Mae cwmni plastig du o Gymru yn datblygu technoleg a fyddai'n arbed miloedd o dunelli o wastraff rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.Ar hyn o bryd, nid yw rhan fwyaf y plastig sy'n cael ei ddefnyddio yn y diwydiant bwyd ar gyfer pacio yn cael ei ailgylchu gan nad yw'r sganwyr yn gallu ei ganfod.Bellach mae'r cwmni o Fedwas, Colour Tone Masterbatch wedi dod o hyd i gynnyrch du y gall sganwyr ei ganfod ac sy'n gost-effeithiol.Gallai olygu y gall tunelli o wastraff oedd yn y gorffennol yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi neu ei losgi gael ei ailgylchu yn lle hynny.

Mae plastig du yn tueddu i gael ei ddefnyddio gan weithgynhyrchwyr bwyd ar gyfer eu cynnyrch gan ei fod yn ei wneud yn fwy deniadol i gwsmeriaid. Ond daw hynny â chost amgylcheddol yn aml, gyda'r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn rhybuddio bod 525,000 tunnell o gynnyrch bwyd plastig yn cael ei ddefnyddio gan gartrefi'r DU bob blwyddyn, a dim ond 169,000 tunnell sy'n gallu cael ei ailgylchu.Gan bod rhan fwyaf y deunydd pacio plastig du yn cynnwys carbon du a lliwiau sy'n sugno golau is-goch, roedd hyn yn eu gwneud yn anweledig i dechnoleg sganio.

 



Fel y dywedodd Sion Atteby, rheolwr cyffredinol Colour Tone Masterbatch, mae newid y lliw - sef cael gwared ar garbon a rhoi nifer o liwiau eraill yn ei le i greu du - yn y cynnyrch yn golygu bod modd i'r plastig du y mae'r cwmni'n ei gynhyrchu gael ei ganfod wrth iddo gael ei rannu mewn canolfannau ailgylchu.   Y manteision dwbl yw, yn wahanol i blastig ysgafnach, y gall plastig o liw arall gael ei ailgylchu yn blastig du, gan ei wneud yn fwy cynaliadwy na chynwysyddion bwyd mewn lliwiau goleuach. Bu Mr Atteby yn arwain gwaith Colour Tone gyda'r Rhaglen Cyflymu Twf, cynllun datblygu busnes Llywodraeth Cymru sy'n rhoi cymorth a chyngor i gwmnïau sydd am ehangu.Mae'r gwaith gyda'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi helpu Colour Tone - sy'n cyflogi 50 o bobl ac sydd â throsiant o oddeutu £5.5 miliwn - i nodi y posibiliadau ar gyfer twf, yn enwedig yn y marchnadoedd dramor, wedi iddo gael ei brynu yn 2017.

Dywedodd Mr Atteby bod gan y cynnyrch, sydd wedi'i ddatblygu ers 2010, bosibiliadau enfawr.Ar y cychwyn, roedd y dechnoleg yn rhy ddrud ar gyfer archfarchnadoedd, ond mae Colour Tone wedi dod o hyd i ffordd o leihau'r gost yn ei blastig du.Meddai: "Dyma rhywbeth sydd wedi'i ddatblygu yn lleol gan BBaCh cymharol fychan a dyma dechnoleg y gellid ei fabwysiadu a chael effaith ar rhywbeth sy'n cael cymaint o sylw ac sy'n fater o bwys i'r cyhoedd."

 


Mae'r nifer sy'n defnyddio'r cynnyrch yn parhau i fod yn isel, gyda defnyddwyr yn cael eu drysu gan y negeseuon ynghylch cynaliadwyedd plastig du."Mae'r defnyddiwr wedi dechrau meddwl nad yw'n bosibl ailgylchu plastig du, ond nid yw hynny'n wir - mae du yn gynaliadwy iawn gan y gellir ei ddefnyddio mewn mathau eraill o blastig y gellir ei ailgylchu, a gellir ei ailgylchu ar ddiwedd ei oes," meddai Mr Atteby.Mae'n golygu dyfodol cyffrous i'r cwmni gyda'r posibilrwydd o ddatblygu twf a swyddi'n cael eu creu yng Nghymru."Gallai'r twf mewn busnes fod yn enfawr - gallai fod yn o leiaf 30% o gynnydd mewn allbwn, ac yn fwy na hynny, gan ei fod yn gynnyrch gweddol ddrud, o leiaf £1.6 o'n trosiant. Hoffem i Gymru ein cydnabod ni a'n gwaith fel BBaCh yng Nghaerffili."

Cafodd Colour Tone gymorth gan Andy Bird drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, i roi cymorth gydag allforio, recriwtio, datblygu staff a gwella prosesau.Dywedodd Mr Atteby bod cymorth y Rhaglen Datblygu Twf wedi helpu i ddarparu'r cymorth a'r arbenigedd y mae angen mawr amdano er mwyn i'r cwmni ddatblygu a defnyddio ei arbenigedd a'i gynnyrch o safon."Rydym wedi canolbwyntio llawer ar edrych ar ein pwyntiau gwerthu unigryw a mynd â phethau yn ôl i'r elfennau sylfaenol," meddai Mr Atteby."Yn y bôn, rydym wedi bod yn edrych ar bwyntiau gwerthu y busnes. Rydym wedi edrych ar werthiant asiantaethau, dod ag asiantwyr newydd o dramor i mewn ac edrych ar greu lleoliad gweithgynhyrchu sydd wedi caniatáu inni ehangu mewn un maes cynnyrch penodol"

Meddai David Notley o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, "Mae Colur Tone yn fusnes uchelgeisiol, ac rydyn ni'n falch iawn o allu helpu'r cwmni wrth iddo edrych ar y dyfodol gyda gweledigaeth a hyder. Byddwn yn annog busnesau yng Nghymru sydd â dyheadau cryf i dyfu ac ehangu i ystyried a allai'r Rhaglen Cyflymu Twf eu helpu nhw hefyd.”

Rhagor o wybodaeth am
Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Share this page

Print this page