Tacluso digidol yn peri i fusnes blodau flodeuo

Ers symud i dyddyn ger Llandysul, mae Sara Redman wedi cyrraedd y man gwyn o droi ei hangerdd yn arian a pharhau i fyw'r freuddwyd. Diau fod gwaith caled y tu cefn i bob blodyn, ond y gyfrinach i lwyddiant lleol The Flower Meadow yw defnyddio adnoddau digidol i wneud y gwaith caled. Ac ers gwneud hynny, mae Sara wedi gweld cynnydd o 50% yng ngwerthiant ei blodau sydd wedi eu torri’n lleol a chynnydd o 20% yn y bobl sy’n mynychu ei chyrsiau dylunio a thyfu blodau.

Nid yw pethau wastad wedi bod yn fêl i gyd. Byddai Sara a’i gŵr yn teithio hyd at 8 awr i baratoi eu llain pum erw ar gyfer eu prosiect ymddeoliad rhannol, ac yn byw mewn carafán ar y safle y rhan fwyaf o benwythnosau. Ond talodd eu gwaith caled ar ei ganfed ac erbyn 2017, lansiwyd The Flower Meadow gyda gwefan hardd; ac yn 2019 daeth Sara yn gydlynydd Cymru ‘Flowers from the Farm’, cwmni cydweithredol nid-er-elw o dros 700 o dyfwyr blodau wedi’u torri yn y DU, sydd wedi ennill gwobrau lawer.

Sara Redman of The Flower Meadow working

 

Er gwaethaf llwyddo i werthu ei thuswau mewn marchnadoedd a siopau lleol, sylweddolodd Sara mai ychydig iawn o werthiannau ar-lein oedd ganddi i gefnogi ei thwf. Felly, ar ddiwedd 2019 cymerodd gyngor gan entrepreneur arall a chysylltodd â Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael cymorth ar sut i ddefnyddio digidol i ddatblygu ei busnes mewn ffordd ecogyfeillgar.

“Roeddwn i eisiau manteisio ar yr economi leol i gadw fy ôl troed carbon yn isel”

“Roeddwn i eisiau manteisio ar yr economi leol i gadw fy ôl troed carbon yn isel a hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol, tra'n gallu mwynhau cwmni fy nheulu a cherdded fy nghŵn ar y traeth. Yn ddelfrydol, roedd y sentiment sylfaenol ‘prynwch yn lleol’ yn rhywbeth roeddwn i eisiau gwneud y mwyaf ohono, ond doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau.”

Yn dilyn cwrs am ddim gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau, tynnodd Sara ei hen wefan i lawr a gyda chymorth datblygwr gwe adeiladodd un symlach, gyda gwell cynnwys a galwadau i weithredu. Bellach mae ganddi reolaeth lwyr dros y wefan a gall ei diweddaru gan ddefnyddio system rheoli cynnwys. Mae’n defnyddio hwn i ddiweddaru geiriau allweddol y mae ei chwsmeriaid yn chwilio amdanynt. Mae hi hefyd yn defnyddio Google Analytics i fesur ei lwyddiant a gwneud mân newidiadau i’w strategaeth farchnata

“Nawr mae’n llawer haws i’m cwsmeriaid archebu a thalu”

“Rwy’n defnyddio iZettle yn hytrach na system e-fasnach i gymryd taliadau cardiau oherwydd bod prisiau tuswau ar archeb wedi’u danfon yn lleol i gyd yn wahanol; rhywbeth nad oedd wedi digwydd i mi o’r blaen. Nawr mae’n llawer haws i’m cwsmeriaid archebu a thalu, yn enwedig gan nad yw’r mwyafrif yn defnyddio arian parod oherwydd diffyg banciau lleol a pheiriannau arian parod. Rwyf wedi derbyn adborth da ar gyfer rhoi eu hanghenion nhw yn flaenaf, felly rydw i hefyd yn mynd i ychwanegu ffurflen archebu ar-lein ar y wefan ar gyfer fy nyddiau agored a digwyddiadau arbennig.”

“Ni allaf ddweud bod un peth yn well na’r llall, ond yn hytrach fod y newidiadau bach yma gyda’i gilydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr”

Yn hytrach na gwario ffortiwn ar syniadau heb eu profi, mae Sara yn hysbysebu ei digwyddiadau yn y wasg leol ac ar ei gwefan. Yna mae’n cynnal ei strategaeth hysbysebu gyda gwariant misol cymedrol o £12 ar negeseuon awtomatig Facebook ac Instagram, a chystadlaethau ar-lein sy’n denu hyd at 60 o ymgeiswyr. Meddai, “Ni allaf ddweud bod un peth yn well na’r llall, ond yn hytrach fod y newidiadau bach yma gyda’i gilydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr.” Mae The Flower Meadow wedi treblu nifer y priodasau y mae Sara’n eu cyflenwi, mae archebion ar gyfer cyrsiau wedi cynyddu 20%, ac mae ei dyddiau agored yn denu cymaint â 150 o bobl. “Mae data dadansoddi Facebook yn nodi mai bore Sul yw’r amser gorau i hysbysebu a dyna sut rwy’n cadw costau’n isel,” meddai Sara.

Sara Redman of The Flower Meadow working

 

Mae’r tacluso digidol wedi gweithio. “Mae fy nghyrsiau wedi gwerthu allan o fewn dyddiau ac eleni rwyf wedi gallu cynnal 10-15% yn fwy o gyrsiau na’r llynedd. Mae gwaith wedi troi’n bleser o ddifrif, a byddaf yn edrych ar ffyrdd newydd y gall adnoddau digidol wneud fy mywyd yn haws tra’n hyrwyddo cynaliadwyedd. O’r £865m o flodau a werthwyd yn y DU y llynedd, dim ond 14% oedd wedi’u tyfu ym Mhrydain, felly trwy hyrwyddo blodau cynaliadwy a dyfir yn lleol, bydd yr amgylchedd ar ei ennill a gobeithio y bydd yn caniatáu i dyfwyr y DU i fedru ehangu.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen