dechreuodd weithredu ar 15 Ionawr 2018. Yn ei flwyddyn gyntaf, nod y cwmni o Gaerdydd yw sicrhau mwy o danysgrifiadau na’r 5,000 a gafodd y gwasanaeth raseli Cornerstone.

Brushbox


Y person a gafodd y syniad am fenter ar-lein Brushbox yw’r cyn-gynghorydd ariannol Mike Donovan. Nod y gwasanaeth, sy’n cael cefnogaeth ariannol gan y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Martyn Williams ymysg eraill, yw datblygu i fod yn frand ar-lein gorau’r byd am gynhyrchion gofal y geg. Bydd ei wasanaeth tanysgrifio yn cludo cynhyrchion gofal y geg i gartrefi cwsmeriaid, gan gynnwys brwshys a phast dannedd bob deufis – gyda’r opsiwn i dderbyn edau ddeintiol a glanhawyr tafod hefyd. Mae’r brwshys a gynigir yn wahanol iawn i’r rhai a welwch chi ar y silff yn yr archfarchnad a gall cwsmeriaid ddewis o blith rhai ‘safonol’ neu rai bambŵ crwm a llyfn.

Meddai Mr Donovan: “Fe sefydlais i Brushbox gyda’r nod o newid y ffordd mae pobl yn meddwl am eu dannedd ac yn gofalu amdanyn nhw. Rydyn ni’n wasanaeth bocs tanysgrifio iechyd y geg sy’n cludo cynhyrchion deniadol yn syth i’ch stepen drws, gan gynnig cyfleustra, fforddiadwyedd ac, yn bwysicaf oll, iechyd da. Mae dannedd yn bwysig i ni i gyd, ond amcangyfrifir nad yw 70% ohonom ni yn y DU yn newid ein brwsh dannedd pan ddylen ni wneud hynny, a gall y canlyniadau fod yn eitha dychrynllyd. Ar gyfer y rhai â bywydau prysur sy’n poeni am eu lles eu hunain a lles eu teulu, gallan nhw gofrestru i gael tawelwch meddwl a ffordd syml a chyfleus o sicrhau ceg iach a gwên hardd.”

Gyda’i fodel 'Prynu 1, Rhoi 1', mae’r cwmni wedi meithrin partneriaeth â’r elusen ddeintyddol ryngwladol Dentaid i ddarparu brwshys dannedd ar gyfer ei fenter BrightBites, sy’n darparu rhaglenni addysg iechyd y geg i ysgolion ledled y DU. Meddai Mr Donovan, 36 oed, sy’n dad i dri o blant: “Rydyn ni’n bwriadu gwneud newid sylweddol i wella iechyd y geg i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”  Meddai Dr Richard Vangasse, deintydd a phartner yn Restore Dental Group, nad yw’n gysylltiedig â Brushbox: “Mae Brushbox yn ffordd wych a syml o sicrhau eich bod chi’n newid eich brwsh dannedd pan ddylech chi wneud hynny. Bydd pob deintydd yn dweud wrthych chi fod hyn yn gwbl hanfodol."

Brushbox


Mae Brushbox yn darparu bocsys i oedolion a phlant ac yn gallu darparu cynhyrchion ar gyfer hyd at bedwar person mewn bocs – cymysgedd o blant ac oedolion. Bydd y cynhyrchion yn cael eu hanfon atoch bob yn ail fis, yn unol ag argymhelliad deintyddion. Ar gyfer un person, pris tanysgrifiad yw £3.49 y mis, neu £3.99 ar gyfer yr opsiynau bambŵ, gyda’r edau ddeintiol a’r glanhawyr tafod yn costio £1.00 y mis yn ychwanegol. Mae’r prisiau’n gostwng os oes cynhyrchion i fwy nag un person mewn bocs.

Twf busnes
Mae’r busnes wedi sicrhau buddsoddiad ecwiti o £245,000 ar gyfer cyfalaf gweithio cychwynnol, marchnata, datblygu cynhyrchion newydd a thwf strategol. 
Mae Brushbox yn rhan o raglen ‘Entrepreneurial Spark’ NatWest, sef y rhaglen gyflymu fwyaf yn y byd ar gyfer busnesau newydd a busnesau twf.
 

Ymyrraeth Cyflymu Twf.
Mae Brushbox yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Llywodraeth Cymru hefyd, a gynlluniwyd ar gyfer cwmnïau twf uchel sy’n ehangu’n gyflym.
 

Share this page

Print this page