I lawer, gall ymddangos yng nghylchgrawn eiconig y Tatler fod yr ymgorfforiad o lwyddiant, ond mae Emma Cawston, yr arlunydd poblogaidd o Gymru yn profi llwyddiant.

 

Mae’i phortreadau o anifeiliaid anwes, sy’n cael eu comisiynu yn aml gan berchnogion maldodus, a’i phaentiadau bywyd gwyllt yn cael eu creu wrth ddefnyddio pensiliau lliw wedi’u gwneud o olew sydd wedyn yn cael eu hargraffu yn ddigidol ar eitemau cartref, fel matiau diodydd a byrddau torri.

 

Woman stood next to Easel

 

“Rydw i’n byw yng Nghymru”, meddai Emma. “Ac rydw i’n sylweddoli os nad wyf eisiau parhau mewn swigen, mae’n rhaid i mi gael masnachu fy nwyddau. Ac mae hynny’n golygu meistroli’r rhyngrwyd, fel bod fy ngwaith mor hawdd i’w gael ag sy’n bosibl.

 

Felly, mynychodd ddigwyddiad Cyflymu Cymru i Fusnesau er mwyn dysgu sut i godi ei phroffil drwy ddefnyddio technegau marchnata digidol. A, chyda help cynghorydd, lluniwyd cynllun i wneud bywyd yn haws i’w chasglwyr.

 

Mae Instagram yn gyfrifol am 95% o’r trosiant

 

Ychwanegodd: “Y cam cyntaf oedd sicrhau bod fy ffenestr siop yn adlewyrchu safon broffesiynol gain fy ngwaith ac yn gwneud i bobl deimlo yn ‘ddiogel’ i brynu ar-lein. Mae cael hwn yn iawn yn rhywbeth y dylwn i fod wedi’i wneud yn gynt, oherwydd mae pobl yn peidio â phrynu wrth iddi ddod yn amser talu ar wefannau sydd wedi cael eu dylunio yn wael.”

 

Yna aeth Emma at y platfform cyfryngau cymdeithasol tra gweledol, Instagram, er mwyn denu ymwelwyr. Profodd y penderfyniad hwn yn un canolog. Mae 95 y cant o’i throsiant yn dod drwy’r cyfrwng hwn ac mae casglwyr o bob cwr o’r byd yn ceisio prynu ei stoc. Yn ychwanegol, defnyddiodd y Tatler y cyfrwng Instagram i ddod o hyd i waith Emma a gwneud cysylltiad yn uniongyrchol ynglŷn ag ymddangos yn eu cylchgrawn.

 

“Ymchwiliais i’r hashnod gorau i’w defnyddio fel bod fy nwyddau yn cael eu gweld o flaen y rhai sy’n caru celf, ac wrth gwrs, y bobl a all fod yn dymuno comisiynu portreadau personol o’u hoff gi,” dywedodd.

 

“Mae’n rhaid i chi ddewis y cyfrwng gorau ar yr adeg orau”

 

Mae hyn wedi arwain at archebion cyn belled i ffwrdd â’r Unol Daleithiau a Seland Newydd. Ychwanegodd Emma, “Roeddwn yn gwybod mewn egwyddor fod gwefan dda a phresenoldebb cryf ar y cyfryngau cymdeithasol yn cynhyrchu mwy o werthiant, ond ni fyddwn erioed wedi meddwl y byddai’n mynd mor dda â hyn.

 

“Tystiolaeth bellach o’r llwyddiant yw bod fy safle hefyd yn fy helpu i flaenoriaethu gwaith yn seiliedig ar beth sy’n boblogaidd, oherwydd bod y ddadansoddeg yn dweud wrthyf ba anifeiliaid a chynnyrch y mae pobl yn chwilio amdanyn nhw.

 

“Hefyd, mae’n rhoi gwybod i mi pa bostiadau sy’n boblogaidd. Mae fy nilynwyr yn hoffi cymysgfa o fusnes a phostiadau personol, ac felly pan aned Oliver, rhoddais lun ohono ef yn gwisgo gwisg gysgu gyda theigr arno er mwyn iddo dynnu sylw at fy thema bywyd gwyllt!

 

“Ond, nid wyf wedi mynd yn gyfan gwbl ddigidol. Rydw i’n parhau i hoffi mynychu sioeau amaethyddol a digwyddiadau eraill yn fawr iawn, yn cynnwys marchnadoedd Nadolig Caerdydd. Maen nhw’n werthfawr. Dim ond dewis y cyfrwng cywir ar yr adeg iawn sydd angen ei wneud.

 

“Pan oedd tîm rygbi Seland Newydd yn chwarae yng Nghaerdydd, aeth llawer o’u dilynwyr i’r farchnad Nadolig, a roddodd lawer iawn o sylw i mi. Ac ers hynny, mae llawer ohonyn nhw wedi prynu fy ngwaith ar-lein ac maen nhw wedi fy atgyfeirio at eu ffrindiau a’u teuluoedd o’r ochr honno o’r byd.”

 

Yn wir, mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi fy ngwneud yn ymwybodol ynglŷn â beth sydd ar gael er mwyn datblygu’r busnes

 

Ar ôl siarad â’i chynghorydd Cyflymu Cymru i Fusnesau, mae Emma wedi penderfynu mai’r peth nesaf fydd gwneud fideo: “Mae siarad ynglŷn ag YouTube wedi gwneud i mi feddwl ynglŷn â sut y gallaf ddefnyddio fideo; efallai y gwnaf ddefnyddio amser oediog er mwyn fy ffilmio i’n paentio, efallai rhai tiwtorialau, ac wrth gwrs, fideos byw!

 

“Yn wir, mae gweithdy Cyflymu Cymru i Fusnesau a sesiwn ddilynol 1-2-1 wedi agor fy llygaid at beth sydd ar gael er mwyn parhau i ddatblygu’r busnes. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim a byddai pobl yn annoeth i beidio â’i ddefnyddio tra mae ar gael.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen