Mae cwmni gweithgynhyrchu o Gasnewydd sy’n gwneud systemau angori i’r ddaear yn elwa ar fwy o effeithlonrwydd ac yn ystyried ehangu i farchnadoedd newydd, diolch i fuddsoddiad mewn technoleg ddigidol a chymorth gan gynllun Cyflymu Cymru i Fusnesau Llywodraeth Cymru.

 

Mae Spirafix wedi creu nifer o systemau angori i’r ddaear amlbwrpas a ddefnyddir yn y diwydiant adeiladu, yn ogystal ag ar gyfer sefydlogi strwythurau lleoedd chwarae, pebyll mawrion a charafanau sefydlog. Yn ddiweddar cefnodd y cwmni ar ei ddulliau papur gan droi at system rheoli swyddfa ddigidol gan hybu ei bresenoldeb ar-lein - newid sydd wedi arwain at dwf blynyddol o bump y cant a chynnydd mewn gwerthiant dros y byd.

 

Fel rhan o’i ymrwymiad i fodel busnes digidol, bu’r cwmni mewn gweithdy marchnata ar-lein wedi’i gynnal gan Cyflymu Cymru i Fusnesau. Pwrpas y gweithdy yw helpu busnesau i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r ffordd y mae cyfryngau cymdeithasol a thechnegau ar-lein yn gallu gwella eu gweithgaredd marchnata ac ehangu eu pŵl cwsmeriaid. Hefyd derbyniodd y cwmni gyngor arbenigol un i un ar sut i gynyddu effeithiolrwydd ei strategaeth ddigidol.

 

Ar gefn llwyddiant ei ddull digidol yn gyntaf, mae’r cwmni bellach yn ystyried ehangu ei nwyddau ac ehangu ei gynulleidfa o ran marchnata.

 

“Cynhyrchwyd y wefan flaenorol yn fewnol ac roedd ei defnydd a’i hapêl yn gyfyngedig,” meddai Paul Clatworthy, perchennog y busnes. “Roedd yr effaith yn gyfyngedig, gydag archebion ar-lein yn rhan cymharol fach o’n busnes cyffredinol, ac nid oedd yn hawdd dadansoddi defnyddwyr y wefan na gweld beth oedd effaith ein gweithgaredd marchnata. Penderfynwyd nad oedd pwynt cael nwyddau gwych a neb yn gwybod amdanynt ac ymrwymwyd i fabwysiadu dull digidol llawn ar gyfer marchnata a rheoli swyddfa."

 

Meddalwedd cwmwl yn creu effeithlonrwydd

Yn Hydref 2013, o dan berchnogaeth newydd, cafodd y busnes ei drawsnewid a’i droi’n ddigidol. Bellach mae'n defnyddio meddalwedd cyfrifeg cwmwl i reoli gwaith yn fwy effeithlon – gan fanylu ynghylch y dewis o nwyddau sydd ar gael, cymryd stoc, paratoi dyfynbrisiau a chyflwyno anfonebau a gwaith papur arall yn electronig. Mae’r llwyfan seiliedig ar y cwmwl yn helpu staff gweinyddol i reoli tasgau bob dydd yn effeithiol, fel gwyliau staff, absenoldeb salwch a thâl, tra bod cwsmeriaid bellach yn gallu defnyddio PayPal i brynu nwyddau drwy’r wefan hefyd mae’r cwmni’n bwriadu gweithredu system rheoli perthynas â chwsmeriaid (CRM) i wella’r ffordd y mae'n cyfathrebu â’i sylfaen cwsmeriaid cynyddol.

 

Spirafix employee stood by branded car and machinery

 

Yn 2016, fel rhan o strategaeth ddigidol ehangach y cwmni, cafodd y wefan ei hail-ddylunio’n llwyr, gyda chyfeirlyfrau ar-lein, llwyfan cynnwys dynamig ac archifau newyddion, a mwy o ffocws ar ei nwyddau, gan sicrhau mwy na 1,000 o ymwelwyr bob mis.

 

“Roeddem yn arfer argraffu llawer o ddeunyddiau ac roedd gennym fwy o eitemau marchnata ar bapur, tra bod brand y busnes wedi dechrau dyddio braidd,” meddai Louise Lewis, Rheolwraig Marchnata yn Spirafix a pherchennog ffreshdawn marketing. “Mae ein gwefan wedi dod yn rhan allweddol o’r busnes – gan ein helpu i werthu i gleientiaid yn y DU, Ewrop, ac ymhellach i ffwrdd. Rydym yn diweddaru cynnwys ein gwefan yn rheolaidd bellach – mae wedi dod yn llawlyfr gwerthiant cyfredol.”

 

Gwella presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol

 

Ar gefn ei gysylltiad â rhaglen Cyflymu Cymru i Fusnesau, bu i Spirafix hefyd wella ei bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol a gwella lefelau gweithgaredd ar draws nifer o lwyfannau.

 

“Bellach rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol - yn cynnwys Linkedln, Twitter, Instagram a Facebook - yn rheolaidd i ddenu pobl i’r wefan, “ ychwanega Louise. Rydym yn gwneud ychydig bob wythnos i ddiweddaru cwsmeriaid ynglŷn â nwyddau newydd, gan sicrhau ein bod yn ymddangos yn gyfredol a pherthnasol. Bydd ein ffocws nesaf ar greu sianel YouTube yn ystod y misoedd nesaf. Y nod oedd codi ymwybyddiaeth o’r brand ac mae'n ymddangos ei fod wedi gweithio’n dda hyd yma gan ein bod wedi cynyddu ein cwsmeriaid, gan weithio ar brosiectau mwy sy’n werth mwy i arian.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen