Mae gan Think Air gynllun beiddgar i fonitro ansawdd aer ledled Cymru gyfan. Dim ond gyda thechnoleg IoT fydd hyn yn bosibl.

Mae llygredd aer yn parhau i fod yn brif berygl i iechyd ledled y byd, ond cyn y gellir mynd i’r afael â’r broblem, mae angen ei fesur yn gywir a’i ddeall yn llawn. Mae’n her a hanner monitro ansawdd aer un ddinas, ond mae prosiect uchelgeisiol Think Air eisiau ymestyn cwmpas monitro llygredd i Gymru gyfan.

Mae Think Air ynghyd â’r darparwr technoleg sefydledig Vindico a’r Athro Paul Lewis, cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil ac Arloesedd Iechyd a’r Amgylchedd Prifysgol Abertawe ac ymgynghorydd Llywodraeth Cymru ar ansawdd aer.

“Rydym ni am wneud y dechnoleg ddiweddaraf mewn ansawdd aer yn hygyrch, yn fforddiadwy ac yn hawdd i’w deall,” meddai Jo Polson, cyd-sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr Vindico. “Ers dwy flynedd, rydym wedi bod yn datblygu ein technoleg synwyryddion, dan arweiniad yr Athro Paul Lewis. Mae’n arbenigo mewn effeithiau llygryddion ar iechyd anadlol, dadansoddeg ar raddfa fawr, a datblygu technolegau synhwyrydd newydd ar gyfer monitro llygryddion. Rydym wedi manteisio ar arbenigedd a phrofiad Paul ac wedi ychwanegu ein brand arloesi ein hunain i greu platfform rydyn ni’n credu sy’n sefyll ar ei ben ei hun yn y farchnad sydd ohoni.”

A photo of Swansea.

Mesur yn ysgogi ymwybyddiaeth

Mae Polson yn cyfaddef bod y dasg yn un enfawr. Mae’n dechrau trwy fesur y llygredd aer, yna codi ymwybyddiaeth cyn dewis y ffordd gywir o weithredu. “Rydyn ni hefyd yn ymwybodol nad ein cenhedlaeth ni yn ôl pob tebyg fydd yn datrys yr holl broblemau hyn. Arweiniodd hyn atom yn cynhyrchu ein citiau synhwyrydd aer ‘Create your own’ ar gyfer ysgolion cynradd yng Nghymru ac rydym yn bwriadu dechrau eu cyflwyno yn ddiweddarach eleni. Y cynharaf y gallwn ddechrau codi ymwybyddiaeth, y cyflymaf y gallwn ddechrau dylanwadu ar ymddygiad, a fydd yn ei dro yn arwain at well dealltwriaeth ac atebion newydd.”

Mae’n hawdd bod yn blasé am lygredd aer. Dyw ei effeithiau ddim yn weledol ac yn aml, dydyn ni ddim yn cael hysbysiadau am ansawdd aer gwael. Ond hyd yn oed yng Nghymru, mae’r fater cynyddol ddifrifol. “Mae llygredd aer yn cael effeithiau tymor byr a thymor hir ar iechyd,” rhybuddia Polson. “Daw llygryddion o ffynonellau fel trafnidiaeth, ac maent yn cynnwys gronynnau mân a nitrogen deuocsid. Mae’r llygryddion hyn, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn achosi tua 1,500 – 2,000 o farwolaethau cynnar [bob blwyddyn]. Mae dod i gysylltiad â’r llygryddion hyn hefyd yn arwain at gynnydd mewn derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer pobl agored i niwed fel y rhai a chlefyd anadlol neu gardiofasgwlaidd.”

Eglura Polson bod ansawdd aer yn cael ei fonitro ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Fodd bynnag, oherwydd rheoliadau’r UE, dim ond llond dwrn o fonitro ansawdd aer priodol sydd yn digwydd yng Nghymru ac mae’n tueddu i ddigwydd mewn ardaloedd mawr fel Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd. Defnyddir y data a gesglir o’r gwaith monitro hwn gan Lywodraeth Cymru i allu adrodd yn ôl i Lywodraeth y DU a hynny bob blwyddyn. Caiff nitrogen deuocsid ei fesur gan awdurdodau lleol bob mis ond dim ond os oes ydyn nhw’n disgwyl gormodedd o nwy. O ganlyniad, does gan lawer o Gymru ddim data ar lygredd aer i’w gynnig i’r cyhoedd.

Casglu data gyda synwyryddion cost isel

Er mwyn lleddfu’r bylchau yn yr wybodaeth, mae Think Air yn cynnig rhwydwaith synwyryddion ansawdd aer all ddarparu data lleol byw i’r cyhoedd yn gyffredinol. “Dim ond bryd hynny,” meddai Polson, “y gall y cyhoedd – sydd eu hunain yn lygrwyr mawr – newid eu ffordd o feddwl a lleihau lefelau llygredd aer o’u cwmpas a’u hamlygiad. Y ffordd ddelfrydol o leihau llygredd aer yw newid y ffordd rydym yn meddwl amdano.”

Elfen allweddol o’r prosiect yw’r synwyryddion bach, cost isel sydd eu hangen i gasglu’r data ansawdd aer. Mae’r synwyryddion hyn yn mesur gronynnau (fel llwch, paill, parddu, mwg a defnynnau hylif), yn ogystal ac ocsidau nitrogen, tymheredd a lleithder.

“Heb os, bydd synwyryddion gronynnol prif ffrwd yn seiliedig ar laser,” eglura Polson, “ac mae ymchwil eisoes yn dangos bod y math hwn o synhwyrydd yn ddibynadwy ac yn gost-effeithiol. Synwyryddion nitrogen deuocsid sy’n dibynnu ar adwaith cemegol i ganfod y nwy yw’r ‘norm’ a ddefnyddir ar hyn o bryd ond mae technolegau newydd, fel synwyryddion printiedig wedi’u seilio ar graphene, yn dangos addewid. Felly, rydym wedi gwerthuso synwyryddion gronynnol sy’n defnyddio laser a synwyryddion nitrogen deuocsid cemegol fel ein technolegau a’n cam cyntaf mewn gosodiadau cyfredol, ac ar hyn o bryd, rydym yn gwerthuso synwyryddion graphene addawol fel y cam nesaf.”

A crowd of people.

Edrych i ddyfodol IoT

Elfen bwysig o’r synwyryddion laser a chemegol hyn yw eu dibynadwyedd a’u defnydd o bŵer isel, sy’n golygu y gallan nhw redeg am gyfnodau hir, naill ai ar fatris neu chyda phŵer solar. Gellir eu cynhyrchu mewn symiau mawr hefyd, sy’n eu gwneud yn isel o ran cost ac yn haws i’w cynhyrchu. Yn y pen draw, bydd y synwyryddion hyn yn cael eu defnyddio mewn rhwydwaith IoT, gan fonitro ansawdd aer yn barhaus.

“Mae IoT yn galluogi i unrhyw synhwyrydd o bosibl gael ei ddefnyddio gan lawer o gwmnïau a diwydiannau – beth bynnag fo’u hanghenion,” meddal Polson. “Gellir teilwra’r data parhaus a gynhyrchir gan synwyryddion at un pwrpas neu gyfuno eu data i ddod yn rhan o hafaliad mwy a mwy cymhleth. Gan fod hyn yn swnio’n broses hynod o ddryslyd, yn syml, gallwn ddysgu, bron mewn amser real, wybodaeth am bethau sy’n digwydd o’n cwmpas er mwyn gallu gwneud penderfyniadau cyflym a chywir.”

Dim ond megis dechrau ydyn ni ar hyn o bryd. “Gallai’r un rhwydwaith synhwyrydd rydym wedi’i chreu ddarllen lefel afon,” meddai Polson, “y golau sy’n dod drwy’r ffenestr neu bwysau gwastraff mewn bin mewn parc, gan anfon yr holl wybodaeth at blatfform a chronfa ddata sengl i’w defnyddio gyda systemau, problemau neu atebion eraill. Dyma yw dyfodol IoT, nid un cwmni’n gwneud synwyryddion sy’n gwneud un peth ar un rhwydwaith, ond ecosystem a lle gellir casglu’r holl ddata synhwyrydd i ychwanegu cymaint o ddealltwriaeth berthnasol at gwestiynau sydd gennym, gan greu atebion gwell.”

“Yn y pen draws, nod Think Air yw darparu cwmpas rhwydwaith ar gyfer Cymru gyfan, y mae Polson yn credu y gellid ei gyflawni o fewn pum mlynedd. “Efallai bod hyn yn swnio’n uchelgeisiol iawn,” dywed, “a’r dagfa amlwg yw lefel yr ymgysylltu y gallwn ei gyflawni gydag awdurdodau rhanbarthol a lleol. Ond, drwy ddeall bod y ffordd rydym yn byw yn effeithio ar yr aer a anadlwn, rydym yn hyderus y byddai cynyddu ymwybyddiaeth yn sbarduno newid ar bob lefel.”

Darllenwch ragor am fenter Think Air yng Nghymru yma.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen