Mae Cyfarwyddwyr Totally Welsh yn falch iawn o gyhoeddi y byddant, ddydd Llun 29ain Ebrill, yn derbyn perchnogaeth lawn a hawliau rheoli canolfannau cyflenwi llefrith ar garreg y drws yn Abertawe a Chaerdydd.
 

Mae Milk & More yn wasanaeth cyflenwi llaeth ar garreg y drws ledled De Cymru a thu hwnt, ac mae ganddynt gynnyrch o safon sy'n amrywio o fwydydd ffres i gynnyrch cartref. Mae'r busnes wedi cynnig gwasanaeth dibynadwy, sy'n cael ei ganmol oherwydd safon y cynnyrch a'r gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, fel a welwyd ar draws yr amrywiol blatfformau adolygu gan gwsmeriaid megis Trust Pilot.
 

Mae Totally Welsh Dairy wedi nodi eu bod yn bwriadu parhau i ddarparu y gwasanaeth hwn fel y bydd y trosglwyddo mor esmwyth â phosibl, gyda cyn lleied â phosibl o darfu ar gyflenwyr a chwsmeriaid. Hefyd, yn ogystal â'r rhestr bresennol o stoc (mae gan Milk & More dros 200 o eitemau ar eu rhestr), bydd Totally Welsh, yn unol ag ethos canolog y busnes, yn defnyddio'r treiddio pellach hwn i'r farchnad fel ffordd o arddangos y gorau un o gynnyrch Cymru - nid yn unig o fewn brand Totally Welsh, ond ar draws y sbectrwm cyfan yng Nghymru. Yr unig amod i fod ar y rhestr yw gallu dangos safon y cynnyrch a'i fod yn gynnyrch lleol.

 


Mae'n bosibl i gwsmeriaid fynd i wefan www.milkandmore.co.uk ac mae addewid y bydd yr un gwasanaeth rhagorol ar gael. Bydd y brandio yn newid yn fuan i frand Totally Welsh Direct.

Meddai Mark Hunter, Rheolwr-gyfarwyddwr Totally Welsh: "Rydym wedi cyffroi yn arw ynghylch sut y gall yr ehangu sylweddol hwn ddatblygu ein busnes, gan ei fod yn fodel busnes sydd wedi profi ei hu a phortffolio defnyddwyr a chyflenwyr. Bydd yn trawsnewid brand Totally Welsh o'r hyn sy'n bennaf yn gwmni yng Ngorllewin Cymru i gwmni i Gymru gyfan. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu - ac yn wir gynyddu - nifer y swyddi yn y sector hwn ac oherwydd hynny mae prynu'r cwmni yn dangos twf gwirioneddol organig."

 

Un o'r pethau sy'n gyrru'r penderfyniad i ehangu brand Totally Welsh yn y ffordd yma yw'r twf o du'r defnyddiwr yn bennaf am siopa ar 'Garreg y Drws' ble y mae'n bosibl cefnogi Dynion Llaeth lleol ledled y wlad. Yn ogystal â bod yn gyfleus i ddefnyddwyr, mae yno sicrwydd hefyd o safon eu cynnyrch, a hefyd y pris teg sy'n cael ei dalu i gyflenwyr y nwyddau hyn. Mae'n fodel busnes cynaliadwy sy'n golygu posibiliadau o ran twf i Totally Welsh.


 

 

Mae Milk & More wedi lleisio eu cefnogaeth i hyn o ran eu bod yn trosglwyddo busnes sy'n llawn posibiliadau i gwmni sydd ag enw da ac sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi'r adnoddau angenrheidiol i fynd â'r busnes i feysydd newydd, ac sy'n sicrhau hirhoedledd y busnes yng Nghymru. Fel busnes hollol annibynnol, mae Totally Welsh mewn sefyllfa i allu ymateb yn gyflym i dueddiadau a chyfleoedd yn y farchnad.

Fel cleientiaid Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, mae Totally Welsh wedi sicrhau 20 o swyddi newydd ers ymuno. Mae'r cwmni wedi derbyn cymorth i ddatblygu busnes a marchnata.

 

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.


 

Share this page

Print this page