Clywch gan Liz Stack, Perchennog The Old Mill Holiday Cottages ynghylch sut mae’r busnes wedi gwella proffidioldeb a lleihau eu costau comisiwn trwy droi’r wefan yn arddangosfa ar-lein, gan reoli archebion trwy un system sy’n hawdd i’w ddefnyddio a gyrru archebion cwsmeriaid trwy’r cyfryngau cymdeithasol.

 

 

Mae Bythynnod Gwyliau The Old Mill yn ddatblygiad o dri chartref gwyliau moethus, sy’n gorwedd ynghudd ger pentref Nannerch yn Sir y Fflint, yng nghanol Bryniau Clwyd, sy’n ardal o harddwch naturiol eithriadol yng ngogledd Cymru.

 

Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r perchennog, Liz Stack, wedi ailwampio’r tri bwthyn ac mae ganddi gynlluniau i ailwampio un arall.

 

Mae wedi eu moderneiddio nhw, ond wedi cadw naws a nodweddion traddodiadol yr hen eiddo – fel waliau cerrig a thrawstiau – i greu cartrefi gwyliau y mae’r gwesteion yn dweud sy’n gartrefol a chysurus iawn.

 

Cyfaddefodd Liz ei bod hi’n newydd i dechnoleg ddigidol, ond sylweddolodd ei fod yn hanfodol i wneud busnes yn yr oes fodern.

 

Mynychodd gwrs hyfforddi gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau, ac o ganlyniad i hwnnw, cafodd sesiwn un i un i’w chynghori ynghylch ei gwefan. Cafodd gymorth, ymhlith pethau eraill, i roi celfigion ar y safle a mewnosod fideo, a gwnaeth y cyfan ei droi’n arddangosiad trawiadol o beth sydd gan y bythynnod i’w gynnig.

 

Mae’r technolegau y mae wedi’u mabwysiadu wedi cynyddu proffidioldeb y busnes yn fawr. Yn wreiddiol, defnyddiodd asiant i sicrhau archebion gwyliau, ond roedd y costau comisiwn yn uchel. Nawr, mae’n defnyddio FreeToBook, cyfleuster sy’n darparu system archebu y gellir ei raglennu - a wnaeth arbed ar unwaith y costau comisiwn yr oedd hi’n arfer eu talu. 

 

Gall cwsmeriaid fewngofnodi i’r wefan, a gweld yn glir argaeledd y bythynnod, a threfnu lle ar unwaith.

 

Hefyd, mae Liz yn defnyddio Facebook, a dywedodd ei fod yn wych i hysbysebu yn yr ardal leol. Mae’n ymgymryd â thraws-hyrwyddiadau gyda busnesau lleol, ac yn rhannu gwybodaeth am ei rhan hyfryd hi o Fryniau Clwyd.

 

Mae FreetoBook yn cysylltu â Facebook ac AirBnB, felly gall gwesteion drefnu aros trwy nifer o fannau, ond un calendr yn unig sydd rhaid i Liz ei gynnal ar gyfer argaeledd.

 

Mae defnyddio’r holl dechnolegau hyn yn bosibl yn sgil band eang, sy’n hanfodol nid yn unig ar gyfer y busnes, ond mae’n bwysig ar gyfer y gwesteion hefyd, sy’n hoffi gallu trefnu tocynnau ar gyfer teithiau ac atyniadau lleol pan fyddant yn aros yn y bythynnod.

 

Mae Liz yn annog perchnogion busnesau bach i ymgymryd â thechnoleg ddigidol a manteisio ar y cymorth a’r cyrsiau hyfforddi rhad ac am ddim sydd ar gael.

 

Technoleg ddigidol yw’r ffordd ymlaen ar gyfer gweithredwyr busnesau bach, meddai, sy’n rhoi rheolaeth iddynt dros eu gweithrediadau, cyfle i gyfathrebu’n uniongyrchol â’u cwsmeriaid, a’r gallu i gael busnes newydd.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen