Mae cwmni yn Abertawe sy'n cynnig gwasanaeth sgrinio'r galon i'r cyhoedd yn defnyddio technoleg ddigidol i hybu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwiriadau iechyd y galon ac i dynhau ei brosesau diogelwch.

 

Mae Cardiac Health Diagnostics yn cynnig gwasanaethau sgrinio symudol ar ran elusennau, cymunedau a chlybiau chwaraeon ledled y DU. Ei nod yw atal marwolaethau cardiaidd sydyn, drwy wneud yn siŵr bod pobl yn gallu defnyddio gwasanaeth sgrinio'r galon yn rhad ac am ddim, sydd â’r gallu i ganfod cyflyrau'r galon a allai fod yn angheuol. Ers sefydlu’r busnes yn 2015, mae'r broses sgrinio wedi helpu i dynnu sylw nifer o bobl at gyflyrau a allai, heb eu canfod, arwain at farwolaeth.

 

Person having a heart scan

 

Agorodd Cyflymu Cymru i Fusnesau ein llygaid i fanteision technoleg cwmwl

Ar ôl bod mewn gweithdy marchnata digidol rhad ac am ddim a oedd yn cael ei gynnal ym mis Medi 2017 gan Gyflymu Cymru i Fusnesau, a gyda chymorth sesiwn un-i-un gyda chynghorydd digidol, mae'r cwmni wedi ailwampio ei wefan ac wedi gwella ei ymagwedd tuag at y cyfryngau cymdeithasol, ac mae hynny wedi arwain at well ymwybyddiaeth o'i waith ac wedi cefnogi’r broses o ehangu ei wasanaethau yn y dyfodol.

 

Yn bwysig iawn, mae hefyd wedi casglu gwybodaeth werthfawr am fanteision systemau gwneud copi wrth gefn awtomatig yn y cwmwl er mwyn diogelu data sensitif cleifion.

 

“Roeddem ni wedi cofrestru ar gyfer y gweithdy yn bennaf i chwilio am gymorth marchnata digidol am ein bod ni, fel busnes cymharol ifanc, yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o’n brand ac roeddem ni newydd sefydlu gwefan a oedd angen ei hadolygu,” meddai Shannon Stevens, cyfarwyddwr Cardiac Health Diagnostics.

 

“Ond mae mynd trwy raglen Cyflymu Cymru i Fusnesau hefyd wedi agor ein llygaid i fanteision technoleg cwmwl. Roeddem ni wedi bod yn gwneud copïau wrth gefn o’n ffeiliau ein hunain - bob diwrnod neu bob yn ail diwrnod - ond gwelsom fanteision system ar-lein yn fuan iawn, a rhoddodd Cyflymu Cymru i Fusnesau help i ni ddewis system a oedd yn bodloni ein hanghenion.”

 

Rydym ni wedi arbed amser ac rydym ni’n dawel ein meddwl bod data sensitif cleifion yn cael ei ddiogelu

Mae system cwmwl newydd y cwmni yn gwneud copi o ddata sgrinio a data’r cleifion yn awtomatig ddwywaith y dydd, ac mae hynny’n cael gwared ar wallau dynol a'r perygl o golli data neu ei ddileu yn ddamweiniol.

 

“Bu’n hawdd ei ddefnyddio ac mae'r newid wedi bod yn ddidrafferth,” meddai Ms Stevens. “Rydym ni wedi arbed amser a chael tawelwch meddwl bod data sensitif cleifion yn cael ei ddiogelu.”

 

Drwy fabwysiadu system gwneud copi wrth gefn yn y cwmwl, mae Cardiac Health Diagnostics hefyd ar fin ennill Achrediad Cyber Essentials - cynllun sy'n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth sy'n helpu i sicrhau bod cwmnïau yn cael eu hamddiffyn rhag ymosodiadau seiber cyffredin. Nawr mae’n awyddus i ddigido rhannau eraill o’r busnes sy’n defnyddio llawer o bapur, fel holiaduron meddygol, ffurflenni caniatâd a nodiadau ymgynghoriadau.

 

“Y gobaith yw cyflwyno cyfrifiaduron tabled y gall cleifion a chardiolegwyr eu defnyddio i lenwi’r ffurflenni angenrheidiol ar-lein - bydd hynny’n cael gwared ar y broses sganio ffurflenni papur sy'n cymryd llawer o amser ac yn sicrhau bod data'n cael ei gadw a'i gopïo yn syth.”

 

Mae pobl yn dod yn ôl dro ar ôl tro diolch i’r cyfryngau cymdeithasol

 

Hefyd mae'r cwmni wedi datblygu dealltwriaeth well o'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol a'r manteision o bosibl o ran ychwanegu at ei lwyddiant.

 

“Rydym ni ar Twitter ac yn ei ddefnyddio'n rheolaidd i gefnogi elusennau, yn ogystal â’r cleientiaid eraill rydym yn gweithio gyda nhw i gyflwyno rhaglenni. Yn sgil hynny, mae pobl yn dod yn ôl atom dro ar ôl tro ac mae hefyd wedi ein galluogi i glywed straeon positif yn uniongyrchol gan bobl sydd wedi elwa ar ein rhaglenni sgrinio,” meddai Ms Stevens.

 

“Fel busnes newydd, ni fyddai’r arian gennym ni i’w fuddsoddi mewn cyngor marchnata digidol neu adolygiad proffesiynol o’n gwefan, felly mae'r cyfle i gael hynny yn rhad ac am ddim a rhannu profiadau â busnesau eraill yn y gweithdy yn rhywbeth y byddwn i’n sicr yn ei argymell i fusnesau newydd eraill.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen