Ystyriodd tref Aberteifi y ffordd yr oedd archfarchnadoedd yn defnyddio data ymwelwyr i wneud y gorau o’r profiad siopa gan feddwl: a ellid cymhwyso hyn i’r stryd fawr?

Aberteifi oedd y dref gyntaf yn sir Ceredigion i gynnig wi-fi yng nghanol y dref gyfan. Cymerodd ddwy flynedd i’w gynllunio ac fe aeth y rhwydwaith yn fyw ym mis Mai 2018 gan gynnig cysylltedd am ddim i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Yn bwysicach na dim, lansiodd y fenter gyda ap Tref Aberteifi, ap y gellir ei lansio ddim ar ffonau clyfar Apple ac Android.

Dyma pryd dechreuodd pethau ddod yn fwy diddorol. Gan fod yr ap nid yn unig yn darparu cyfoeth o wybodaeth i ymwelwyr a newyddion am y dref, mae hefyd yn galluogi Aberteifi i gasglu data dadansoddol gwerthfawr ynghylch arferion ac ymddygiadau ymwelwyr.

“Roedd yr ymateb i’r system yn gadarnhaol dros ben,” dywedodd Clive Davies, arbenigwr TG sydd wedi bod ag amryw o swyddi gan gynnwys Maer Aberteifi. Ar hyn o bryd, ef yw cynghorydd sir Aberteifi a chyfarwyddwr y fenter gymdeithasol Cymdeithas Cynnal a Chefnogi Cefn Gwlad (4CG). “Gallai masnachwyr a pherchnogion adeiladu weld y potensial, boed i bobl leol neu i ymwelwyr, a’r wybodaeth y byddai’n ei ddarparu ar gyfer y busnesau yng nghanol y dref.”

A person using a smartphone.

Dysgu gwersi gan yr archfarchnadoedd

Dechreuwyd cyflwyno’r dechnoleg yn 2017 a daeth i ben yn 2018, pan osodwyd unedau wi-fi mewn mannau strategol ar draws y dref gan gwmni Telemat. Costiodd y rhwydwaith orffenedig £30,000 gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ac Ewrop, ynghyd â chyllid ychwanegol gan gyngor tref Aberteifi a 4CG.

Esboniodd Davies y daeth y syniad i greu dadansoddeg ledled y dref o systemau a fabwysiadwyd gan archfarchnadoedd mawr sy’n mesur yn rheolaidd rhannau mwyaf poblogaidd eu siopau gan gynnwys nifer ymwelwyr a’r cyfnodau siopa prysuraf. “Ar gyfer tref farchnad oedd ein system ni” esbonia Davies. “Mae’r [system] yn defnyddio offer wi-fi allanol Cisco, sydd hefyd yn casglu gwybodaeth ddadansoddol fel amser preswylio, niferoedd ymwelwyr, ynghyd ag ymwelwyr tref newydd ac ymwelwyr sy’n dychwelyd.”

Gall y data olrhain parcio ceir hefyd, gan gynnwys pa mor hir y mae pobl yn aros, pa amser o’r dydd yw’r prysuraf a pha ddyddiau yw’r prysuraf. Gall hefyd ddatgelu’r effaith y mae’r tywydd neu ddigwyddiad lleol yn ei chael ar ffigurau ymwelwyr, yn ogystal â pha mor aml y mae pobl yn ymweld â’r dref, p’un a ydyn nhw’n ymwelwyr newydd neu maen nhw’n dychwelyd yn dyddiol, wythnosol, ac ati.

Data wi-fi yn helpu busnesau lleol

Er bod rhwydwaith wi-fi y dref yn rhad ac am ddim i’w defnyddio, mae rhai cyfyngiadau iddi. Caiff data ei gapio a’i gyfyngu i awr ar y pryd. “Mae’n cael ei fonitro a’i ffiltro,” meddai Davies. “Gellir blocio pobl sy’n cam-drin y system neu gellir gosod polisi defnydd llai”.

Yn hanfodol, er bod yr ap yn hwb amlwg i dwristiaid, mae hefyd yn helpu busnesau’r dref. “Bob mis, anfonir adroddiad am ddadansoddeg wi-fi y dref at 120 o gysylltiadau,” datgela Davies. “Mae’r rhain yn cynnwys holl berchnogion busnesau’r stryd fawr, cynghorwyr tref, swyddogion cyngor sir perthnasol a chynghorwyr sir, aelodau cynulliad ac aelodau seneddol.”

Mae’n mynd ymlaen i restru’r wybodaeth maen nhw’n ei derbyn, sy’n cynnwys manylion a gasglwyd o ddata’r mis blaenorol o’r rhwydwaith wi-fi a‘r ap; digwyddiadau allweddol i’w cynllunio ar gyfer yr wythnosau i ddod; trafodaethau ar ddatblygiad y dref am y flwyddyn i ddod; a pha gefnogaeth neu gyfranogiad sy’n ofynnol ganddynt yn y dref. “Mae’r fforwm partneriaeth canol y dref ei hun yn cwrdd pob chwarter i drafod datblygiadau a syniadau,” meddal Davies. O’r fforwm hon y deilliodd y syniad am wi-fi a’r ap.”

Ehangu’r seilwaith ddigidol

Mae Aberteifi yn awyddus i archwilio amrywiol ddulliau o gasglu data. “Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi cylchlythyr chwarterol,” ychwanega Davies. “Cesglir ‘opt-ins’ trwy gytundeb GDPR (Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data) pan fydd pobl yn defnyddio wi-fi y dre. Hyd yma, mae yna 1,200 ar y rhestr. [Ar adeg ysgrifennu], mae pum cylchlythyr wedi’u cyhoeddi ac yn y cyfnod hwnnw, dim ond pedwar o bobl sydd wedi optio allan sy’n dangos bod yr wybodaeth yn cael ei gwerthfawrogi. Hefyd, bydd set data newydd yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad misol, ar y cyd yn gwirio y mewnwelediadau a gynhyrchir gan dudalen Facebook Ymweld ag Aberteifi y dref.”

Hyd yma, ymddengys bod mabwysiadu’r rhwydwaith wi-fi ac argaeledd yr ap yn llwyddiant ysgubol. “Mae defnyddio’r technolegau digidol hyn yn yr 21ain ganrif yn dangos sut y gall tref fach fel Aberteifi ddod i wir adnabod ei chwsmer,” meddal Davies yn frwd. “Gellir defnyddio’r wybodaeth [a gasglwn] i ddenu ymwelwyr newydd ac efallai mân-werthwyr newydd, sy’n gwybod y gallai’r math yma o wybodaeth fod o fudd i’w busnes yn yr hirdymor.”

Gan edrych tua’r dyfodol, mae Davies yn awyddus i ehangu seilwaith ddigidol y dref. “Fel ‘Hyrwyddwr Digidol’ y sir, rwyf wedi dechrau edrych ar ddefnyddio technoleg LoRaWAN ledled y rhanbarth a sut y gellid ei ddefnyddio i wella gwasanaethau’r cyngor, yn ogystal â chefnogi mentrau gyda Heddlu Dyfed Powys ar gyfer troseddau, yn enwedig troseddau gwledig.”

Cardigan, Wales.

Synhwyro newidiadau ar droed

Technoleg ‘Y Rhyngrwyd Pethau’ (IoT) yw LoRaWAN sy’n defnyddio synwyryddion LoRa (pellter hir), sydd wedi’i gysylltu â WAN (rhwydwaith ardal eang). Mae’r data o’r synwyryddion yn cael ei gasglu a’i anfon yn ôl i rwydwaith pwrpasol neu’r rhyngrwyd lle gellir ei ddefnyddio at ddibenion dadansoddol neu i sbarduno gweithgareddau penodol.

Mae un prosiect o’r fath wedi bod yn cael ei dreialu yng Nghasnewydd, gyda’r bwriad o ddatrys tri mater allweddol. Mae synwyryddion IoT wedi cael eu defnyddio i fonitro llygredd aer, lefelau dŵr ac amddiffynfeydd llifogydd y ddinas, a rheoli gwastraff, gan yn benodol, ddadansoddi’r defnydd o ganolfannau ailgylchu. Mae’r cynllun yn barhaus ac yn ‘labordy byw’, sy’n galluogi prifysgolion a chwmnïau i brofi synwyryddion newydd mewn amgylchedd dinas weithredol.

Bydd Aberteifi yn dechrau ar raddfa lai, ond un enghraifft y mae Davies yn ei ddyfynnu yw defnyddio dyfeisiau IoT i fonitro’r bwiau achub sy’n frith ar hyd yr Afon Teifi, sy’n aml yn cael eu taflu i’r dŵr neu mae pobl yn ymyrryd â hwy. Gellid ffurfweddu defnyddio synhwyrydd bach rhad i anfon larwm, gan rybuddio’r awdurdodau bod cabinet y bad achub wedi’i agor a bod angen gweithredu. Felly, nid yn unig gall defnyddio technoleg IoT atal fandaliaeth digroeso, mae’n ddigon posib y gall achub bywydau hefyd.

Dysgwch fwy am Aberteifi ac ap arloesi Tref Aberteifi yma.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen