Mae arbenigwr cyfarpar a llygredd gollyngiadau olew a chemegion o dde Cymru wedi gweld gwelliant yn ei fusnes ar ôl neidio uwchben ei gystadleuwyr rhyngwladol mawr yn rhestrau chwilio Google.

 

Gwelodd Zwanny Ltd, sydd wedi’i leoli yng Nghwmbrân, ganlyniadau yn syth yn sgil ei strategaeth marchnata digidol ac optimeiddio peiriannau chwilio, gyda’i wefan yn dringo i dudalen gyntaf y peiriant chwilio. Nid yn unig yr arweiniodd hyn at gynnydd sylweddol mewn ymwelwyr, ond cynnydd o ddeg y cant mewn cwsmeriaid hefyd, sy’n nifer sylweddol mewn marchnad mor brysur.

 

Photo of a Marina

 

Sefydlodd Marc van der Zwan y busnes gyda’i wraig o’i gartref ar ôl colli ei swydd. Defnyddiodd ei brofiad o lanhau ac atal llygredd olew a pheirianneg fecanyddol er mwyn creu cynnig cynaliadwy ac ystod amrywiol o gynnyrch. Ond heb ffordd o gyrraedd ei farchnad darged, gallai’r risg o ddechrau busnes ar ei ben ei hun wedi bod yn fethiant. Felly chwiliodd Marc am help i fod yn unigryw a chyrraedd cwsmeriaid gan ddefnyddio technoleg ar-lein a marchnata digidol.  

 

Dilyn cyngor gan Gyflymu Cymru i Fusnesau

 

Mynychodd ddosbarth meistr a chael cyngor arbenigol gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, a dywedodd: “Dangosodd adolygiad o’r wefan nad oedden ni’n ymddangos yn rhestrau Google o gwbl, a doedden ni ddim wedi’n hoptimeiddio ar gyfer dyfeisiau symudol, oedd yn golygu ein bod yn colli cwsmeriaid posibl trwy dwll eithaf mawr yn ein rhwyd. Ac efallai nad oedd ein cwsmeriaid yn sylweddoli hyn, ond roedden ni’n dioddef yn sgil prosesau aneffeithiol oherwydd nad oedd system rheoli perthnasoedd cwsmeriaid gennym.”

 

Mae Marc yn dweud bod ei wraig, Helen, ac ef yn falch eu bod wedi dilyn yr argymhellion i greu gwefan wedi’i gyrru gan optimeiddio peiriannau chwilio, a gosod system rheoli perthnasoedd cwsmeriaid newydd. “Mae’n golygu y gallwn ffarwelio ag anfonebau papur a phensil, sydd werth y byd gan ein bod yn ymdrin â nifer sylweddol o ymholiadau erbyn hyn.”

 

“Mae band eang cyflym iawn yn rhoi signal dibynadwy i ni bob awr o’r dydd”

 

“Er mwyn rhedeg ein busnes, gosodom fand eang cyflym iawn, gan ei fod yn rhoi signal dibynadwy i ni bob awr o’r dydd. Mae’n gyflym ac yn golygu y gallwn ddefnyddio Skype a WhatsApp er mwyn siarad â chleientiaid rhyngwladol, yn ogystal â defnyddio apiau swyddfa cwmwl, fel Microsoft 365, er mwyn cyflymu ein holl brosesau i gynyddu cynhyrchiant.”

 

Ers iddo gymryd y risg, mae Marc a Helen, sydd bellach wedi ymuno â Zwanny amser llawn, wedi adeiladu busnes cynaliadwy mewn porthladdoedd a safleoedd diwydiannol a gweithgynhyrchu mawr yn y DU a thu hwnt. Ac maent wedi derbyn ymholiadau ymarferol o leoedd mor bell â’r Arctig a Samoa.

 

Dywedodd Marc: “Mae’r hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yma wedi bod yn agoriad llygad, felly rydym yn cyflwyno holl argymhellion ymgynghorydd busnes Cyflymu Cymru i Fusnesau.”

 

Cyrraedd cwsmeriaid trwy farchnata e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol

 

Felly, er bod y trosiant yn chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol bresennol yn gyfwerth â chyfran sylweddol o gyfanswm trosiant y flwyddyn flaenorol, nid yw Zwanny’n rhoi’r gorau iddi. Mae’r busnes yn defnyddio MailChimp er mwyn dosbarthu cylchlythyr misol sy’n cynnwys newyddion am gynnyrch a sylwadau gwybodus i dros 800 o danysgrifwyr, yn ogystal â phostio ar LinkedIn.

 

Ychwanegodd Marc: “Rydym yn cael dau neu dri ymateb bob mis, naill ai gan rywun sydd eisiau prynu cynnyrch, neu sy’n gofyn am gyngor. Felly, rydym yn awyddus i ddatblygu ein cyfrif Twitter, ac yn ystyried defnyddio Pinterest.

 

“Aeth ein cyfarfod â’r ymgynghorydd Cyflymu Cymru i Fusnesau’n dda iawn. Roeddem yn croesawu’r pwyntiau yn ei adroddiad, ac roedd gwerth i’w defnyddio. Byddwn yn argymell i unrhyw fusnes o unrhyw faint sydd eisiau tyfu ac ehangu, neu gadw’r busnes i weithredu, i fynd at Cyflymu Cymru i Fusnesau. Mae’n wasanaeth annibynnol rhad ac am ddim, felly pam ddim manteisio arno?”

 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen