Wrth inni symud tuag at sector ynni sy'n defnyddio rhagor o ynni adnewyddadwy, mae'n bosibl hefyd y bydd cyfleoedd i wella a diogelu ein byd naturiol hefyd.

Dyna beth mae arweinydd busnes o Sir Benfro yn gobeithio ei ddatblygu wrth iddo arwain ymchwil i gynhyrchu ynni ar y môr a'r ffordd y gall ddiogelu planhigion ac anifeiliaid brodorol. Mae Jonathan Williams wedi bod yn gweithio gyda'r Rhaglen Cyflymu Twf Gwyrdd i archwilio ei syniadau.

 

Cafodd y Rhaglen Cyflymu Twf Gwyrdd ei datblygu i helpu busnesau i ddatblygu syniadau gwyrdd, arloesol a fyddai'n helpu i fynd i'r afael â'r heriau sero net penodol rydyn ni fel gwlad yn eu hwynebu.

Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf Gwyrdd yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae Rhaglen Cyflymu Twf yn darparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu. Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

 

 

Mae'r entrepreneur heb ei ail ac amgylcheddwr brwd, Jonathan Williams, yn rhoi trosolwg o'i fusnes, gan egluro pam mae bod yn gynaliadwy mor bwysig a'r ffordd mae'r cymorth a roddwyd iddo wedi helpu ei gwmni gyda'i nodau gwyrdd.

 

Dywedwch wrthon ni am y Pembrokeshire Beach Food Company.
Efallai byddai rhoi bach o fy nghefndir yn lle da i ddechrau. Rwy'n entrepreneur bwyd a diod sydd wastad yn chwilio am yr her nesaf. Rwy'n dod o Sir Benfro, rwyf wedi hyfforddi fel cogydd ac mae gen i MSc mewn gwyddorau amgylcheddol. Yn ogystal, rwy'n dwlu ar syrffio ac mae gen i gariad dwfn at y môr a'r amgylchedd arfordirol – a finnau yn dod o Sir Benfro, oes modd bod fel arall?

 

Ac rwy'n ffodus yn gymaint ag rwy'n gallu cyfuno fy niddordebau a'r hyn rwy'n frwd drosto fe â fy ngwaith. Mae un o fy musnesau, y Pembrokeshire Beach Food Company, yn cyflenwi cynhwysion brodorol wedi'u cynaeafu o arfordir a môr Cymru i gwmnïau eraill.

Mae hyn i gyd wedi fy arwain at edrych ar y ffordd rydyn ni'n gallu manteisio ar y newidiadau rydyn ni'n eu gwneud i'r morwedd, wrth inni gynhyrchu mwy a mwy o ynni adnewyddadwy ar y môr. Mae gweithio gyda'r Rhaglen Cyflymu Twf Gwyrdd wedi bod yn hanfodol i'n gwaith yn y maes hwn.

 

Beth yw eich prosiect diweddaraf?
Roeddwn i am ddatblygu rhywbeth a fyddai'n gwneud y cwest am ynni adnewyddadwy yn gynaliadwy, rhywbeth a fyddai'n diogelu bywyd y môr a gwymon, cramenogion, molysgiaid – yr hyn a elwir yn ddyframaeth – oherwydd eu bod yn dal a chadw cymaint o garbon.

Mae potensial enfawr ar gyfer harneisio'r cyfleoedd sy'n cael eu creu gan y cwest am ynni ar y môr, drwy annog rhywogaethau brodorol o folysgiaid ac anifeiliaid eraill, a phlanhigion, i'w defnyddio yn gynefinoedd. Mae hyn yn ei dro yn gallu helpu i ddal carbon sydd, wrth gwrs, mor hanfodol wrth ddod o hyd i atebion i'r newid yn yr hinsawdd.

 

Y gwir yw bod y strwythurau newydd hyn yn gwella neu'n creu lleoedd i rywogaethau brodorol dyfu. Rydyn ni'n gallu diogelu a chreu cynefinoedd nad ydynt yn cael eu cynaeafu, ond sy'n cael eu gadael i dyfu a ffynnu, gan greu dull carbon glas sy'n dal ac yn cadw llawer o garbon. Y nod syml yw gwella iechyd pur y môr.

 

Sut mae'r Rhaglen Cyflymu Twf Gwyrdd wedi helpu eich busnes?
Drwy ein gwaith gyda'r Rhaglen Cyflymu Twf, rydyn ni wedi derbyn £21,000 ar gyfer ein prosiect ymchwil, a gostiodd gyfanswm o £31,000. Rydyn ni wedi comisiynu astudiaeth arbenigol i nodi ac i siarad â rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â datblygu'r amgylchedd morol ar arfordir Gorllewin Cymru at ddibenion masnachol.

Mae hyn wedi arwain at ddatblygiadau cyffrous, ac mae sefydliad o'r enw Fforwm Arfordir Sir Benfro wedi cael ei gomisiynu i gynnal yr astudiaeth hon i asesu barn a syniadau cyfredol y rhai sy'n gysylltiedig â phrosiectau arfordirol a morol o'r fath. Mae'r rhai yr ymgynghorwyd â nhw yn cynnwys Ystadau'r Goron a'r sector cyhoeddus.

 

Rhan arall o gylch gwaith y prosiect oedd helpu i nodi arianwyr prosiectau posibl (cyllid morol glas) ar gyfer y camau nesaf. Bydd Fforwm Arfordir Sir Benfro yn cwblhau ei astudiaeth ar ddiwedd mis Mehefin.

Bydd camau nesaf y prosiect yn cynnwys dylunio (a diogelu IP) systemau priodol i ddiogelu / creu ecosystemau naturiol yn y môr. I ddechrau bydd y rhain yn cael eu treialu yn yr Ardal Profi Ynni'r Môr arfaethedig sydd eisoes yn cael ei nodi a'i datblygu oddi ar arfordir Sir Benfro.

Mae hefyd gennyn ni astudiaeth ategol sy'n cael ei chynnal gan y Ganolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol (MEECE), sy'n cynnal adolygiad mawr o ddeunyddiau darllen yn y maes hwn – mae angen hyn er diwydrwydd dyladwy ac i helpu i ddenu cyllid ar gyfer y prosiect yn y dyfodol. Mae'r adolygiad yn edrych ar yr hyn sydd eisoes yn bodoli, yn ogystal â'r hyn sy'n cael ei gynnig, ac mae'n cynnwys y wyddoniaeth, y manteision, y syniadau a'r cyfleoedd.

 

Mae'r dyfarniad cyllid Gwyrdd SMART yn hanfodol o ran fy helpu i ddeall yn wrthrychol syniadau a gweithgareddau'r rhai sydd am harneisio pŵer y môr ar ffurf ynni adnewyddadwy, a sut y gellir manteisio i'r eithaf ar eu gweithgareddau i wneud hynny mewn ffordd ddiniwed a chynaliadwy.

Mae'n rhaid cael cam hwn y prosiect yn iawn, er mwyn darparu gwybodaeth gywir a fydd yn cael dylanwad cryf ar gamau dilynol y prosiect. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at fynd i'r afael â'r gwaith pwysig hwn, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru am ei gymorth.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y Pembrokeshire Beach Food Company yma

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru

 

A picture containing graphical user interface

Description automatically generated

 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen Cymru gyfan a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth.  

Share this page

Print this page