Rhoddodd Wendy Hale ei ffydd yn y bydysawd, ac erbyn hyn mae In The Pink Therapies and Training yn rym pwerus iawn. 

Dydy symud o fod yn ysgrifenyddes mewn banc i fod yn therapydd cymwysedig, tiwtor, aseswr, ac aswiriwr ansawdd mewn dulliau iacháu cyflenwol ac amgen ddim yn llwybr amlwg. 

Ond daeth diddordeb Wendy ym myd therapi, a’i chariad at ddysgu, at ei gilydd yn berffaith pan lansiodd hi In The Pink Therapies and Training ym mis Chwefror 2015. 

Mae Wendy yn cynnig cyrsiau sydd wedi’u cymeradwyo gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol Hyfforddiant Galwedigaethol (VTCT), Yr Ymddiriedolaeth Iacháu, Ffederasiwn y Therapyddion Cyfannol (FHT) a Sefydliad Reiki y Deyrnas Unedig, yn ogystal â 17 o driniaethau. 

 

Esboniodd hi: “Fe wnes i gwrs ar Reiki – math Japaneaidd o iacháu seiliedig ar egni sy’n ceisio galluogi rhywun i ymlacio, lleddfu poen, a chyflymu gwellhad – dros 20 mlynedd yn ôl. Rydw i’n mwynhau dysgu, felly yn ddigon buan roeddwn i wedi gwneud cyrsiau tylino, aromatherapi, ac adweitheg ac yna grisialau, tylino’r pen mewn dull Indiaidd, cregyn lafa, a bambŵ.” 

Ar ôl gweithio o’i chartref a rhentu ystafell uwchben campfa – “nid yr amgylchedd tawelaf” yn ôl Wendy – daeth ei safle delfrydol “mas o’r glas” – neu o’r pinc hyd yn oed. 

Meddai Wendy: “Fe wnes i anfon neges i’r ether am adeilad i fod yn gartref i In The Pink. Doeddwn i ddim eisiau lle i fyny’r grisiau, ond roeddwn i eisiau ystafell hyfforddiant ac ystafell therapi ar wahân, a maes parcio naill ai ar y safle neu gerllaw. 

“Cafodd yr adeilad hwn ei gynnig a doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod ei fod yno, ond roedd yn ffantastig. 

“Roedden ni ar agor am tua mis ac yna daeth y cyfnod clo.” 

Er y pryderon am gadw’r goleuadau ymlaen yn ei hadeilad newydd, torchodd Wendy ei llewys a galwodd ar gymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau i sicrhau bod y busnes yn dod allan o’r pandemig yn y sefyllfa berffaith i lwyddo. 

“Es i ar gyrsiau ar-lein ar gyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol a chefais i sesiwn 1-i-1 gyda’r cynghorydd busnes, Peter Mackenzie, i alw ar ei arbenigedd.  

Aeth Wendy yn ei blaen: “Roedd Peter yn wych o ran fy helpu i foderneiddio fy ngwefan o ran lluniau a chynnwys gwell drwy ei helpu i lifo’n well a gwella’r profiad i’r defnyddiwr.  

“Roedd hefyd yn rhoi pwyslais ar allweddeiriau ar gyfer optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) ac mae hynny wedi cael effaith fawr oherwydd nawr fi yw’r rhif un ar gyfer tylino yn yr ardal hon ar Google ac rydw i yn y tri uchaf ar gyfer pob triniaeth sydd ar gynnig yma. Mae gwerthiannau, o ran triniaethau a chyrsiau, wedi gwella. 

“Fe wnes i greu proffil Google My Business, a’i wella â lluniau, sydd wedi helpu i wella fy ôl troed digidol. 

“Ar ben hynny, fe wnes i ychwanegu nodwedd PayPal at y wefan oedd yn gwneud y broses o gymryd bwciadau yn fwy syml ac esmwyth drwy arbed amser a thawelu unrhyw bryderon am daliadau.  

“Mae hyd yn oed mân newidiadau, fel cysylltau at y wefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol ar fy llofnod e-bost, wedi helpu i wneud popeth yn haws ei ganfod.” 

 

Mae Wendy hefyd wedi cyflwyno newidiadau i’r deunydd marchnata rhagweithiol mae hi’n ei anfon allan, ac mae’r canlyniadau cadarnhaol wedi cynorthwyo ei busnes i dyfu. 

Ychwanegodd:

“O ran cyfryngau cymdeithasol, cyn cael cymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau mae’n siŵr mai unwaith bob pythefnos y byddwn i’n postio, ar y mwyaf. Nawr rydw i’n postio tua dwywaith yr wythnos ac yn ymgysylltu mwy, diolch i rannu amrywiaeth o gynnwys, o wybodaeth am gyrsiau a’r amserlenni nesaf i straeon am lwyddiant ac awgrymiadau a chyngor defnyddiol. 

“Mae gallu defnyddio offer fel Canva, Picktochart, Powtoon a Kahoot hefyd yn gwneud y profiad dysgu’n fwy hwyliog i’r bobl sydd ar y cyrsiau.  

“Rydw i nawr hefyd yn ceisio anfon tri e-gylchlythyr y flwyddyn sy’n cynnwys gwybodaeth am gyrsiau, dosbarthiadau a therapïau, yn ogystal â thocynnau anrheg. 

“Mae gen i dros 70 o bobl yn derbyn y cylchlythyr drwy MailChimp, sy’n addawol gan ein bod ni wedi colli cymaint o ddata oherwydd GDPR.” 

Mae Wendy hefyd wedi symleiddio ei gweithrediadau drwy gyflwyno meddalwedd cwmwl gyda chymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau. 

“Mae defnyddio iCloud hefyd wedi bod yn ddatblygiad ffantastig,” meddai. 

“Mae’n wych bod gen i holl adnoddau fy nghyrsiau fel sleidiau, nodiadau cyflwyniad ac asesiadau, ble bynnag rydw i ac ar fy nyfeisiau i gyd drwy daro botwm.” 

 

Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar In The Pink Therapies and Training, mae’r gwelliannau wedi rhoi llawer o fwynhad i Wendy. 

“Mae wedi gwneud popeth yn fwy cyffrous i mi – rydw i wedi bod wrth fy modd â thechnoleg erioed, ac mae wedi rhoi cyfle i mi ddefnyddio amser i wneud pethau eraill fel gwella cyflwyniadau ac ysgrifennu cyrsiau ar-lein,” ychwanegodd Wendy. 

“Diolch i Gyflymu Cymru i Fusnesau, rydw i nawr yn deall yn well sut mae popeth yn llifo a sut i wneud i bethau ddigwydd.” 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen