Mae cwmni TG o Gaerffili yn mwynhau cyfnod o dwf parhaus, diolch yn rhannol i adolygu ei strategaeth farchnata ddigidol gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau.

 

Mae excellence IT, sydd wedi bod yn cefnogi BBaChau ers 2002, wedi bod yn gwbl ddibynnol ar dechnoleg ddigidol ers peth amser yn awr. O’r meddalwedd cwmwl integredig y mae’n ei ddefnyddio i reoli’r busnes, at y meddalwedd monitro rhagweithiol sy’n caniatáu ei staff ddatrys materion TG i gleientiaid o hirbell; mae excellence IT yn llawn gydnabod pwysigrwydd technoleg ddigidol yn y maes TG. Mae wedi buddsoddi yn sylweddol yn y maes hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cynnig ateb integredig llawn i’w gwsmeriaid.

 

Man next to Excellence IT logo

 

Eglurodd y Cyd-gyfarwyddwr Andy Green: “Mae ein hystafell fonitro a rheoli yn greiddiol i’n hymrwymiad i lefelau gwasanaethau cwsmer o ansawdd ac ardderchowgrwydd technegol. Gan integreiddio yn ddi-dor â’n platfform desg wasanaeth 24/7, dyma ein “system rhybudd cynnar” – sy’n tynnu ein sylw at broblemau yn isadeiledd TG ein cwsmeriaid. Nid yn unig y bydd yn codi tocynnau’r ddesg wasanaeth, ond bydd ein platfform yn “iachau” llawer o broblemau yn awtomatig, gan gael gwared â’r angen am ymyrraeth staff y ddesg wasanaeth. Mae meddu ar y gallu i ddatrys problemau cyn bod unrhyw effaith ar y cwsmer yn hanfodol. Gwelwn hyn fel cyflawniad craidd hanfodol gan unrhyw ddarparwr TG gyda gwasanaeth diogel sydd wedi’i reoli.

 

Rhoddodd Cyflymu Cymru i Fusnesau gynllun marchnata digidol i ddatblygu’r busnes

 

Yn awyddus i gynyddu’r nifer o gwsmeriaid a datblygu ymwybyddiaeth brand, mynychodd Mr Green weithdy marchnata busnes Cyflymu Cymru i Fusnesau. Yn ddiweddarach, derbyniodd sesiwn un i un gyda chynghorydd busnes digidol, a roddodd gymorth i excellence IT greu cynllun digidol TG er mwyn datblygu’r busnes drwy farchnata ar-lein.

 

Eglurodd Anne Beer, cyfarwyddwr gweithrediadau: “Mae technoleg ddigidol yn rhan hanfodol i bob elfen o’n busnes. Roeddem yn gwybod ein bod angen datblygu strategaeth farchnata i ddenu cwsmeriaid posibl at ein gwefan, ac yn y pen draw, at ein gwasanaethau.

 

“Rhoddodd gweithdy marchnata digidol Cyflymu Cymru i Fusnesau “ffocws” i’n cwmni ni ar gyfer ein strategaeth farchnata ddigidol. Gan nad oedd gennym ni staff marchnata mewnol, roeddem angen sefydlu cyfeiriad ar gyfer ein syniadau marchnata a deall yn union pa offer a oedd ar gael a sut i’w ddefnyddio er mwyn gwella ein presenoldeb busnes yn y sector.”

 

Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi helpu i gynyddu ymgysylltiad ac ysgogi atgyfeiriadau

 

Roedd excellence IT yn awyddus i ymarfer yr hyn a ddysgwyd. Gwnaethon nhw annog rhai o’u gweithwyr i gymryd perchnogaeth o weithgareddau penodol y cyfryngau cymdeithasol a defnyddiwyd contractau allanol gydag asiantaeth arbenigol ar gyfer elfennau eraill, mewn ymdrech i gysylltu yn fwy strategol â chwsmeriaid newydd a chwsmeriaid presennol. Roedd yr agwedd fwy ystyriol hon i’r cyfryngau cymdeithasol a’r cynnwys y mae’r busnes yn ei rannu wedi cynyddu ymgysylltiad yn fawr â’r defnyddwyr dros yr holl blatfformau, gan helpu i adeiladu ymwybyddiaeth brand, ysgogi atgyfeiriadau a gwerthu ambell beth hyd yn oed.

 

Wrth symud ymlaen naw mis, mae excellence IT yn profi cyfnod o dwf cyffrous, ac mae wedi cael cwmni hyfforddi TG arall ac wedi hurio arbenigwr newydd ar gyfer marchnata digidol.

 

Gan fyfyrio ar yr help a dderbyniodd y cwmni, dywedodd Mr Green: “Roedd y gweithdy yn hynod o fuddiol i newid y ffordd yr ydym yn meddwl am farchnata digidol, gan ein helpu ni ganolbwyntio ar yr hyn sydd o bwys a’n darparu ni gyda chyfoeth o syniadau er mwyn sicrhau ein bod yn dewis y llwybr cywir ar gyfer ein huchelgeisiau marchnata digidol. Roedd cwrdd â busnesau o’r un feddwl a gweithio gyda thiwtoriaid ardderchog yn ychwanegu yn fawr at yr hyn a wnaethom ni ei ddysgu yn ystod y diwrnod.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen