Pan ddaw’n fater o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i farchnata B2B, mae pobl yn aml yn dewis LinkedIn yn lle Twitter. Fodd bynnag, os yw eich marchnad darged ar Twitter, mae angen i chithau fod hefyd.

 

Mae nifer o fanteision o ddefnyddio Twitter fel offeryn marchnata B2B ar gyfer eich busnes – gallwch gymryd rhan mewn sgyrsiau amser-real mwy ystyrlon gyda’ch cwsmeriaid, cysylltu ag arweinwyr y diwydiant, creu eich brand a'ch enw da eich hun, ac ysgogi diddordeb. Ac mae’r rhan fwyaf ohono am ddim!

 

Fe ddangoswn 10 ffordd hawdd o gael y mwyaf allan o ddefnyddio Twitter ar gyfer marchnata B2B.

 

Cofiwch y pethau sylfaenol

 

Gallai swnio’n amlwg, ond fel eich gwefan dylai eich bywgraffiad ar Twitter ddweud yn glir pwy ydych a beth yr ydych yn ei wneud. Cofiwch gynnwys fanylion cyswllt eich busnes a dolen i'ch gwefan neu dudalen lanio i’w gwneud yn haws i bobl gysylltu â chi neu ddysgu mwy am eich busnes.

 

Adnabod y bobl gyda’r dylanwad

 

Dylech wybod pwy yw’r prif arbenigwyr a’r bobl gyda dylanwad yn eich maes busnes. Dylech eu dilyn, dechrau trafod a rhannu ac ail-drydar cynnwys sy’n berthnasol i’ch cynulleidfa. Bydd eu hychwanegu at restr Twitter yn cadw pethau’n drefnus. Bydd ymgysylltu’n gyson yn helpu i dynnu eu sylw atoch a gallent eich ychwanegu at eu rhwydwaith neu ystyried cydweithredu â’ch busnes.

 

Cadw llygad ar y gystadleuaeth

 

Os yw eich cystadleuwyr ar Twitter, dylech eu dilyn i fonitro eu symudiadau, sut fath o gynnwys y maen nhw'n ei rannu a hefyd sut y maen nhw’n ymgysylltu â chwsmeriaid. Os ydynt yn llwyddo i gael pobl i ôl-ymgysylltu’n well neu'n creu perthynas well â chwsmeriaid, meddyliwch beth y gallwch ei addasu a'i ddysgu ganddynt.

 

Dod yn arbenigwr yn y diwydiant

 

Dylech wneud ymchwil a chadw ar y blaen i’r newyddion a’r datblygiadau diweddaraf drwy danysgrifio i gylchlythyrau, darllen cyhoeddiadau a dilyn pobl allweddol ar y cyfryngau cymdeithasol. Mwya’n byd y byddwch yn trydar cynnwys amserol, newydd ac apelgar sydd o ddiddordeb i’ch cynulleidfa darged, mwya’n byd y dowch i swnio fel arbenigwr a dod yn ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy.

 

Codi ymwybyddiaeth o’r brand

 

Mae Twitter yn wych am godi ymwybyddiaeth o frand a dangos ychydig o’ch personoliaeth i bobl

Ond byddwch yn ofalus, peidiwch â chrwydro’n ormodol. Byddwch yn gyson gyda’ch neges a’ch brand. Cofiwch, y nod yw cyrraedd cwsmeriaid B2B presennol a darpar gwsmeriaid, cryfhau perthnasoedd a chael mwy o gwsmeriaid i aros yn driw.

 

Manteisio ar adnoddau Twitter

 

Mae nifer o adnoddau defnyddiol iawn ar gael a allai wneud eich bywyd yn haws. Mae llwyfannau rheoli cyfryngau cymdeithasol fel Hootsuite neu Buffer yn gadael i chi amseru postiadau a chadw golwg ar nifer o broffiliau Twitter ar eich dangosfwrdd. Mae Bit.ly hefyd yn cynnig dangosfwrdd lle gallwch fyrhau dolenni, gweld ystadegau ar gyfer dolenni a rannwyd a hyd yn oed i greu eich parth pwrpasol eich hun fel bod pobl yn gallu adnabod eich brand yn syth, e.e. Amazon: amzn.to.

 

H am #Hashnod

 

Mae dros 500 miliwn o drydariadau’n cael eu hanfon bob dydd. Dychmygwch chwilota drwyddynt heb ffordd hawdd o chwilio am beth yr ydych ei eisiau. Dyma lle mae hashnodau’n help mawr. Maen nhw bellach mor boblogaidd fel eu bod wedi ymledu i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill. Maent yn wych am gategoreiddio pynciau a geiriau allweddol, ymuno mewn sgwrs a dechrau’r peth diweddaraf - cofio #IceBucketChallenge? Beth am greu eich hashnod eich hun ar gyfer eich brand - er enghraifft, gallwch dracio Cyflymu Cymru i Fusnesau ar #CyflmuBusnesau.

 

Dadansoddi’r ystadegau

 

Gallwch feddwl eich bod yn gwneud yn dda ar Twitter ond ni fyddwch yn gwybod i sicrwydd tan i chi fesur beth sy’n gweithio a beth sydd ddim. Mae gan Twitter ei adnodd dadansoddi am ddim sy’n rhoi metrics am bob trydariad a bostiwch, sy’n dweud pa drydariadau gennych a berfformiodd orau ac ystadegau ar ddemograffeg y gynulleidfa.

 

Cynnwys yn Gyntaf

 

Defnyddiwch Twitter fel rhan o’ch strategaeth marchnata cynnwys i hyrwyddo blogiau, erthyglau ar-lein, fideos a chylchlythyrau. Postiwch ddolenni i’ch blog neu gylchlythyr ar-lein diweddaraf a throi traffig yn ôl at eich gwefan – bydd hyn yn ei dro’n rhoi mwy o amlygrwydd i’ch brand ac yn eich codi i fyny’r peiriannau chwilio.

 

Byddwch yn ymatebol

 

Y dyddiau hyn mae cwsmeriaid yn llawer mwy tebygol o gysylltu drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn hytrach na ffonio neu e-bostio, gan gynnwys i gwyno. Ac ar ben hynny, cyn gynted ag y maen nhw wedi clicio’r botwm trydar, mae’r gŵyn yn un gyhoeddus. Felly beth i’w wneud? Peidiwch ei anwybyddu gan obeithio y bydd yn diflannu rhywsut. Mae’r un rheol yn wir gyda phob cyfathrebu ar Twitter – ymateb yn gyflym a chwrtais bob amser. Peidiwch â defnyddio ymateb cyffredinol, dylech deilwrio eich ymateb i’r unigolyn fel pe byddech yn delio gyda nhw wyneb yn wyneb.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen