Mae hi’n anodd cychwyn busnes newydd, ond os ydy eich syniad yn ddigon da a’ch bod yn ddigon penderfynol i wneud iddo weithio, yna gallwch chi lwyddo.

Mae Ashley Young newydd gamu i fyd busnes, drwy sefydlu The Young Creative Agency.

Mae’r busnes yn Sili ym Mro Morgannwg ac yn cynnig amrywiaeth o atebion creadigol i fusnesau, gan gynnwys brandio, fideo, ffotograffiaeth a dylunio.

Yn ein blog diweddaraf, mae Ashley yn egluro’r weledigaeth sydd y tu ôl i’w gwmni, sut mae’n bwriadu tyfu rhagor – ac mae’n rhoi manylion y cymorth hollbwysig a gafodd gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

 

Dywedwch wrthyn ni am The Young Creative Agency.
Fe gefais i’r syniad yn gyntaf yn 2019. Roeddwn i’n gweithio mewn ffotograffiaeth ar gyfer brandiau ffasiwn pan gefais i'r syniad o greu ateb creadigol sy’n cynnwys popeth ar gyfer y diwydiant.

Gallwn i weld bod rhywbeth ar goll yn y gwasanaethau a oedd yn cael eu darparu ac roeddwn i’n meddwl y gallwn i gamu i mewn a chynnig rhywbeth ychydig yn wahanol, rhywbeth a oedd yn ychwanegu gwerth.

Beth yn union ydy hynny? Wel, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o ddewisiadau creadigol i’n cleientiaid – ffotograffiaeth, fideograffiaeth a ffilmio drwy ddefnyddio dronau. Ond rydyn ni hefyd yn darparu modelau, gofod mewn stiwdio neu ar leoliad ac rydyn ni’n gwneud y gwaith ôl-gynhyrchu a'r math hynny o beth.

Yn gyntaf, roeddwn i’n meddwl y byddai hyn yn rhywbeth y byddwn i’n ei gynnig yn gyfan gwbl i’r sector ffasiwn, ond fe wnes i sylweddoli’n gyflym bod galw am y math yma o waith ar draws llu o ddiwydiannau.

Rydyn ni eisoes wedi cadw cleientiaid yn y diwydiannau ffasiwn a harddwch, ac rydyn ni’n cynnal trafodaethau i ddarparu ein gwasanaethau a’n harbenigedd i gwsmeriaid mewn sectorau eraill hefyd. Felly rydyn ni ar gam cyffrous yn natblygiad y busnes.

Mae ein galluoedd cynhyrchu’n golygu ein bod yn gallu cynhyrchu unrhyw beth o gynnwys masnachol i fideos cerddoriaeth, cyfresi YouTube a chynnwys wedi’i frandio.

Gan fod ein cwmni mor ifanc, dau aelod o staff sydd gennym ni ar hyn o bryd – sef fi a’m partner busnes, Jordan Corrin. Mae Jordan yn gyfarwyddwr ac yn chwarae rhan hollbwysig yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud a’r cyfeiriad rydyn ni’n ei ddilyn.

Wrth symud ymlaen, rydyn ni’n gyffrous ynghylch dyfodol y busnes ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i dyfu. Y nod yw cyflogi rhagor o staff ac ehangu ein stiwdio yma yn Sili er mwyn i ni allforio ein gwasanaethau i farchnadoedd ar draws y byd, ac nid dim ond yn y DU.

Rydyn ni hefyd yn edrych ar sut gallwn ni arallgyfeirio ein hincwm, felly rydyn ni’n bwriadu cynnig i bobl logi ein stiwdio a’n hoffer hefyd. Rydyn ni ar dân i gael cychwyn arni.

 

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt busnes hyd yn hyn?
Heb os nac oni bai, y penderfyniad i Jordan fod yn rhan o’r cwmni. Roedd y ffordd gwnaethon ni gwrdd mor addas ar gyfer y math hwn o fusnes – drwy Instagram, lle gwnaethon ni sylweddoli ein bod yn rhannu llawer o syniadau creadigol ac roedd ein sgiliau’n cyd-fynd â’i gilydd yn dda ac yn helpu'r busnes o ran yr hyn gall ei gynnig.

Yn y dechrau, roedden ni’n gweithio ar bethau fesul prosiect, ond daeth hi’n amlwg yn gyflym ein bod yn cydweithio’n dda, felly fe wnes i ofyn i Jordan ymuno â mi yn amser llawn fel cyfarwyddwr a phennaeth cynhyrchu fideo.

Rydyn ni’n falch iawn bod ein partneriaeth yn gweithio, ac mae wedi dod â chymaint o fudd o'r busnes. Mae cael rhywun gyda mi yn golygu bod modd mynd i'r afael â heriau gyda safbwynt a gwybodaeth rhywun arall hefyd. Ac rydyn ni’n cael hwyl yn cynllunio’r dyfodol a mapio llwybr y cwmni.

 

Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Byddwn i’n bendant wedi blaenoriaethu pethau fel y wefan o'r cychwyn cyntaf.

Fe wnaethon ni ddechrau bwrw i'r gwaith mor gyflym ein bod wedi treulio’r rhan fwyaf o’n hamser hyd yma yn gwasanaethu contractau. Mae hi’n hollbwysig gweithio ar bethau yn y cefndir fel y wefan, felly byddwn i wedi gwneud ychydig mwy o hynny cyn symud ymlaen.

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae cael syniad am fusnes yn un peth, ond mae gwybod beth i’w wneud gyda’r syniad hwnnw yn rhywbeth hollol wahanol.

Mae'r arweiniad a gefais gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod mor werthfawr. Ar ôl i mi gael fy nerbyn ar y rhaglen mae fy musnes wir wedi ffynnu.

Roedd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi rhoi amgylchedd i mi lle roeddwn i’n gallu datblygu fy syniad i greu The Young Creative Agency.

Rydyn ni wedi cael cefnogaeth ac arbenigedd defnyddiol a hollbwysig – o gynllunio busnes a gweithdai, i gyngor ariannol a marchnata.

Rwyf wedi gallu cael profiad a chyngor na fyddwn wedi gallu eu cael fel arall.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau arni?

● Glynwch at yr hyn rydych chi eisiau ei wneud. Mae’n dda cael cyngor ac arweiniad gan eraill, ond gwnewch yn siŵr bod y bobl hynny’n gwybod beth maen nhw’n siarad amdano. Dim aelodau eich teulu yw’r gorau i’ch cynghori bob tro!

● Dewch o hyd i bartner. Mae gweithio gydag unigolyn sydd o’r un anian â chi’n gallu gwneud byd o les i’ch busnes. Mae’n bosibl y bydd ganddyn nhw sgiliau nad oes gennych chi, ac mae hi mor werthfawr cael rhywun arall i gynllunio a thrafod pethau â nhw.

● Chwiliwch am raglen fel y Rhaglen Cyflymu Twf! Mae’r gefnogaeth a’r arweiniad a gewch chi gan hyfforddwyr ac unigolion profiadol yn hollbwysig.


 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page