Yn ei Gyllideb yr Hydref yn 2017 cyhoeddodd y Canghellor fuddsoddiad o £500 miliwn ar gyfer mentrau technolegol, gan ddatgan bod technoleg yn allweddol i dwf y DU.

 

Mae technoleg symudol yn gyrru llawer o’r twf hwn. Yn ôl Adroddiad ar y Farchnad Gyfathrebu 2017 gan Ofcom mae 66% o bobl yn y DU yn defnyddio eu ffonau symudol i fynd ar y we. Nid cyd-ddigwyddiad yw hi felly bod y swm sy’n cael ei wario ar hysbysebu symudol hefyd wedi cynyddu.

Gwelwyd cynnydd o 44% mewn gwariant ar hysbysebu symudol i £3.9 biliwn yn 2016, sef 38% o’r holl hysbysebu ar-lein

Roedd y ffigwr ar gyfer hysbysebion arddangos symudol hyd yn oed yn uwch, yn cynrychioli dros hanner hysbysebion arddangos ar y we (55%).

 

Felly fel perchennog busnes bach, sut gallwch chi fanteisio ar dechnoleg symudol?

 

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi llunio rhestr o ddeg ffordd y gall technoleg symudol wneud rhedeg eich busnes yn haws a rhoi mantais gystadleuol i chi.

 

Gweithio’n hyblyg

 

Fel busnes bach, mae’r gallu i addasu ac i ymateb yn gyflym yn eich gwaed; mae hyn yn rhoi mantais i chi o’i gymharu â chystadleuwyr mwy. Erbyn hyn does dim angen i chi fod ynghlwm i’ch desg yn y swyddfa i weithio’n effeithiol. Gwnewch ddefnydd o adnoddau fel Skype for Business a negeseua gwib (IM) i gadw mewn cysylltiad â’ch cwsmeriaid a’ch gweithwyr, a pharhau i weithio pan nad ydych chi yn y swyddfa.

 

Gwasanaeth gwell i gwsmeriaid

 

Mae cwsmeriaid bellach yn disgwyl i fusnesau fod ar gael 24/7, felly os ydych chi’n cadw’n gaeth at y 9 tan 5 – gallech gael eich gadael ar ôl. Y cyfryngau cymdeithasol yw un o’r ffyrdd hawsaf a mwyaf poblogaidd i gwsmeriaid gysylltu â busnesau, gyda 90% o bob grŵp oedran yn defnyddio apiau cyfathrebu a chymdeithasol (Ofcom). Ceisiwch ganfod pa lwyfannau cyfryngau cymdeithasol mae eich cynulleidfa darged yn eu ffafrio a gwnewch yn siŵr bod gennych chi bresenoldeb arnynt.

 

Gwnewch eich gwefan yn hygyrch

 

Does dim ots pa mor ddeniadol rydych chi’n meddwl yw eich gwefan, os na all eich cwsmeriaid gael mynediad ati ar eu ffôn symudol neu dabled wnân nhw ddim trafferthu i ddod yn ôl. Gyda 66% o bobl yn defnyddio eu ffôn clyfar i fynd ar y we, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich gwefan, nid yn unig wedi ei optimeiddio’n llawn ar gyfer teclynnau symudol, ond bod ganddi gynllun ymatebol sy’n newid ei faint ar gyfer unrhyw sgrin.

 

Peidiwch anghofio am y gwerth lleol

 

Adroddodd Google yn 2016 bod chwiliadau am wasanaethau lleol wedi cynyddu 50% yn gynt na chwiliadau eraill, gyda bron i draean o chwiliadau symudol yn gysylltiedig â lleoliad. Er hynny, mae llawer o fusnesau heb eu rhestru ar Google Maps. Mae’r ap My Business Google yn rhad ac am ddim ac yn ffordd rhwydd o roi hunaniaeth gyhoeddus i’ch busnes a phresenoldeb ar Google, gan ei gwneud yn haws i gwsmeriaid ganfod gwybodaeth am eich busnes ar-lein, ac yn hawdd i chi gadw cofnod o’ch adolygiadau.

 

Taliadau symudol

 

Bydd man gwerthu symudol yn golygu bod eich cwsmeriaid yn gallu talu gyda cherdyn yn unrhyw le, byddwch chithau’n cael eich talu’n gynt, a bydd eich cwsmeriaid yn cael gwell gwasanaeth. Mae systemau talu symudol fel iZettle a SumUP yn cynnig dewis rhad i fusnesau bach, gan fod y gost gychwynnol yn isel ac nid oes ffioedd misol. Cyn i chi ymuno cofiwch wneud yn siŵr fod eich dyfais yn gydnaws.

 

Cydweithio ehangach

Mae yna adnoddau gwych ar gael i gynorthwyo cydweithio rhwng aelodau tîm. Slack yw un o’r rhai sy’n tyfu cyflymaf gyda 6 miliwn yn ei ddefnyddio bob dydd. Mae’n cynnig negeseua gwib ac yn eich caniatáu i rannu ffeiliau, i chwilio, i anfon hysbysiadau ac i gyfuno gyda llwyfannau fel Twitter, Google Drive, MailChimp ac eraill. Mae’n cynnig fersiwn sylfaenol sydd â defnydd diderfyn rhad ac am ddim.

 

Ymunwch a’r Cwmwl

 

Mae 88% o fusnesau’r DU bellach yn defnyddio’r Cwmwl yn ôl adroddiad gan y Cloud Industry Forum yn 2017. Beth yw’r Cwmwl? Os ydych chi’n defnyddio bancio symudol, Gmail neu’n edrych ar eich tudalen Facebook – yna rydych chi yn y Cwmwl. I gwmni bach sy’n chwilio am ateb TG cost gyfeillgar, mae gan systemau cwmwl nifer o fanteision. Un o’r adnoddau swyddfa mwyaf poblogaidd yw Microsoft Office 365. Gallwch gael mynediad at ffeiliau a dogfennau o unrhyw le, rheoli eich data, cydweithio ar ffeiliau o bell, a chysoni e-byst, cysylltiadau a chalendrau. Rydych chi mewn cysylltiad drwy’r amser, y cyfan sydd ei angen arnoch yw’r rhyngrwyd. Mae Office 365 yn cynnig tri opsiwn prisio ar sail talu-wrth-ddefnyddio (gan ddechrau am £3.80 y mis) sy’n cynnwys pob un o brif raglenni Microsoft Office fel Outlook, Word, Excel, ac ati, ynghyd â Skype for Business, SharePoint a OneDrive.

 

Apiau cyfrifo

 

Mae meddalwedd cyfrifo a chadw llyfrau fel Kashflow, a’i ap symudol Kashflow Go, yn gallu helpu i leihau’r pwysau o wneud eich cyfrifon; gan arbed amser sylweddol a helpu i reoli eich arian lle bynnag yr ydych. Mae Kashflow wedi ei ddylunio’n arbennig ar gyfer busnesau bach yn y DU ac mae’n cysylltu â’ch cyfrifon banc gan adael i chi reoli anfonebau, prisiau, llif arian, y gyflogres a ffurflenni TAW.

 

Marchnata SMS

 

Gyda 90% o negeseuon testun yn cael eu darllen o fewn tri munud, a 32% o gwsmeriaid yn ymateb i negeseuon SMS hysbysebu, dyma un o’r ffyrdd rhataf a mwyaf effeithiol o gyrraedd cwsmeriaid. Mae hefyd yn un o’r dulliau marchnata sy’n tyfu cyflymaf yn y DU a bydd bron i 50 miliwn yn optio i mewn erbyn 2020 (yn ôl adroddiad a gomisiynwyd gan Text Local). Os ydych chi’n bwriadu manteisio ar farchnata SMS, gwnewch yn siŵr eich bod yn glynu wrth y canllawiau cyfreithiol. Darllenwch ein herthygl GDPR am ragor o wybodaeth.

 

Byddwch yn drefnus

 

A chithau’n berchennog busnes bach, gall fod yn anodd rhedeg y cwmni o ddydd i ddydd wrth i chi gael eich tynnu i sawl cyfeiriad gwahanol. Y newyddion da yw bod adnoddau ar-lein fel Evernote ar gael i’ch helpu i ffeilio, i gadw ac i drefnu eich holl wybodaeth a’i chadw’n hygyrch. Gallwch ffeilio ac arbed popeth o nodiadau bras mewn llawysgrifen, lluniau ac e-byst, i negeseuon testun ac erthyglau gwe, a chwilio amdanynt yn hawdd pan fyddwch eu hangen. Mae fersiwn sylfaenol o Evernote ar gael yn rhad ac am ddim ond mae yna fersiwn am dâl ar gael hefyd.

 

Am ragor o wybodaeth am y feddalwedd benodol sydd ar gael, lawrlwythwch Gyfeiriadur Meddalwedd Cyflymu Cymru i Fusnesau.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen