Mae cwmni peirianneg yn ne Cymru yn paratoi i dreblu ei allbwn ar ôl buddsoddi mewn technoleg ddigidol newydd, sydd wedi helpu’r cwmni i wella ei effeithlonrwydd, i leihau amseroedd ymateb i gwsmeriaid, ac i arbed arian. Galluogodd hyn iddo ail-leoli i gyfleuster cynhyrchu a storio mwy.

 

Mae Motion29 yn cynhyrchu ac yn dosbarthu amrywiaeth o gydrannau diwydiannol, gan gynnwys cysylltwyr a synwyryddion diogelwch sy’n cael eu gwneud yn arbennig i'r cwsmer. Mae perchenogion y cwmni, Andrew Wilkinson a Steve Fisher, wedi bod yn edrych ar wahanol ffyrdd o ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn symleiddio pob maes gweithredu, ac er mwyn cael blaen ar eu cystadleuwyr yn y ffordd y mae’r cwmni’n marchnata a dosbarthu cynnyrch.

 

Image of a motorway at night.

 

“Mae buddsoddi mewn digidol wedi ein gwneud yn fwy ymatebol i ofynion cwsmeriaid”

Dywedodd Andrew Wilkinson, cyfarwyddwr Motion29: “Fel tîm rheoli, rydym o hyd wedi bod â ffocws ar sut gallwn ddefnyddio meddalwedd a thechnoleg arall i ehangu’r ffordd rydym yn gweithredu fel busnes. Rydym yn rhan o farchnad gystadleuol tu hwnt, yma yn y DU a dramor, ond mae buddsoddi mewn technoleg ddigidol wedi ein galluogi i weithio mewn ffyrdd newydd, ac mae’n bendant wedi ein gwneud yn fwy ymatebol i ofynion cwsmeriaid.”

 

Mae Uned Ymchwil i Economi Cymru (WERU), Ysgol Fusnes Caerdydd, wedi cyhoeddi Arolwg Aeddfedrwydd Digidol ar gyfer Cymru 2018. Mae’r dystiolaeth o’r arolwg yn awgrymu bod cwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru yn dod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio technoleg ddigidol i yrru effeithlonrwydd. Mae 3/4 o’r busnesau hyn bellach yn gwerthu ar-lein, yn ogystal ag yn dod i’r brig ar restr y sectorau ar gyfer prynu ar-lein. Mae BBaChau'r sector gweithgynhyrchu hefyd yn fwy tebygol o neilltuo cyllid ar gyfer TG er mwyn cefnogi buddsoddiad parhaol mewn seilwaith digidol.

 

Mae Motion29 yn enghraifft wych. Mae symud i gyfleuster cynhyrchu a storio mwy ger Y Coed Duon y llynedd wedi rhoi mynediad iddo at gysylltiad band eang cyflym, gan ei alluogi i fuddsoddi ymhellach mewn technolegau newydd. Roedd hyn yn cynnwys system ffôn llais dros y rhyngrwyd (VoIP). Roedd y cwmni wedi peilota’r dechnoleg hon yn 2006, ond penderfynodd beidio ei defnyddio oherwydd problemau â chyflymder a dibynadwyedd.

 

Buddsoddodd hefyd yn Quoteworks, sef system amcangyfrif ar-lein a oedd yn gallu bwydo’n uniongyrchol i mewn i feddalwedd rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM) presennol y cwmni, a dechreuodd ddefnyddio system Office 365 ar-lein, sydd wedi rhoi mwy o hyblygrwydd a chyfleoedd iddo i arbed arian ac amser. Mae Arolwg Aeddfedrwydd Digidol ar gyfer Cymru 2018 hefyd yn adlewyrchu’r twf yn y busnesau sy’n dechrau defnyddio meddalwedd CRM er mwyn ceisio bod yn well na’u cystadleuwyr. Nodwyd yn yr arolwg bod 72% o’r busnesau yn defnyddio o leiaf un pecyn meddalwedd ar y cwmwl i leihau gwaith papur ac i wella cydweithio.

 

“Yn dilyn cyngor un i un, rydym yn edrych ar ddewisiadau ar gyfer system ERP integredig llawn sy’n integreiddio pob rhan o'r busnes”

 

Defnyddiodd y ddau gyfarwyddwr eu profiad o weithio i gwmni gweithgynhyrchu byd-eang er mwyn sefydlu Motion29 yn 2006. Roedden nhw’n gweld y cyfle i greu busnes a oedd yn fwy ystwyth ac yn barod i gofleidio technoleg fodern mewn meysydd fel telegyfathrebu, cyfrifyddu a rheoli perthynas â chwsmeriaid. Ar ôl lansio gyda gwefan sylfaenol, cyflwynodd y busnes ei ‘gatalog ar-lein’ cyntaf yn 2008, ac ychwanegodd gyfleuster e-fasnach a oedd yn gwbl integredig â’i feddalwedd cyfrifyddu ddwy flynedd yn ddiweddarach.

 

Yn ddiweddar, cofrestrodd y cwmni ar gyfer rhaglen Cyflymu Cymru i Fusnesau Llywodraeth Cymru. Mynychon nhw weithdy ar strategaeth cyfryngau cymdeithasol, a chomisiynu adolygiad llawn o’u gwefan a arweiniodd at welliannau pwysig i bresenoldeb y busnes ar-lein. Cafodd y busnes hefyd gyngor un i un gan gynghorydd busnes arbenigol, ac mae bellach yn edrych ar ddewisiadau ar gyfer cael system cynllunio adnoddau menter (ERP) sy’n integreiddio pob rhan o’r busnes, gan gynnwys prynu ac eiddo, datblygu cynnyrch, gwerthu, marchnata a chyllid.

 

“Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi ein galluogi i alw ar gyngor annibynnol wrth i ni ystyried atebion technoleg newydd”

 

“Mae ein buddsoddiad mewn technoleg wedi cael ei sbarduno gan sawl ffactor, gan gynnwys effeithlonrwydd ac arbed costau, gwella’r ffordd y mae ein timau yn gweithio, a dod o hyd i ffyrdd gwell o arddangos ein cynnyrch a’n gallu,” meddai Andrew Wilkinson. “Rydym yn gwmni eithaf arbenigol, ac fel arfer mae ein cwsmeriaid yn chwilio am atebion cyflym i broblemau penodol, ac felly mae’n bwysig bod data a gwybodaeth gywir am gynnyrch ar gael i ni ar flaenau ein bysedd.

 

“Mae cymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi bod yn gadarnhaol hefyd o ran siapio’r ffordd rydym yn meddwl am farchnata digidol, yn ogystal â gallu galw ar gyngor annibynnol wrth i ni ystyried atebion technoleg newydd, a phenderfynu beth sy’n mynd i weithio orau ar gyfer ein busnes. Rydym yn teimlo ein bod mewn lle da ar y funud, ond mae yna gyfleoedd i wella bob amser, felly byddwn yn parhau i gadw meddwl agored ac ystyried y dewisiadau sydd ar gael.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen