Mae gwyddorau bywyd yn faes cymhleth, mewn gwirionedd mae’n gyfres o feysydd. Mae’n cynnwys microbioleg, sŵoleg a llawer iawn mwy ac nid yw’n syndod y gall ymchwil sy’n digwydd o fewn un disgyblaeth helpu un arall, er nad yw pob amser yn cael ei gyfathrebu. Yn anorfod, mae sefydliadau’n gweithio mewn seilos ble nad yw’n hawdd rhannu gwybodaeth.

Mae hynny’n newid. Mae yna ddewis arall, sef symud i fyd seiliau gwybodaeth y mae eu strwythur yn cael eu rhannu wrth i’r strwythurau y tu ôl i’r Rhyngrwyd ei hunan newid. Mae’r dechnoleg sy’n cael ei chynnig i bobl proffesiynol erbyn hyn yn gallu cofnodi ac ychwanegu gwybodaeth yn y maes yr un mor rhwydd ag mewn swyddfa neu labordy ac mae basdata a phrosesau sydd wedi’u dyblygu ac sy’n cael eu hail adrodd yn ddiangen yn cael eu dileu.


Document

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen