Mae Natalie Davies yn bendant wedi gwella ffitrwydd digidol Welch Fitness ac mae’r ganolfan nawr yn dangos y stamina i lwyddo. 

Mae’r dyfyniad ar wefan y busnes teulu hwn yn dweud: Gadewch eich ego wrth y drws a heriwch eich potensial i weld beth allwch chi ei gyflawni yn Welch Fitness Centre. 

 

Ac er ei bod yn gwbl glir nad oes dim ego o gwbl, roedd Natalie yn awyddus i herio ei photensial, felly gofynnodd am gymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau i sbarduno twf y cwmni mae hi’n ei gynnal gyda’i phartner sydd hefyd yn frwdfrydig iawn dros chwaraeon a ffitrwydd, Lewis Welch. 

Mae Welch Fitness yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd, sesiynau hyfforddiant personol, ac arweiniad ynglŷn â maeth yn ogystal â’r cyfleuster campfa agored. Mae ganddynt tua 50 o aelodau cyson, ac mae’r pâr yn gobeithio cynyddu’r nifer hwn drwy roi hwb i bresenoldeb ar-lein y ganolfan. 

Mae Natalie yn gydlynydd digwyddiadau profiadol, a dechreuodd ei thaith ddigidol mewn gweminarau a chyfarfod un-i-un â’r cynghorydd busnes Ian Dunkerley, a roddodd ddigonedd o gyngor gwerthfawr wedi’i deilwra i helpu’r busnes.  

Meddai hi: “Mae’r manteision wedi bod yn llawer mwy eang nag roeddwn i’n ei feddwl. Yn ogystal â helpu’r busnes i dyfu a ffynnu, mae wedi arbed arian yn ogystal â fy nysgu i ddefnyddio amser yn fwy effeithlon. 

“Rhoddodd Ian arweiniad i ni am newidiadau penodol i’w gwneud i’r wefan o ran sut roedd taith y cwsmer yn llifo. 

“Er enghraifft, dim ond ar Facebook roedd yr holl wybodaeth am ein dosbarthiadau, ac fe wnaeth ef argymell ein bod ni’n cynnwys hynny ar ein gwefan, oedd yn gwneud synnwyr llwyr.  

“Fe wnaethon ni hefyd gynnwys system bwcio ar-lein ar ein gwefan. Mae’r cyfleuster talu ar-lein wedi cael gwared ar gymaint o elfennau i mi, fel edrych ar y cyfrif banc yn gyson a thrin arian parod cyn pob sesiwn. 

“Mae’n siŵr mai dim ond pump neu 10 munud bob dosbarth fyddai hynny’n ei gymryd, ond mae’n dal i fod yn amser rydw i nawr yn gallu ei dreulio’n hyrwyddo’r busnes ar gyfryngau cymdeithasol neu’n creu’r cylchlythyr. 

“Doedd derbyn arian a rhoi newid ddim yn ddelfrydol chwaith yn ystod y pandemig, felly roedd yn dda i iechyd a diogelwch hefyd. 

“Yn ogystal ag arbed amser, mae hefyd wedi golygu nad yw’r busnes yn colli arian. Roedd tua 90 y cant o bobl yn wych o ran bwcio lle mewn dosbarth a thalu wrth gyrraedd, ond bob wythnos roedd un neu ddau o bobl wedi cofrestru ond ddim yn dod. Roedd yn gallu costio tua £500 y flwyddyn i’r busnes.” 

I gynorthwyo i hyrwyddo’r brand a meithrin perthynas â chleientiaid presennol a darpar gleientiaid, mae Natalie yn defnyddio Facebook ac Instagram, gan ddefnyddio rhywfaint o’r hyn mae hi wedi’i ddysgu ar gwrs Cyfryngau Cymdeithasol Uwch Cyflymu Cymru i Fusnesau. 

 

“Roedd yn dda iawn,” meddai Natalie, sy’n cynnal dosbarth ymarferion cadair gwirfoddol yng nghyfleuster byw â chymorth Maesyffynnon. “Dim ond rhan o’r argymhellion rydw i wedi gallu ei gwneud hyd yn hyn, ond mae’n sicr wedi fy helpu o ran gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol, ac rwy’n bwriadu edrych arno eto. 

“Rydyn ni wedi bod yn defnyddio mwy o nodweddion fel straeon Instagram yn ogystal â gweiddi am newyddion mewnol gan gynnwys yr heriau misol yn y gampfa, fel y rhwyfo 5km. Mae wedi rhoi mwy o ddilynwyr i ni sy’n ymgysylltu mwy â’r busnes. 

“Ar hyn o bryd, mae ein gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol i gyd yn cael ei lwytho i fyny â llaw, a’r gobaith yw y bydd y cwrs yn taro rhywfaint o oleuni ar amserlennu negeseuon a sut gall hynny arbed amser gwerthfawr.” 

Yn ogystal â newidiadau i gyfryngau cymdeithasol a gwefan y cwmni, roedd gwaith ailwampio digidol Natalie hefyd yn cynnwys marchnata drwy e-bost, sydd eisoes wedi arwain at gofrestriadau newydd. 

Meddai Natalie: “Roeddwn i’n anfon cylchlythyr misol at aelodau yn unig, ond awgrymodd Ian ei anfon at bobl sydd ddim yn aelodau hefyd.  

“Mae’n swnio’n syml nawr, ond rydyn ni wedi cael saith aelod newydd oherwydd hynny, sy’n help mawr. Saith o bobl ydyn nhw, ond mae effaith clywed pethau ar lafar ac argymhellion yn gallu bod yn wych i fusnes â’r potensial i ddwsinau o bobl eraill ymuno ar ôl y saith cyntaf hynny.” 

Cafodd Welch Fitness ambell i broblem wrth ddechrau’r busnes, ac mae Natalie yn ddiolchgar am y cymorth ychwanegol a gafodd gan Gyflymu Cymru i Fusnesau. 

 

“Roedd pethau’n eithaf gwallgof i ddechrau,” cofia Natalie. “Cawson ni drafferth ar bob cam wrth sefydlu’r ganolfan ffitrwydd ac yna fe wnaeth Covid-19 daro, gan olygu ein bod ni’n byw â rig hyfforddi ffitrwydd 15 troedfedd yn ein cegin a gweddill y tŷ yn llawn dop o gyfarpar am fisoedd. 

“Hyd yn oed pan gawson ni’r allweddi yn fuan cyn Nadolig 2020, roedd gennyn ni covid ac yna erbyn i ni roi’r gorau i ynysu roedd yna gyfnod clo cenedlaethol am bum mis. 

“Ar 3 Mai, 2021, roedden ni’n gallu dechrau’n iawn o’r diwedd ac mae wedi bod yn wych.  

“Helpodd Cyflymu Cymru i Fusnesau i wneud yn siŵr ein bod ni’n barod amdani cyn gynted â’n bod ni’n gallu agor ac roedd gennyn ni lawer o aelodau o’r dechrau un o ganlyniad.” 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen