Cyn dechrau busnes cymdeithasol, ystyriwch yr unigolion a fydd yn arwain y prosiectau a sut y byddent yn gweithio gyda’i gilydd.

Yn ystod camau cychwynnol prosiect cymunedol, gallai grŵp o bobl sy’n cydnabod angen ddod at ei gilydd i fynd i’r afael â’r broblem. Fel arall, gallai unigolyn ymgymryd â rôl arweiniol, gan sbarduno prosiect ac ysgogi pobl eraill i gymryd rhan.  

I gael syniad o’ch grŵp llywio, myfyriwch ar bwy ydych chi fel menter gymdeithasol a diffiniwch sut mae eich buddiolwyr yn dod at ei gilydd. 

Beth mae grŵp llywio yn ei wneud? 

Prif rôl y grŵp llywio yw goruchwylio’r prosiect tan iddo gael ei gorffori (cofrestru cwmni neu ffurf gyfreithiol arall). Yna, bydd yn cael ei ddisodli gan bwyllgor rheoli, Bwrdd Cyfarwyddwyr neu ymddiriedolwyr (fel y bo’n briodol i’r ffurf gyfreithiol). 

Sut y gellir sefydlu grŵp llywio?  

Mae’n rhaid i’r grŵp llywio gynnwys cynrychiolaeth gref o’r gymuned dan sylw. I sicrhau hynny, ystyriwch y canlynol: 

  • Beth fydd ffurf y gynrychiolaeth?
  • Pa mor ffurfiol ydyw? Er enghraifft, a yw’r cynrychiolwyr yn cael eu penodi gan gorff arall (e.e. cyngor plwyf) neu a ydynt yn hunanbenodedig?  
  • A yw aelodau eich grŵp llywio yn cael eu cydnabod gan y gymuned yn arweinwyr neu’n gynrychiolwyr? 
  • A allant roi adborth i’r gymuned? 
  • Pwy arall sy’n aelod o’r grŵp llywio? Pa arbenigedd maen nhw’n ei gyfrannu at y prosiect? 

Enwch bob aelod o’r grŵp llywio, rhowch broffil bywgraffiadol byr ohonynt, a disgrifiwch y rolau a roddwyd iddynt a’u meysydd arbenigol. 

Agenda grŵp llywio 

Nid oes angen i gyfarfodydd y grŵp llywio fod yn gwbl ffurfiol, ond dylent gael eu cydnabod yn gyfarfodydd, yn hytrach na thrafodaethau. Yn y cyfarfodydd, dylai penderfyniadau gael eu cytuno a’u cofnodi.  

Os nad yw penderfyniadau’n cael eu cytuno a’u cofnodi, ac os nad yw cynlluniau’n cael eu cofnodi’n ysgrifenedig, ni ellir dweud bod grŵp llywio ar waith. Ni fydd gan y cyrff allanol a’r sefydliadau cynorthwyol y bydd angen i chi weithio gyda nhw grŵp diffiniedig y gallant ymdrin ag ef. 

Mae’n hollbwysig bod aelodau eich grŵp llywio yn buddsoddi amser, egni ac (yn ôl pob tebyg) arian yn y prosiect. Mae hefyd yn hanfodol eu bod yn ymrwymo i gofrestru cwmni neu gymdeithas. Dylai fod o leiaf 3 unigolyn sy’n barod i fod yn fwrdd cyfarwyddwyr cyntaf – yr Aelodau Sefydlol. 

 

Yn olaf, a oes bylchau yn y grŵp llywio y mae angen eu llenwi? Os felly, beth yw’ch cynllun recriwtio? 

Lawrlwythwch y templed isod i’ch helpu i ddiffinio’r grŵp llywio: