Cymerodd brand gofal croen moethus ym Mro Morgannwg dros bum gwaith cymaint o archebion mewn wythnos ar ôl iddyn nhw wneud eu gwefan yn fwy cyfeillgar i’r cwsmeriaid, gan ei alluogi i barhau i fasnachu a rhoi pecynnau golchi dwylo hanfodol i’r GIG a sefydliadau eraill yn ystod pandemig y Covid-19.

Ers ei lansio yn 2018, mae The Goodwash Company wedi symud ei nwyddau gofal croen moethus oddi ar fwrdd cegin yn Y Barri i silffoedd ac ystafelloedd ymolchi John Lewis a bwytai â sêr Michelin, a gweithio gyda chyflenwyr moesegol a chyfrannu at brosiectau ac elusennau cymunedol sy’n helpu pobl ac anifeiliaid ar hyd y ffordd. Fodd bynnag, roedd Covid-19 yn achosi her digynsail.

“Er mwyn sicrhau ein bod yn goroesi fel busnes, roedd yn rhaid i ni wneud rhywbeth gwahanol er mwyn iddo weithio”

“Roeddem yn barod i werthu i John Lewis a Harrods ac roeddem ni’n brysur yn cynllunio ein siop Goodwash cyntaf un,” eglura’r cyd-sylfaenydd Kelly Davies. Ychydig ar ôl y Nadolig oedd hyn, gyda’r pandemig yn dechrau ymddangos yn araf ar newyddion rhyngwladol.

Symud yn gyflym i fis Mawrth 2020 ac wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu cyhoeddi, symudodd Goodwash ei waith yn gyfan gwbl fewnol, gyda stoc ym mhob twll a chornel. Ond, gyda bron i dri chwarter o incwm y busnes yn dod o fasnachu gyda bariau a bwytai, trodd y ffocws yn gyflym at sut gallai’r tîm gynnal y busnes drwy amser cythryblus.

A range of GoodWash products.

 

Fel llawer o fusnesau yng Nghymru, roedd Goodwash yn gofyn cwestiynau fel “sut allwn ni barhau i fynd? Beth fydd yn digwydd i’n gwerthiant? A fyddwn ni’n gallu aros ar agor a pharhau i werthu i’n cwsmeriaid? Sut allwn ni dalu am y golled anferthol yn y gwerthiant masnach i’n busnes?”

Dywedodd Mandy Powell, cyd-sylfaenydd ac arweinydd masnachol Goodwash: “Mae Cwmni Goodwash wedi gwerthu nwyddau ar-lein ers ein lansiad yn 2018, ond pan ddaeth y cyfyngiadau symud, chwarter o’n hincwm yn unig oedd hyn. Er mwyn sicrhau ein bod yn goroesi fel busnes, roedd yn rhaid i ni wneud rhywbeth gwahanol er mwyn iddo weithio.”

Wrth i’r pwysigrwydd o olchi dwylo er mwyn atal lledaeniad Covid-19 ddod yn fwy amlwg, daeth amrediad y nwyddau golchi dwylo a oedd gan Goodwash nid yn unig yn rhywbeth moethus, ond o bosibl yn achubwr bywyd.

“Dechreuasom drwy ddatblygu ymgyrch ar-lein benodol (#golchwcheichdwylo) a lansio ‘prynwch un, rhowch un i weithwyr allweddol,’ yn ogystal â rhoi dros 10,000 o olchiadau i weithwyr allweddol yn ystod cyfnod cyntaf y cyfyngiadau symud.”

“Gyda chynnydd yn y gwerthiant, roedd yn rhaid inni sicrhau y gallai ein gwefan ymdopi â’r mewnlifiad newydd o ymwelwyr”

Wrth i Goodwash symud eu marchnata ar-lein, symudodd eu cwsmeriaid hefyd. Yn dilyn yr wythnos y cyhoeddwyd y cyfyngiadau symud, cynyddodd y gwerthiant ar-lein 500% yn syth, wrth i bobl chwilio am ffyrdd o aros yn ddiogel. Fodd bynnag, roedd gan y cynnydd yn y gwerthiant ei heriau ei hun.

Ychwanega Mandy: “Gyda chynnydd yn y gwerthiant, roedd yn rhaid inni sicrhau y gallai ein gwefan ymdopi â’r mewnlifiad newydd o ymwelwyr. Y peth cyntaf oedd sicrhau ei bod yn addas ar gyfer e-fasnach, ac felly gwnaethom ychwanegu ategion ar gyfer PayPal a ffyrdd eraill o dalu.

“Y cam nesaf oedd edrych sut mae pobl yn defnyddio’r safle a siwrnai ein cwsmeriaid drwy’r wefan. Dechreuasom edrych ar le’r oedden nhw yn rhoi’r gorau iddi a sut y gallem ni gael gwared â’r rhwystrau er mwyn eu helpu nhw i brynu.”

Wrth i’r gweithgaredd ar-lein barhau, daeth rheoli’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol yn bwysicach nag erioed. Gyda ffocws brand dilys ar ddarparu daioni cymdeithasol, roedd presenoldeb Goodwash ar-lein eisoes yn gryf. Fodd bynnag, roedd ei reoli yn anodd, yn enwedig wrth geisio cadw meysydd eraill o’r busnes i fynd yn ystod y cyfyngiadau symud.

Ar ôl cofrestru ar gyfer gweminar Marchnata Digidol Uwch gyda Chyflymu Cymru i Fusnesau, defnyddiodd y cwmni’r hyn a ddysgwyd a gweithredu eu cynllun digidol. Dywed Kelly: “Roedd y weminar yn wirioneddol dda. Nid yn unig y gwnaeth roi’r wybodaeth inni, ond defnyddiodd yr hwylusydd enghreifftiau o fywyd go iawn, fel y gallem ni ddefnyddio’r wybodaeth hon gyda’n busnesau ein hunain.

“Ar ôl y weminar, cawsom 1:1 gyda’n cynghorydd busnes digidol, Catrin Williams, lle buom yn llunio cynllun gweithredu er mwyn sicrhau y gallem ni reoli’r heriau a achoswyd gan y pandemig yn hyderus.”

Yn ogystal â magu hyder digidol, defnyddiwyd offeryn rheoli’r cyfryngau cymdeithasol, Hootsuite, er mwyn sicrhau y gallen nhw barhau i ymestyn at gwsmeriaid a gweld sut roedden nhw’n rhyngweithio gyda’r brand yn ystod y cyfnod y dechreuodd y cyfyngiadau symud.

“Mae’r argyfwng wedi dangos, ymysg pethau eraill, mai digidol yw’r dyfodol”

Nid yn unig oedd goroesi’r cyfyngiadau symud yn golygu y gallai Goodwash barhau i fasnachu, roedd yn golygu y gallen nhw barhau i helpu eraill. Gwnaethon nhw dros 15,000 o becynnau gochi dwylo a roddodd y cwsmeriaid i’r GIG ac oedolion bregus, tra’n rhoi’n ôl i’r rhai a oedd ei angen fwyaf.

Gyda siop flaenllaw newydd a swyddfa a lansiwyd ym mhentref cynwysyddion newydd cyffrous Goodsheds yn Y Barri er mwyn arddangos eu nwyddau a chyflwyno gweithdai sy’n canolbwyntio ar y gymuned, mae’r dyfodol yn sicr yn edrych yn ‘dda’ ar gyfer Goodwash.

A bar of GoodWash soap.

 

“Rydym yn awr ar ddiwedd mis Hydref ac mae ein harchebion masnach yn dechrau cynyddu unwaith eto, ac mae mwy o stocwyr yn cysylltu â ni,” dywed Mandy. “Yr her fwyaf sydd gennym yw ymdopi i gadw i fyny â’r twf yn ein gwerthiant ar y funud, ond ar hyn o bryd rydym yn datblygu cynlluniau cryf ar gyfer y flwyddyn newydd.”

“Mae’r argyfwng wedi dangos, ymysg pethau eraill, mai digidol yw’r dyfodol.” dywed Kelly, “Byddem yn sicr yn cymeradwyo Cyflymu Cymru i Fusnesau – mae busnesau angen pob help y gallan nhw ei gael er mwyn addasu a goroesi.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen