Mae gwesty tair seren yn Eryri yn rhoi croeso cynnes i dechnoleg ddigidol, ac mae creu swyddi a chynlluniau i ymestyn ar y gweill diolch i ddefnydd effeithiol o farchnata e-bost ac ymgysylltu â chwsmeriaid.

 

Gallai Gwesty Royal Victoria ychwanegu 20 ystafell arall yn ystod y ddwy flynedd nesaf, ac mae meddiannaeth yn codi fesul blwyddyn wrth iddo barhau i ennill lle blaenllaw mewn marchnad gystadleuol.

 

Photo of Royal Victoria Hotel

 

Hanfod ei lwyddiant yw sut y mae wedi integreiddio technoleg ddigidol i’w weithgareddau, yn ogystal â chynnig rhyngrwyd cyflym i’w westeion, sy’n rhywbeth nad yw nifer o’i gystadleuwyr yn ei wneud. Mae’r gwesty, ar gyrion Llanberis wrth droed yr Wyddfa, wedi mynd yn groes i’r tueddiad yma ac erbyn hyn mae’n mwynhau ei gyfnod mwyaf llwyddiannus erioed.

 

Mae Steve Lee, rheolwr cyffredinol y gwesty, a agorwyd yng nghanol y 18fed Ganrif, yn dweud bod gosod y cwsmer yng nghanol y gweddnewidiad technolegol wedi bod yn rhan allweddol o greu twf.

 

Mae band eang cyflym iawn yn helpu ein cwsmeriaid i gadw mewn cysylltiad

 

Dywedodd: “Tra bod rhai pobl yn hoffi dianc yn llwyr pan fyddant yn mynd i ffwrdd, mae nifer o ymwelwyr yn dal i hoffi cysylltu â’r byd mawr y tu allan. P’un a bod hynny er mwyn cysylltu â’r teulu, dilyn y canlyniadau chwaraeon diweddaraf neu rannu lluniau gwyliau ar gyfryngau cymdeithasol, rydym yn deall bod cael cysylltiad dibynadwy a chyflym i’r rhyngrwyd yn un o anghenion allweddol ein cwsmeriaid.

 

“O’r blaen roedd gennym gyflymder lawrlwytho rhwng 1mbs a 2mbs, ac nid oedd hynny’n ddigon da. Erbyn hyn rydym yn derbyn hyd at 100mbs drwy ffibr. Nid oes yna lawer o westai a lletyau Gwely a Brecwast yn cynnig hynny, felly mae wedi bod yn bwynt gwerthu mawr iawn.

 

“Yr un  mor bwysig â gallu ei gynnig i’n cwsmeriaid oedd ein gallu ni i’w ddefnyddio er budd y gwesty mewn meysydd megis gwasanaeth cwsmeriaid a marchnata. Er enghraifft, mae ein tiliau arian parod yn cael eu rheoli drwy wi-fi ac mae’r cysylltiad cyflym yma yn sicrhau nad yw cwsmeriaid yn gorfod disgwyl yn rhy hir i gymeradwyo taliadau. Hefyd, mae’r tiliau nawr yn darparu adroddiadau ar alw fel y gallwn weld pa gynnyrch yn y tŷ bwyta sy’n boblogaidd a phryd. Mae hynny yn ein galluogi i ddatblygu’r fwydlen yn unol â beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddymuno mewn gwirionedd.

 

Marchnata dros e-bost wedi creu rhwng £10,000 a £15,000 o fusnes newydd

 

“O ran marchnata, bu i ni e-bostio’r holl bobl oedd wedi defnyddio’r wi-fi yn ystod mis penodol a chynnig dêl arbennig iddynt yn y gwesty ar gyfer eu harhosiad nesaf, gyda therfyn amser ar gyfer ei ddefnyddio. Bu i hynny greu rhwng £10,000 a £15,000 o fusnes. Ni fyddem wedi gallu gwneud hynny o’r blaen.

 

Gellid ymestyn y gwesty, sydd â 104 o ystafelloedd gwely, i fod yn westy 124 ystafell yn ystod y ddwy flynedd nesaf, a byddai mwy o swyddi yn cael eu creu yn sgil yr estyniad.

 

A bydd Steve yn parhau i ganfod sut y gall y seilwaith digidol fod yn fuddiol i’r gwesty yn y dyfodol. Ychwanegodd: “Rydym eisoes wedi newid yr holl allweddau o rai metel traddodiadol i gardiau digidol, ac mae’r cysylltiad rhyngrwyd dibynadwy hefyd yn golygu y gallwn fod yn fwy hyblyg o ran prisio drwy ddiweddaru ein prisiau i asiantaethau teithio trydydd parti.

 

Bydd technoleg ar-lein yn ein helpu i fod yn fwy effeithlon

 

“Byddwn yn parhau i archwilio ffyrdd o gael y mwyaf o’r seilwaith digidol sydd gennym. Gallai hynny gynnwys adloniant yn yr ystafelloedd, system reoli'r maes parcio a mynediad o bell ar ffonau symudol a thabledi i gamerâu cylch cyfyng er mwyn gwella diogelwch gwesteion a staff.

 

“Mae gwella effeithlonrwydd hefyd ar ein hagenda, a bydd y dechnoleg ddigidol sydd ar gael i ni nawr yn rhoi cyfle i ni liflinio’r gwaith o reoli’r gwesty. Er enghraifft, y gyflogres a staffio yw costau mwyaf y gwesty, ac rydym yn treialu meddalwedd sy’n creu amserlenni staffio yn awtomatig.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen