Datblygu Adnoddau Dynol mewn Busnes Cymdeithasol

Mae’n bwysig bod yn eglur ynghylch beth yw sail y berthynas rhwng busnes cymdeithasol a’r bobl sy’n gwneud y gwaith. A yw’r gweithiwr yn bartner, yn gontractwr hunangyflogedig, yn wirfoddolwr neu’n weithiwr sy’n cael ei dalu’n uniongyrchol? A ydynt yn gweithio’n amser llawn neu’n rhan amser, ac os ydynt yn rhan-amser, a yw’r busnes yn brif gyflogwr neu’n gyflogwr eilaidd?

Warning sign

Pwyntiau i'w hystyried

Mae dibynnu ar ewyllys da, neu ddrysu perthynas sydd o bosibl yn gymhleth, neu ddibynnu ar gyd-ddigwyddiad tybiedig amcanion cymdeithasol, yn gallu arwain at roi trefn ar y materion hyn drwy brosesau drud o ran amser ac arian, naill ai’n fewnol, neu mewn Tribiwnlys Diwydiannol neu mewn Llys.

 

Wrth gymryd cyflogaeth, a yw’r gweithiwr yn derbyn hawliau a chyfrifoldebau fel Aelod, perchennog rhannol neu bartner, ac os felly, a yw hyn yn digwydd ar unwaith neu ar ôl cyfnod prawf (neu fodloni gofynion prawf)?

Mae swyddogaeth Datblygiad Adnoddau Dynol (DAD) yn allweddol i oroesiad a llwyddiant Busnes Cymdeithasol, ac mae’n egwyddor gadarn i roi’r rôl hon yn benodol i rywun neu ryw dîm sydd â’r amser a’r gyllideb ariannol sydd eu hangen iddynt ei gweithredu.

Mae DAD da yn dod ag eglurder i’r berthynas rhwng busnes a gweithiwr. Mae disgrifio’r rolau y disgwylir i weithwyr eu cyflawni yn allweddol i eglurder. Mae’n bosibl y bydd gan y rôl hon nifer o swyddogaethau gwahanol oddi mewn iddi (Aelod, Cyfarwyddwr, swyddogaeth(au) rheolaeth fewnol, swyddogaeth(au) perthynas allanol, yn ogystal â gwaith o ran cynhyrchu neu ddarparu gwasanaeth). Po fwyaf clir fydd eu disgrifiad mewn swydd ddisgrifiadau, y gorau oll fydd gweithiwr yn deall ei rôl ei hun a rôl y gweithwyr eraill, y gorau oll fydd y rheolwyr craidd yn deall pwy sy’n gwneud beth (a’r hyn sydd eto i’w wneud gan unrhyw un), a’r gorau oll y bydd y rhai sy’n gyfrifol am Adnoddau Dynol a Datblygu’n deall sut y gallant fynd i’r afael ag anghenion hyfforddi’r gweithlu. Bodlonir yr anghenion hyn trwy gynllun DAD a chyllideb y dylid ei chymeradwyo gan y Cyfarwyddwyr (neu gyfartal) a dylai’r rhain fod yn rhan annatod o’r Cynllun Busnes.

Gellir adlewyrchu’r Cynllun DAD mewn Cynlluniau Datblygiad Personol (CDPau) ar gyfer pob gweithiwr. Cytunir ar CDPau gydag aelodau’r gweithlu ac maent yn mynd i’r afael â’r hyn sy’n ofynnol er mwyn iddynt gyflawni eu rôl bresennol a’u rôl ragamcanedig yn effeithiol ac effeithlon. Yn dibynnu ar bolisi a chyllideb y Busnes Cymdeithasol, mae’n bosibl y gallai fynd i’r afael hefyd â datblygiad personol a phroffesiynol ehangach.

Dylid adolygu rôl a datblygiad proffesiynol gweithwyr yn rheolaidd ac o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae creu dealltwriaeth gan y gweithiwr a DAD ynghylch y rôl a sut mae’n gweithredu o fewn y busnes yn ei gyfanrwydd yn gallu arwain at gynigion ar gyfer newidiadau i’r rôl honno, neu i rolau eraill, neu i brosesau neu i ddosbarthu adnoddau yn y busnes er mwyn gwella effeithiolrwydd cyffredinol.

Dewch o hyd i fwy am Hyfforddiant Staff a Chymorth Sgiliau ar wefan y Porth Sgiliau.

Hefyd, gellir defnyddio hyn i sefydlu safonau ar gyfer perfformiad gwaith a thargedau ar gyfer gwelliannau o ran ansawdd ac effeithiolrwydd. Gellir defnyddio’r rhain yn eu tro ar gyfer proses werthuso ac adborth ar berfformiad gweithiwr.

Mae disgrifiadau swyddi cynhwysfawr yn werthfawr iawn wrth recriwtio. Mae’n galluogi’r swyddogaeth DAD i hysbysebu gofynion yn gywir, i lunio rhestr fer o ymgeiswyr sy’n gallu dangos y wybodaeth, y sgiliau, y tueddfrydau a’r diddordebau priodol ac i lunio profion a chwestiynau ar gyfer cyfweliadau a fydd yn cynyddu’r siawns o ddethol yr ymgeisydd cywir. (Hefyd, bydd yn cynyddu’r siawns o gofnodi cydymffurfiad â Pholisi Cyfle Cyfartal busnesau a gofynion cyfreithiol.) Ceir rhagor o wybodaeth am recriwtio staff, contractau ac amrywiaeth ar y wefan Busnes Cymru.

Mae gan fusnesau cymdeithasol gyfleoedd i farchnata eu swyddi gwag trwy lawer o rwydweithiau yn ymwneud â’u cenhadaeth gymdeithasol, eu sector masnach, grwpiau buddiant ac ati.  Mae’n talu ffordd i fod yn ddi-ildio ac i hysbysebu am ymgeiswyr mewn modd mor eang â phosibl hyd yn oed os yw’r busnes yn ifanc, y dyfodol yn ansicr a’r cydnabyddiaethau ariannol ychydig yn anghystadleuol. Ystyriwch bob amser y posibilrwydd y cewch eich synnu ar yr ochr orau gan bobl uchel eu cymhelliant gyda dealltwriaeth o realiti busnes yn cynnig eu gwasanaethau.

Mae busnesau cymdeithasol hefyd yn gallu bod yn ddi-ildio yn y ffordd y maent yn ffurfio’r berthynas gychwynnol hollbwysig gyda gweithiwr newydd. Ystyriwch gyflwyno system brawf lle cytunir a gwneir yn eglur i’r ddwy ochr – y busnes a’r gweithiwr – fod angen iddynt brofi eu bod yn addas at y diben. Mewn cytundeb prawf, mae’r gweithiwr yn cytuno i fodloni gofynion a safonau’r rôl a roddir iddynt ac mae’r busnes yn cytuno i ddarparu’r ymsefydlu, yr hyfforddiant a’r mentora sy’n ofynnol i’w cefnogi i wneud hynny. Mae hyn yn galluogi DAD i adolgyu cynnydd yn rheolaidd (yn chwarterol, dyweder) ac i addasu’r gefnogaeth (gan mai’r amcan yw i’r gweithiwr gyflawni’r cyfnod prawf yn hapus a chynhyrchiol a mynd ymlaen i gyflogaeth sefydlog) ac i lunio barn gymwys â thystiolaeth ynghylch a yw’r gweithiwr yn haeddu cael eu cyflogi.

Mae’r swyddogaeth DAD hefyd yn sicrhau bod y Busnes Cymdeithasol yn bodloni ei rwymedigaethau o dan y gyfraith ac o ran ymarfer gorau fel cyflogwr da. Conglfaen y berthynas rhwng Busnes Cymdeithasol a gweithwyr yw ei gontract cyflogaeth safonol. Mae gwybodaeth mwy manwl ar ofynion cyfreithiol ar gael ar wefan Busnes Cymru ac ar ymarfer da gan ACAS. Mae llawer o Fusnesau Cymdeithasol o’r farn bod cefnogaeth a chyngor gan Undeb Llafur sy’n berthnasol i’w masnach yn fuddiol ac yn annog eu gweithlu i ymuno ag Undeb Llafur.

Mae materion Disgyblu a Chwynion, lle mae’r rhain yn ymwneud â chyflogaeth, hefyd yn rhan o swyddogaeth DAD. Wrth weithredu gweithdrefnau disgyblu, mae’n bwysig iawn gweithredu’n ofalus, yn gymesur ac i ystyried Cyfraith Cyflogaeth a’r codau ymarfer da a gyhoeddir gan ACAS. Peidiwch ag anghofio ystyried unrhyw hawliau ychwanegol a roddir i weithwyr neu Aelodau gan ddogfen lywodraethu, polisïau, gweithdrefnau, arferion ac ymarferion y Busnes Cymdeithasol ei hun. Yn arbennig, cofiwch y gallai’r rhain roi hawl ychwanegol i apelio i gorff llywodraethu’r Busnes Cymdeithasol y tu hwnt i’r hawliau sydd gan weithwyr yn y rhan fwyaf o fusnesau.

Am drosolwg manwl a chryno ar gyflogi pobl, darllenwch ganllaw i Gyflogi Pobl a’i atodiadau.


Help a chymorth gan Busnes Cymru