Mae dau frawd mentrus sydd wedi rhoi lle blaenllaw i Facebook yng ngweithgaredd marchnata eu busnes yn anelu at bron i ddyblu eu targed trosiant yn eu blwyddyn gyntaf o fasnachu.

 

Sefydlodd Charlie a Sam Lewis Fit My Floor ym mis Chwefror 2017, ac mae’r cwmni o Gasnewydd, sy'n arbenigo mewn lloriau ar gyfer safleoedd domestig a masnachol, wedi mwynhau chwe mis cyntaf gwych o fasnachu.

 

2 men behind a "Fit my floor" counter

 

Maen nhw newydd gyflogi dau aelod newydd o staff, ac mae ganddynt gynlluniau uchelgeisiol i agor ail ystafell arddangos yn ystod y tair blynedd nesaf.

 

Mae ymwybyddiaeth brand yn allweddol

 

Ac mae eu hagwedd greadigol at y cyfryngau cymdeithasol wedi golygu bod Facebook yn cyfrif am 34 y cant o drosiant y busnes.

 

Mae'r pâr prysur hefyd wedi cynnwys technoleg mewn agweddau eraill o’r busnes fel bod y cwsmer yn cael profiad da o'r dechrau i'r diwedd.

 

“O’r cychwyn, gwyddom mai ein problem fwyaf oedd codi ymwybyddiaeth o’r brand fel bod pobl yn gwybod ein bod ni'n bodoli,” meddai Charlie.

 

"Mae gen i gefndir mewn marchnata, ac fe nes i gyplysu hyn gyda chymorth gan cyflymu Cymru i Fusnesau trwy fynychu gweithdy a chael cyngor un-i-un.

 

“Roedd angen dull strategol arnom”

 

"Mae pawb yn gwybod bod y cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn arf marchnata pwerus. Ond mae cwta 300,000 o bobl yn diweddaru eu statws ar Facebook bob 60 eiliad. A dyw hi ddim yn ddigon i daflu arian at Facebook i roi hwb i negeseuon– mae tua £1.75 biliwn yn cael ei wario ar hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol bob blwyddyn.

 

"Roedd angen i ni feddwl yn strategol i leihau'r sŵn.

 

"Fe wnaethom gyfuno cynnwys, megis cystadlaethau a fideos gyda hysbysebion wedi talu amdanynt a gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol i godi ymwybyddiaeth o'r brand a'i wneud i sefyll ar wahân ymhlith cystadleuwyr cenedlaethol sydd wedi hen sefydlu.

 

“Ar gyfartaledd, rydym yn gwario £150 y mis yn hyrwyddo ein cystadlaethau, sy'n denu dros 1,000 o geisiadau ac yn cyrraedd dros 100,000 o bobl.”

 

Yn canolbwyntio ar y cwsmer

 

Mae'r busnes yn gosod y cwsmer wrth wraidd popeth. Er enghraifft, cyflwynodd system bwynt gwerthu electronig (EPOS), Clover Station, sy'n cefnogi anghenion a gofynion y cwsmer. Mae ganddo'r gallu i ddangos lluniau o gynhyrchion ac, os yw pob til yn brysur, mae'n dod yn dil fel nad yw'r cwsmer yn gorfod aros.

 

Mae'r system hwn, sy'n seiliedig ar ap, yn hygyrch dros y ffôn neu lechen o unrhyw le yn y byd, hefyd yn storio gwybodaeth i gwsmeriaid a hanes gwerthu, ac yn system cysylltiadau cwsmeriaid hefyd.

 

Mae'r gallu i gofnodi hefyd yn golygu y gall Charlie a Sam wneud addasiadau all-lein ac ar-lein i gynyddu gwerthiant a chynhyrchiant. Er enghraifft, mae'n pwysleisio’r cynhyrchion mwyaf llwyddiannus, sy'n golygu y gellir eu lleoli’n amlwg yn y siop o fewn munudau.

 

Yn ogystal, mae'r brodyr yn monitro sylwadau a negeseuon ar Facebook ar eu ffonau gartref er mwyn ymateb bron yn syth, gan roi mantais gystadleuol anferth iddynt.

 

Meddai Charlie: "Os yw cwsmer yn anfon neges atom am 8yh, fel arfer, rydym wedi trefnu amser drannoeth i fesur am ddim.

 

"Byddwn ni wedi gallu rhoi pris i’r cwsmer erbyn i rai busnesau ymateb i ymholiad y cwsmer.

 

"Y dull hwn sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid sydd wedi arwain at bron i 100 o adolygiadau pum seren ar y dudalen Facebook."

 

O ran cynlluniau yn y dyfodol, ychwanegodd: "Byddwn yn uwchlwytho lluniau o’r holl gynnyrch i'r wefan a hefyd yn edrych ar farchnata e-bost er mwyn ein cadw ar feddwl y cwsmeriaid.

 

"Beth bynnag y byddwn yn penderfynu ei wneud, byddwn yn ei wneud er lles y cwsmer."

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen