Mae’r ymgynghoriaeth cysylltiadau brand, marchnata a digidol, Motif Creative, wedi datblygu ei phresenoldeb rhyngwladol drwy gynyddu ôl ei throed yn y sector technoleg feddygol twf uchel. Mae’r cwmni eisoes wedi ennill cytundebau strategol yn yr UD ac Ewrop ar ôl i fuddsoddiad yn isadeiledd Cwmwl, a gefnogir gan fand-eang cyflym iawn, ei gynorthwyo i chwalu rhwystrau daearyddol a chaniatáu i’r cwmni gael gwared ar gystadleuaeth gan asiantaethau lleol. 

 

“Mae hi’n amlwg bod technoleg yn dod yn fwy o ffactor o ran gyrru refeniw a chynnal twf, ac mae hi’n anochel y bydd busnesau nad ydynt yn buddsoddi ar ei hôl hi. Rydym eisoes yn cynhyrchu 40% o’n refeniw gan gwsmeriaid rhyngwladol, sydd hefyd wedi cyfrannu at ein rhagolygon o 25% o dwf ym mhob refeniw erbyn 2019” meddai Stuart Spooner, cyfarwyddwr Motif.

 

Mae’r gallu i gyfathrebu a rhannu ffeiliau digidol mawr a gwybodaeth o bell, yn ogystal â chyflogi’r dechnoleg cynadleddau fideo ddiweddaraf, wedi galluogi’r cwmni, nid yn unig i gyflwyno prosiectau yn effeithiol, ond  hefyd i leihau faint o deithio rhyngwladol a wneir gan weithredwyr allweddol. Gan ddefnyddio ei gyswllt rhyngrwyd cyflymdra uchel, mae Motif Creative bellach yn defnyddio meddalwedd cynadleddau ar-lein Cisco, WebEx, i gynnal tua phedwar neu bump cyfarfod ‘rhithwir’ yr wythnos gyda chleientiaid rhyngwladol.

 

“Mae ein prosiectau yn y sector technoleg feddygol yn aml yn cynnwys sefydliadau mawr sydd â nifer o safleoedd ar draws y byd, sy’n gwneud cynadleddau fideo yn rhan hanfodol o gyflwyno prosiect,” ychwanegodd Mr Spooner. “Er fy mod yn dal i fynd ar tua 10-12 o deithiau busnes i Ewrop bob blwyddyn, mae’r gallu i gynnal cyfarfodydd rhithwir am ddwy awr wrth ‘rannu sgrin’ â nifer o gwsmeriaid i drafod prosiectau penodol ar gamau gwahanol o’r broses datblygu bellach wedi troi’n arferiad.”

 

Mae’r cwmni o 12 o bobl yn darparu ystod o wasanaethau, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer digidol a phrint, animeiddio a delweddu 3D, lleoli brand ac ymgynghori marchnata. Roedd natur y busnes a’i gronfa cleientiaid sy’n tyfu’n gyflym wedi creu’r angen i brosesu nifer sylweddol o ddata, a oedd yn cynyddu o ddata o ddydd, gan gydamseru ffeiliau ar draws ei dwy swyddfa a rhannu gwybodaeth fyw am brosiectau gyda chwsmeriaid ar draws y byd.

 

Ar ôl mynychu gweithdy a ddarperir gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, cafodd y cwmni fynediad i gymorth ymgynghori un i un a’i galluogodd i sefydlu’r isadeiledd rhwydwaith yr oedd ei angen arno i integreiddio ei ddau dîm yn llawn. Fe sicrhaodd ei fuddsoddiad hefyd allu’r cwmni i ddarparu mynediad o bell i’r staff i’w ddarparwyr i gyd, a chwrdd â’r galw cynyddol am gyflwyno cynnwys fideo a chynnwys wedi’i animeiddio fel rhan o brosiectau cleientiaid.

 

“Sicrhaodd y gefnogaeth ymgynghori a ddarparwyd gan Cyflymu Cymru i Fusnesau ein bod yn dod i ddatrysiad isadeiledd technoleg a rhwydwaith oedd wedi ei deilwra ar gyfer ein busnes ac wedi ein cynorthwyo i gyflawni ein nodau busnes,” meddai Mr Spooner. “Mae cael systemau TG effeithiol yn hanfodol ar gyfer ein diwydiant ac roedd cael mynediad i ymgynghorydd oedd yn deall ein busnes, yn ogystal â chymhlethdodau technolegau sy’n defnyddio band-eang cyflym iawn a rhannu systemau, yn amhrisiadwy.

 

“Bydd y gallu i ddarparu datrysiadau creadigol i’n clientiaid, ynghyd â lefel uchel o wasanaethau cwsmer, bob amser yn brif elfennau ar gyfer llwyddiant yn ein sector, ond mae cofleidio technoleg fodern yn dod yn fwy ac yn fwy pwysig, yn enwedig wrth gystadlu mewn marchnad sy’n mynd yn fwyfwy byd-eang.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen