Mae cwmni technoleg gwybodaeth blaenllaw wrth ei fodd ar ôl i’w weithlu a’i drosiant gynyddu bob blwyddyn ers iddo gael ei brynu. Mae disgwyl hefyd i bethau barhau i wella gan fod Risc IT Solutions yn Llandudno am recriwtio tri aelod newydd o staff a phrynu cwmni arall er mwyn ehangu’n bellach yn y Deyrnas Unedig.
 


Gan siarad yn Church Walks, pencadlys godidog y cwmni, dywedodd pennaeth y cwmni, Jeremy Keane, fod y cwmni, sy’n arloesi ym maes y cwmwl, wedi cynyddu 30% bob blwyddyn ers 2013, ers iddo fe, Joanna Stewart a sylfaenydd y cwmni gwreiddiol, Paul Roberts, brynu’r busnes oddi wrth ei berchenogion, Risc Group SA.

 

Bellach, mae’r cwmni’n cyflogi 16 o bobl ac yn cydweithio â 220 o ail-werthwyr i ddarparu atebion cwmwl a technoleg gwybodaeth arloesol i fusnesau a chwmnïau angori mewn amrywiaeth o sectorau megis diogelu a gwarchod data, cydymffurfio a darparu seilwaith.
 

Dywedodd Jeremy fod y cwmni bellach yn bwriadu canolbwyntio ar werthu’n uniongyrchol - strategaeth y bydd Mark Lawton, cyn-gyfarwyddwr datblygu busnes i Microsoft, yn canolbwyntio arni. Y gobaith yw manteisio ar gysylltiadau cryf Mark a pherthynas y cwmni â Microsoft ei hunan. Dywedodd Jeremy, sy’n dod o Fae Colwyn, “Rydyn ni wedi cyrraedd cyfnod parhaus o dwf ond hoffwn ni dyfu ymhellach naill ai drwy brynu cwmnïau neu drwy werthu’n uniongyrchol. Rydyn ni wedi llwyddo i gynyddu’n refeniw rhwng 20% a 30% bob blwyddyn ers i’r tîm rheoli brynu’r cwmni a chan fod y tîm yn tyfu’n gyson, nawr yw’r amser inni fentro eto.”

Mae’n dweud bod gwahoddiad i gymryd rhan yn y Rhaglen Cyflymu Twf uchel ei pharch dan nawdd Busnes Cymru yn 2016 wedi ysbrydoli’r staff a sbarduno newid yng nghyfeiriad y cwmni. “Buon ni’n ystyried lle roedd modd gwella yn y cwmni a chawsom gymorth drwy’r rhaglen mewn amryw o ffyrdd, o roi cyngor ar entrepreneuriaeth i ddod o hyd i gyllid am brosiectau”, dywedodd Jeremy. “Yn bendant, fe wnaeth y rhaglen wahaniaeth inni gan fod y canlyniadau’n cael eu mesuro mewn swyddi a thwf, a dyna lle rydyn ni wedi llwyddo yn y blynyddoedd diwethaf. Rydyn ni wedi recriwtio’n gyson a byddwn ni’n cyflogi tri aelod arall o staff gwerthu yn y flwyddyn ariannol nesaf, efallai mwy. Llwyddon ni i gyrraedd ein targedau o dan y Rhaglen yn ogystal â’n targedau ein hunain. Er hynny, rydyn ni am barhau i wella ac ni fyddwn ni’n gorffwys ar ein rhwyfau.”

 

 

Gan dargedu busnesau ag iddynt rhwng 50 a 500 o weithwyr, mae Mark yn credu bod enw da Risc am ei wasanaethau i gwsmeriaid a’i ddibynadwyedd yn unigryw. Dywedodd, “Mae’n hethos yn ymwneud â gwerthoedd traddodiadol ac atebion arloesol, ac ni waeth faint y tyfwn ni, ni fyddwn yn anghofio hynny. Rydyn ni’n delio â sefydliadau enfawr ond maen nhw’n gwybod pan fyddan nhw’n galw y bydd grŵp dethol o ymgynghorwyr arbenigol yn ymdrin â’u problem, ac felly rydyn ni’n cadw’r cysylltiad personol. Mae rhai o’r cwmnïau hyn wedi bod yn gwsmeriaid Risc am ddegawd neu fwy. Yn dyst i’r math o berthynas sy’n cael ei chreu wrth ddarparu gwasanaeth rhagorol a chydweithio, mae rhai aelodau o’n staff wedi mynd i briodasau’n cleientiaid.
 

Sefydlodd Jeremy a’r cyd-sylfaenydd Paul Roberts y cwmni yn 2001 a symudodd y cwmni o Milton Keynes i Ogledd Cymru.
 

Cliciwch yma i weld rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Cyflymu Twf.

Share this page

Print this page