Mae cwmni peirianneg gywrain o Ogledd Cymru yn dathlu ei fod yn ehangu ar draws marchnadoedd proffidiol a chynnydd o 20% mewn refeniw yn ystod y 12 mis diwethaf, ar ôl diweddaru ei seilwaith TG er mwyn gwella diogelwch seiber a chreu effeithlonrwydd ac arbedion cost.

 

Ar y blaen

 

“Yn ein diwydiant ni mae’n hanfodol ein bod un cam ar y blaen, felly roeddem yn teimlo y dylem alinio ein gweithgaredd busnes gyda’n henw da am ddarparu cydrannau o safon uchel”, meddai Josh Harris, Rheolwr TG Tarvin Precision o Sir y Fflint. Mae’r ymagwedd flaengar hon yn hanfodol, oherwydd bod gan y cwmni enw da fel dolen allweddol yn y gadwyn gyflenwi i ddiwydiannau sy’n dibynnu ar berfformiad o’r radd flaenaf, megis amddiffyn, chwaraeon modur, awyrofod, morol, a’r meysydd gwyddonol a meddygol.

 

Mae Harris, oedd yn beiriannydd gyda Travin, yn egluro bod y cwmni wedi dechrau ystyried o ddifrif y newid y byddai’n ei wneud i’w fusnes ar ôl derbyn cymorth un i un drwy Gyflymu Cymru i Fusnesau. Roedd eisiau dod â rhan o’i alluedd TG yn fewnol a defnyddio rhywun oedd yn deall sut oedd eu busnes yn gweithio, felly roedd cefnogi Harris i astudio ar gyfer gradd mewn Gwyddor Cyfrifiaduron a Diogelwch Seiber Ym Mhrifysgol Glyndŵr yn rhywbeth synhwyrol i’w wneud. 

 

“Fe’n cynghorwyd i symud ein holl beiriannau i system weithredu Windows 10, sydd nid yn unig wedi rhoi elfen o gysondeb i ni ond mae hynny hefyd wedi gwella diogelwch seiber yn ein busnes. Mae hyn yn gritigol ym myd busnes y diwydiannau awyrofod a modurol, ac rydym yn y broses o ennill ein hachrediad Hanfodion Seiber er mwyn dangos ein hymrwymiad yn y maes yma.”

 

Lleihau costau

 

Oherwydd bod nifer fawr o gleientiaid Travin yn fyd-eang, mae uwchraddio i gysylltiad Band Eang Cyflym er mwyn cynyddu cyflymder lawrlwytho i dros 80Mbps wedi golygu bod eu cyfathrebu yn llawer mwy dibynadwy. Arweiniodd hynny ar arbediad cost o 50% yn eu cyllideb telegyfathrebu flynyddol, a bydd hynny yn codi i 75% ar ôl talu am gost ariannu’r buddsoddiad ymhen tua 12 mis. 

 

Gwella boddhad cwsmeriaid

 

Mae’r galluedd yma wedi arwain at effeithlonrwydd yn rhannau eraill o’r busnes, yn cynnwys derbyn galwadau ffôn, marchnata a rheoli data cleientiaid o ddydd i ddydd y gellir ei anfon a’i dderbyn yn hawdd erbyn hyn beth bynnag fo maint y ffeiliau data.  Mae hynny wedi bod yn arbennig o bwysig i gyfrifon nifer o gleientiaid allweddol, sydd hefyd wedi cael teimlad o sicrwydd gan fod staff yn gallu cael mynediad i’w gweinydd o bell drwy gysylltiadau diogel.

 

“Mae arbedion effeithlonrwydd yn y meysydd yma wedi rhoi mwy o amser i ni i’w fuddsoddi mewn mentrau eraill, megis cyflwyno system feddalwedd Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM). Er nad yw’n bodoli ar y rhyngrwyd, mae’r penderfyniad i ddiweddaru o’r hen system oedd yn cyfuno ffeiliau papur a meddalwedd cyfrifo i dracio archebion cwsmeriaid, cyflenwadau a chyfathrebiadau marchnata, wedi bod yn ddatblygiad cadarnhaol.”

 

Mae’r system CRM, a osodwyd gan arbenigwyr meddalwedd peirianneg Emax Systems, eisoes wedi dechrau talu ar ei ganfed. Gall Travin dracio a monitro bob archeb yn gyflym drwy daith gyflawn y cwsmer, ac mae hynny yn arbed amser i’r adran gwasanaethau cwsmeriaid. Hefyd, mae’n galluogi’r tîm marchnata mewnol i ddefnyddio’r system i gynnal ymgyrchoedd wedi eu targedu sy’n cynhyrchu hyd at hanner yr ymholiadau busnes gan gwsmeriaid newydd.

 

Mantais gystadleuol

 

Yn ôl Harris, mae’n debyg mai’r cam nesaf o ran buddsoddi fydd caffael gweinydd newydd ynghyd â chyfleuster storio cwmwl. “Mae’n hanfodol ein bod un cam ar y blaen drwy’r amser er mwyn parhau i fod yn gystadleuol. Ar ôl sefydlu cyfleuster storio cwmwl, byddwn yn gallu adolygu ein cymorth TG allanol unwaith eto, yn ogystal ag edrych ar ffyrdd eraill o wneud y mwyaf o’r potensial y gall system  gwmwl ei greu mewn meysydd megis rhannu dogfennau, cydweithredu ac ehangu galluedd mynediad o bell i staff.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen