Prosesu Bwyd Môr
Mae diwydiant bwyd môr Cymru wedi cael ei ddewis yn un o'r sectorau allweddol a fydd yn cael cymorth drwy Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, Tuag at Dwf Cynaliadwy 2014 - 2020.
Mae gan Gymru sector prosesu sy'n cynnwys rhyw 60 o fusnesau ledled Cymru. Y prif weithgarwch prosesu yw ychwanegu gwerth at bysgod cregyn sy'n cael eu glanio yng Nghymru. Crancod, cregyn moch, cregyn gleision a chocos sy’n cael eu prosesu’n bennaf.
Mae prosesu bwyd môr ac ychwanegu gwerth at gynhyrchion pysgodfeydd yn sector sy'n tyfu yng Nghymru. Mae'r dolenni isod yn rhoi gwybodaeth am gymorth ar gyfer y sector prosesu yng Nghymru a'r gofynion sy'n gysylltiedig ag ef.
Gwybodaeth Gyffredinol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru
Bwyd a Diod Cymru – Sector Allweddol Pysgodfeydd
Gwybodaeth ac Ystadegau
Diwydiant Bwyd Mor yng Nghymru
Understanding the Welsh Seafood Supply Chain (Saesneg)
Sefydliad Rheoli Morol
Y Sefydliad Rheoli Morol yw'r prif gorff i droi ato i gael ystadegau ar lefel y DU am bysgodfeydd masnachol yn y DU. Mae'r ddolen isod yn rhoi gwybodaeth am ystadegau misol a blynyddol.
Grŵp Pysgodfeydd a Gwyddorau Cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor
Mae ymchwil ac adroddiadau yn ymwneud â physgodfeydd Cymru a physgodfeydd cyfagos ar gael drwy'r Grŵp Pysgodfeydd a Gwyddorau Cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor.
Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr
Mae gwybodaeth ystadegol ar lefel y DU am bysgota masnachol a'r diwydiant ehangach ar gael drwy Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr.
Diogelwch a Hylendid Bwyd
Mae diogelwch bwyd yn statudol ofynnol yn y sector prosesu bwyd yng Nghymru. Os ydych am sefydlu busnes prosesu bwyd môr, dylech gysylltu â'ch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd lleol yn y lle cyntaf.
Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Mae'n bwysig cynnwys swyddogion lleol o'r cychwyn cyntaf wrth ichi fynd ati i gynllunio, a gallwch gysylltu â nhw drwy'r prif rifau cyswllt isod, gan ddibynnu pa awdurdod lleol sy'n berthnasol i chi.
Asiantaeth Safonau Bwyd
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r asiantaeth sy'n gyfrifol am ddiogelwch bwyd yn y DU. Os ydych yn sefydlu busnes yng Nghymru, mae ei thudalen 'starting a food business' ar y we yn lle da i ddechrau.
Canolfan Technoleg Bwyd
Mae'r tair Canolfan Technoleg Bwyd yng Nghymru yn cynnig cymorth mewn perthynas â diogelwch bwyd.
Mae'n bwysig nodi'r canllawiau a'r gofynion o ran hylendid wrth brosesu pysgod cregyn a chynhyrchion pysgod. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhoi arweiniad yn hynny o beth ac mae'r dolenni isod yn arwain at wybodaeth ar lefel y DU a Chymru:
Asiantaeth Safonau Bwyd yn Cymru
Shellfish hygiene: Wales (Saesneg)
Mae'n bwysig eich bod yn deall o le mae'ch pysgod cregyn yn dod a'r gofynion cyfreithiol yn ymwneud â diogelwch, er enghraifft, gwenwyndra. Mae gwybdoaeth am rywogaethau a gesglir â llaw i'w gweld yma (dolen at y dudalen)
Cymorth i Fusnesau a Gwybodaeth am Brosesu
Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ddatblygu'r sector bwyd môr yng Nghymru drwy gyfrwng clwstwr. I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd sydd ar gael drwy Glwstwr Bwyd Môr Cymru, ewch i:
Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr yw'r corff sy'n gyfrifol yn y DU am helpu i ddatblygu diwydiant bwyd môr proffidiol a chynaliadwy, sydd hefyd yn arfer cyfrifoldeb cymdeithasol. Mae Seafish yn darparu nifer o fentrau sy'n ymwneud â chyrchu a phrosesu cyfrifol:
Asesiad Risg Seafish ar gyfer Cyrchu Bwyd Môr (RASS)
Gwybodaeth Seafish am Gyrchu Cyfrifol
Cynllun Pysgota Cyfrifol Seafish (RFS)
I gael gwybodaeth am gyllid a sut fynd ati i ddatblygu busnes, cliciwch yma
Grwpiau Rhanddeiliaid
Grŵp Cynghori ar Bysgodfeydd Môr Cymru
Mae Grŵp Cynghori ar Bysgodfeydd Môr Cymru yn cysylltu â grwpiau buddiannau defnyddwyr ar ran Gweinidogion Cymru ac yn trafod pysgodfeydd môr yng Nghymru.
Pwyllgor Cynghori Seafish Cymru
Cymdeithas Pysgotwyr Cregyn Gorllewin Cymru
Strategaeth a Pholisi
Strategaeth y Môr a Physgodfeydd