Mae Pennotec, cwmni technolegol o Y Ffôr ger Pwllheli yng Ngwynedd yn dechrau ar y cyfnod nesaf o ddatblygu ar gyfer cynnyrch newydd sy'n troi cregyn gwastraff o brosesu bwyd môr yn ddeunydd i lanhau pyllau nofio.

Mae'r cwmni o ddatblygu eu busnes, eu hyfforddiant a'u buddsoddiadau, yn gweithio i ddod o hyd i ffyrdd newydd o droi gwastraff bwyd diwydiannol yn gynnyrch pob dydd a lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Mae'r cwmni yn nodi ac yn tynnu deunyddiau a fyddai yn y gorffennol wedi'u cyfrif fel gwastraff gan ddiwydiannau bwyd, megis calon afalau a chregyn cramennog, ac yn eu hail-ddefnyddio mewn cynnyrch eraill.

 

Mae gwastraff wrth gynhyrchu bwyd, er yn llawer llai na'r hyn sy'n cael ei gynhyrchu gan gartrefi, yn sylweddol, gyda 3.6 miliwn o dunelli o weddillion a gwastraff bwyd yn cael ei greu gan ffermydd y DU yn 2017. Mae'r camau gan gwmnïau fel Pennotec yn ail-gyfeirio gwastraff yn adnoddau ar gyfer gweithgynhyrchu a chynhyrchu arloesol. Mae Pennotec wedi datblygu ffurf o fiodechnoleg sy'n pydru gwastraff bwyd fesul tipyn gan ddefnyddio eplesu ac ensymau naturiol mewn ffordd sy'n cadw y cynnyrch gwerthfawr yn y sgil-gynhyrchion.

 

Wedi gweithio yn y gorffennol ar ymchwil a datblygu, mae Pennotec bellach yn gweithio gyda phrifysgolion Cymru ac yn dechrau ar gam nesaf datblygu purwr dŵr naturiol - sef deunydd glanhau dŵr - wedi'i dynnu o gregyn gwastraff wedi prosesu bwyd môr i'w defnyddio mewn systemau hidlo ar gyfer pyllau nofio a therapi dŵr.

Gymru, gyda chefnogaeth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sy'n helpu cwmnïau i.

 

Dr Jonathan Hughes o Pennotec
Dr Jonathan Hughes o Pennotec

 

 

Mae perchennog a Rheolwr-gyfarwyddwr Pennotec, Dr Jonathan Hughes, yn datgan sut y mae dull ei gwmni o ddod o hyd i werth o wastraff bwyd yn wahanol i ddulliau masnachol eraill, megis cynhyrchu bio-nwy o dreulio anaerobig, o ran ei fod yn gallu tynnu cynnyrch gwerthfawr penodol allan.

Meddai: "Rydyn ni wedi dechrau cynhyrchu a gwerthu cynnyrch puro dŵr naturiol wedi dod o gregyn cramennog (crancod a corgimwch). Mae gennym nifer o gynnyrch tebyg ar y gweill, y prif un yw ffibrau tebyg i fraster o ffrwythau a llysiau - yn enwedig afalau sy'n weddill a heb eu graddio a'r gweddillion o gynhyrchu sudd a seidr. "Y dechnoleg fasnachol sefydledig ar gyfer sicrhau gwerth o wastraff bwyd yw cynhyrchu bio-nwy. Mae hyn yn pydru popeth - deunyddiau gwerthfawr a braster gwerth isel - i garbon monocsid, methan, dŵr a gwres. Trwy dynnu y cynnyrch gwerthfawr allan yn gyntaf, gallwn ddefnyddio gwastraff yn fwy cynaliadwy.

Meddai David Notley o Gonsortiwm Exelerator, sy'n darparu Rhaglen Cyflymu Twf Llywodraeth Cymru: "Mae Pennotec yn gwmni cyffrous ac arloesol arall o Gymru sy'n manteisio ar yr angen yn fyd-eang i greu cynnyrch newydd o ffynonellau cynaliadwy. Mae'n dod i farchnad sydd megis dechrau, ond un sydd angen cwmnïau o Gymru wrth inni sicrhau bod ein heconomi yn barod at y dyfodol."

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn flaenllaw o fewn yr economi gylchol yn y DU, gan fuddsoddi miliynau o bunnoedd yn hybu cyfraddau ailgylchu y wlad - mae ganddi y gyfradd ailgylchu orau o bedair gwlad y DU - a chyfleoedd cylchol i fusnesau, cyllid megis y £6.5 miliwn a neilltuwyd ym mis Ebrill 2019 i helpu busnesau symud tuag at ganolbwyntio ar ddeunyddiau ailgylchu eilaidd a lleihau y ddibyniaeth ar ddeunyddiau crai.

 

Dysgu mwy am Pennotec.

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page