Fel nifer o berchnogion busnes, cafodd Lyn Waddington ei bwrw gan y pandemig, ar yr union adeg y lansiodd hi The Tasteful Cake Company, yn swyddogol. Ond caniataodd ymateb cyflym yr entrepreneur o Grughywel iddi hi fod gam o flaen yr amgylchedd hynod newidiol sydd ohoni.

Gynt, roedd Waddington yn berchen ar westy bwtîc, lleoliad priodas a bwyty ciniawa cain, yn ogystal â gyrfa fel darlithydd prifysgol a rheolwr adran. Felly, roedd hi'n gwybod sut beth oedd gwneud penderfyniadau o dan bwysau ac uwchsgilio er mwyn gwrthsefyll cyfnod anodd, fel y cyfnod clo, yn llwyddiannus.

“Treuliais i ddwy flynedd yn hyfforddi'n broffesiynol, yn ennill achrediadau, ac yn sicrhau sgôr Hylendid Bwyd 5* gan fy Awdurdod Lleol,roeddwn i newydd fuddsoddi mewn becws masnachol pwrpasol, felly doeddwn i ddim yn mynd i fethu. Ond doedd eitemau mawr fel cacennau dathliadau a phriodasau ddim yn opsiynau real pan oedd pobl yn gorfod gohirio cynlluniau wrth i'r sector lletygarwch gau.”

The Tasteful Cake Company owner, Lyn Waddington

 

Ar ôl sefydlu ei busnes at y diben hwnnw’n benodol, roedd Waddington wedi talu i fynychu digwyddiadau a gwyliau bwyd a phriodas , ac am ddylunio’i brandio a’i gwefan yn broffesiynol. Gyda phopeth ar gau, sylweddolodd fod angen iddi weithredu’r siop fel bod prynu ar-lein yn bosib.

“Aeth yr holl waith caled ddim yn ofer, gan fod gan fy ngwefan nodwedd siop; er hyn, ond doedd ddim yn weithredol. Ond roedd COVID yn ei gwneud hi'n anodd dibynnu ar gacennau dathliadau mwy cymhleth gan mai ond yn lleol oedd posib eu danfon. Felly, ychwanegais frownis, te prynhawn a chacennau llai, sydd ag elw llai ond sy’n boblogaidd, sy’n gyflymach i'w gwneud, ac sy’n bosib eu postio ledled y DU, gan gynnwys Inverness!” esboniodd.

“Fe wnaeth y pandemig fy ngorfodi”

Ar eu pennau eu hunain, ni fyddai'r cacennau llai yn cynnig incwm cynaliadwy ond ynghyd â digon o archebion am gacennau dathliadau, roedd gan Waddington gynllun. I ddechrau, byddai hi’n lansio’r busnes a’i farchnata ar-lein, yn lleol ar gyfer cacennau dathliadau, ac yn ehangach ar gyfer gacennau ysgafnach.

“Fe wnaeth y pandemig fy ngorfodi. Roeddwn i'n defnyddio Microsoft 365 ac OneDrive i redeg fy musnes, Xero ar gyfer cyfrifon, ac roeddwn i'n cymryd archebion gan ddefnyddio darllenydd cerdyn neu BACS. Ond doeddwn i ddim yn gwybod sut i gyrraedd cwsmeriaid ar-lein. Felly, es i ati i gymryd rhan yng ngweminarau rhad ac am ddim Cyflymu Cymru i Fusnes ar Hanfodion Cyfryngau Cymdeithasol, optimeiddio peiriannau chwilio (SEO), Hanfodion Marchnata Digidol a Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM).

“Roeddyn nhw’n dda iawn, ond y sesiwn am ddim gyda'r cynghorydd busnes a'i hadroddiad yn dadansoddi ymarferoldeb fy ngwefan helpodd i mi wneud synnwyr o'r hyn yr oeddwn wedi'i ddysgu. Roedd Cath wir yn fy neall i a'r hyn roeddwn i'n ceisio'i wneud, dyma wnaeth y gwahaniaeth rhwng cael syniad gwych a chreu busnes gwych,” meddai Waddington.

Erbyn hyn mae ganddi incwm sydd wedi’i rannu 40-60% rhwng cacennau dathliadau a chacennau llai. Gyda chacennau mwy creadigol yn cael eu casglu’n lleol, a’u danfon ymhellach, pan fydd ei radiws yn ymestyn heibio Bro Morgannwg ac i Fryste rhwng cyfyngiadau. Bydd y dyraniad hwn yn tyfu'n lletach fyth pan fydd hi’n datblygu agwedd briodasau’r busnes drwy fynychu'r gwyliau a digwyddiadau bwyd a ohiriwyd.

“Doeddwn i ddim wedi bwriadu anfon danteithion drwy’r post, ond mae’r amrywiaeth eang o gyfuniadau blasau’n hynod ddiddorol ac mae'r pleser gaiff pobl wrth dderbyn danteithion, sydd heb fod yn ddrud, drwy’r post yn amhrisiadwy! Mae hyn yn amlwg o adborth cwsmeriaid a dydw i ddim am golli'r ochr honno o’r busnes pobi.”

“Roedd y wefan a'r cyfryngau cymdeithasol yn hynod bwysig yn ystod y cyfnod clo”

Ond meddai, “Roedd y wefan a'r cyfryngau cymdeithasol yn hynod bwysig yn ystod y cyfnod clo, yn enwedig o ran y lansiad. Fe wnes i bostio'n organig ar Instagram a byrddau cymunedol Facebook lleol fel Aberhonddu a Chrughywel, yn hytrach na thalu am hysbysebion. Yn fwy diweddar ymunais â marchnad fwyd ar-lein Cymru, sydd ond yn £20 am dri mis.

“Ond nododd Cath, fy ymgynghorydd Cyflymu Cymru i Fusnesau, fod pobl yn aml yn defnyddio Google i chwilio am fusnesau ac roedd fy ngwefan i’n mynd ar goll. Hawliais i’r busnes ar Google My Business ac ychwanegais ddelweddau a dolen ar gyfer archebu cacennau, sy'n mynd â chwsmeriaid yn uniongyrchol i'r siop ar-lein. Yna, enwais y delweddau ar fy ngwefan i wella fy safle o fewn chwiliadau.

A cake made by The Tasteful Cake Company.

 

“Adolygodd Cath y wefan ac roedd ei chyngor yn rhagorol. Ar fwy nag un achlysur, anfonais e-bost ati i ofyn am help ac roedd hi bob amser yn fy ateb gydag awgrymiadau. Mae fel bod â mentor personol, a gyda'i chymorth gallaf weld bod angen i mi ystyried dadansoddi'r hyn sy'n gweithio yn ogystal â’r pethau nad ydyn nhw'n gweithio.”

“Mae gwerthiant ar-lein yn gwneud yn dda”

Fel arfer, mae archebion cacennau dathliadau’n dechrau ar Facebook, ac yna cyfathrebu drwy e-bost, galwad ffôn, ac yna braslun a chynnig. Er syndod, nid oes unrhyw un wedi derbyn y cynnig o ymgynghoriadau fideo ar Microsoft Teams. Ond pwysleisiai Waddington, “Mae gwerthiant ar-lein yn gwneud yn dda. Gellir eu cynnal mewn modd Covid-ddiogel ac mae cael fy nhystysgrif iechyd a diogelwch yn ychwanegu haen arall o sicrwydd i'm cwsmeriaid.”

Er mwyn ei helpu i reoli'r cynnydd mewn gwerthiannau, mae’n defnyddio'r fersiwn rhad ac am ddim o Trello i gynllunio prosiectau a chyfathrebu ac wedi'i gysylltu â'r fersiwn rhad ac am ddim o CRM Squarespace. “Mae angen i mi wneud mwy gyda fy CRM i ail-dargedu cwsmeriaid y gorffennol, gan fy mod yn gwybod y bydd Cath yn dweud fy mod yn colli tric os na wna i!” meddai.

“Rwy'n bwriadu treialu hyn tuag at yr haf ond mae angen bod yn ofalus. Mae angen i mi farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol a chadw fy safle uchel ar Google, er mwyn gallu cynyddu fy sylfaen cwsmeriaid, sicrhau ailarchebion, a phan fo hynny’n bosib, mynychu ffeiriau priodas er mwyn amlygu’r busnes o fewn y farchnad honno. Rwy'n mynd fel cath i gythraul a fydd hi ddim yn bosibl cynnal hynny heb gyflogi rhywun o’r ardal leol yn y dyfodol.”

“Mae eleni am fod yn well nag erioed”

Bron i flwyddyn ers dechrau’r pandemig, mae Waddington yn myfyrio ar fod yn fand un-fenyw sy’n gwisgo nifer o wahanol hetiau. 12 mis yn ôl, teimlai ei bod yn gorfod rhedeg i ddal i fyny, ac eleni mae'n dweud ei bod yn teimlo mewn rheolaeth ond bod angen iddi anadlu’n ddwfn a chynllunio ar gyfer y chwe mis nesaf.

“Fyddwn i ddim yn rhoi'r gorau i'r het bobi, ond rwy'n gobeithio trosglwyddo'r ochr gyfrifyddu i'm merch os bydd y busnes yn dal i dyfu. Rwy'n fwy parod; mae gen i fy stoc, fy neunydd pacio a gallaf ddefnyddio'r offer digidol fel cymorth. Mae penwythnosau'n cael eu cadw ar gyfer amser i mi fy hun, casglu ambell i gacen, a chynllunio beth i'w greu a’i bobi nesaf. Mae eleni am fod yn well nag erioed,” meddai.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen