Sut i wneud busnes llwyddiannus o fynd â moch ac asynnod am dro, gan gefnogi elusennau a’r ardal leol?

Dysgwch sut mae Good Day Out, gyda chymorth ar-lein gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, yn creu profiadau cadarnhaol yng Nghymru ac yn cyrraedd mwy o gwsmeriaid i dargedu twf 25% mewn trosiant.

 

 

Bwriad Julia Blazer, pan sefydlodd Good Day Out, oedd dod â phobl i ardal hardd Bannau Brycheiniog i fwynhau’r cyfoeth naturiol, cadwraeth a bywyd gwyllt - a chael amser da’r un pryd.

 

Bellach mae ei busnes yn cynnig mynediad hawdd i gwsmeriaid at amrywiaeth o ddiwrnodau cyffrous a hwyliog yn yr ardal, yn cynnwys mynd â mulod Mediteranaidd bach am dro, mynd â defaid am dro, cneifio defaid – a mynd â moch am dro.

 

Mae pobl wrth eu bodd yn bod yn rhan o gefn gwlad, meddai, ac mae’n fusnes sy’n gwneud i chi deimlo’n dda, gan fod rhan o bob bwciad yn mynd tuag at elusen sy’n gysylltiedig â’r profiad.

 

Pan ddechreuodd ei busnes, sefydlodd Julia wefan. Credai y byddai’r rhan fwyaf o’r gwaith marchnata cael ei wneud gan ei gwefan, ond yn fuan sylweddolodd nad oedd mor hawdd â hynny. Wynebodd anawsterau a chymerodd amser hir i sefydlu’r busnes.

 

Yna aeth ar gwrs gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau oedd yn mynd drwy bopeth. “Roedd yn wych – alla i ddim egluro mor dda oedd o,” meddai

 

Edrychodd y tiwtoriaid ar wefan pawb ar y cwrs yn unigol, gan drafod yn benodol iawn sut y gellid eu gwella, a hefyd edrychwyd ar gyfryngau cymdeithasol, e-gylchgronau a defnyddio Cwmwl. Yn ôl Julia roedd yn sesiwn tair awr llawn i’r ymylon.

 

Ar ôl y cwrs cafodd hyder i newid a diweddaru ei gwefan. Symudodd i Wordpress i allu newid ei helfennau’n haws, a defnyddio manteision Cwmwl fel Dropbox - sy’n ddefnyddiol oherwydd ei bod yn storio llawer o luniau ar gyfer eu hanfon i’r cyfryngau - a newidiodd o PayPal i Stripe ar gyfer derbyn taliadau, gan ei fod yn llai costus a haws ei ddefnyddio. Hefyd dechreuodd ddefnyddio Mailchimp ar gyfer e-bost marchnata a chylchlythyrau.

 

Mae Julia yn rhagweld y bydd cynnydd o 25% o ran trosiant eleni, a dywed y bydd 10-15% ohono’n deillio o’r newidiadau a wnaeth ar ôl y cwrs Cyflymu Cymru i Fusnesau.

 

Mae eu cyngor a safon y cymorth ynghyd â’u dadansoddiad o’i busnes a’i gwefan wedi bod yn arbennig, meddai. Ar ôl blwyddyn yn sefydlu’r wefan yn gadarn ac yn gwneud mân newidiadau, bellach mae'n gobeithio y bydd yn ehangu y flwyddyn nesaf.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen