O safbwynt y diwydiant plastigau, mae modd goresgyn heriau drwy fod yn arloesol. Mae hyn yn sicr yn wir yn achos Colour Tone Masterbatch o Fedwas. Os mai pris sydd wedi bod yn gyfrifol yn y gorffennol am y ffaith nad yw sypiau rheoli y gall tonfeddi NIR eu gweld wedi'u mabwysiadu'n eang ar gyfer deunyddiau pecynnu plastig du, yna dylid bod yn falch bod y cwmni yn cyhoeddi ei fod yn torri tir newydd drwy gyflwyno lliwiau newydd am ryw 60% yn llai na'r costau gwreiddiol a ddyfynnwyd.
 


Mae Colour Tone Masterbatch yn cyflogi 50 o staff ar hyn o bryd, a chanddo drosiant o dros £5.5 miliwn. Mae’r gwneuthurwr sypiau rheoli lliw ac ychwanegion yn hoelio sylw ar ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel a lliwiau pwrpasol ar gyfer polymerau cyffredinol, rhai ar gyfer nwyddau a rhai a grëwyd, yn ogystal â chyfuniadau o ychwanegion a wneir ar ddewis cwsmeriaid. Mae'r cwmni hefyd yn ymfalchïo yn ei waith arloesi ac mae wedi lansio cenhedlaeth newydd o sypiau rheoli y gall synwyryddion tonfeddi (NIR) eu gweld. Mae'r gwneuthurwr ychwanegion a sypiau rheoli yn dweud bod yr amrywiaeth wedi'i datblygu i fynd i'r afael â'r pryderon sydd gan berchnogion brand ynghylch ailgylchu tybiau, hambyrddau a ffilmiau plastig untro. Mae'r ddau swp rheoli du cyntaf o'i system liwio ddiweddaraf, sef sypiau rheoli 958884 a 95893 NIR, wedi'u datblygu ar gyfer cymwysiadau polypropylen a gellir eu hychwanegu at unrhyw bolymer i wella’i liw ac mae hefyd yn mynd ymhellach o gymharu â fformwleiddiadau blaenorol. Mae swp rheoli 958884 yn bodloni deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar ddeunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd ac mae ar gael am 0.21c y badell. Mae hynny 60% yn llai o gymharu â'r costau a ddyfynnwyd yn y prosiect cyntaf a gomisiynwyd gan WRAP i fasnacheiddio'r dechnoleg hon. Dyma'r tro cyntaf i swp rheoli du y gall tonfeddi NIR eu gweld gyrraedd y farchnad ac mae swp rheoli 95893 hefyd yn ategu'r cymwysiadau hynny sy'n ofynnol i fodloni safonau'r Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau. Gan fod y rhan fwyaf o ddeunyddiau becynnu plastig du yn cynnwys du carbon a phigmentau sy'n amsugno golau isgoch, roedd hyn yn golygu nad oedd sbectroffotomedrau NIR yn gallu eu synhwyro.
 


Yn ôl Colour Tone, mae wedi bod ar flaen y gad yn y gwaith o sicrhau bod dulliau sortio optegol yn gallu synhwyro plastigau du. "Yn y gorffennol, mae ei phris uchel wedi rhwystro technoleg NIR rhag cael ei mabwysiadu. Rydym bellach yn gallu cynnig swp rheoli sy'n sicrhau’r manteision amgylcheddol gofynnol am bris cystadleuol i berchnogion brandiau a manwerthwyr, ac mae hynny wedi lleihau'r bwlch yn sylweddol rhwng y dechnoleg newydd a phigmentau du carbon confensiynol", dywedodd Tony Gaukroger, Cyfarwyddwr Colour Tone. "Drwy nodi'r genhedlaeth nesaf o bigmentau NIR, mae hynny nid yn unig yn sicrhau bod plastigau yn cael eu synhwyro a'u hailgylchu'n effeithiol ar ddiwedd eu hoes, ond mae hefyd yn galluogi perchnogion brandiau a manwerthwyr i ddod o hyd i ddewisiadau eraill yn hytrach na phlastigau sydd heb eu hailgylchu. Bydd hynny'n sicrhau bod y ffrwd wastraff werthfawr hon yn cael ei defnyddio'n effeithiol".

Mae Colour Tone wedi cael cymorth gan Andy Bird drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru i'w helpu i allforio, i recriwtio, i ddatblygu staff ac i wella prosesau.


 

Dysgu mwy am Colour Tone Masterbatch.

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page