Gall dod o hyd i amser sbâr yn ystod y dydd neu arian yn y gyllideb fod yn her i unrhyw fusnes. Darllenwch 7 awgrym isod i’ch helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau i wneud y mwyaf o offer ar-lein, technoleg a thechnegau, heb orfod buddsoddi llawer o amser nac arian. 

 

Dewiswch un sgil neu faes i ganolbwyntio eich sylw arno

 

Mae’n hawdd cael eich gorlethu neu geisio mynd i’r afael â gormod gyda’r swm diddiwedd o wybodaeth y gallwch ei chyrchu ar y we. Dechreuwch trwy ganolbwyntio ar un pwnc allweddol i wneud y defnydd gorau o’ch amser a chadw ar y llwybr cywir gyda nod clir dan sylw.

 

Gofynnwch i chi eich hun pa sgiliau yr hoffech eu datblygu ac ar beth y gallai eich busnes elwa

A oes angen i chi ddysgu sut i hyrwyddo eich busnes trwy Twitter? Ydych chi eisiau sefydlu eich marchnata e-bost rheolaidd eich hun? A oes gennych chi ddiddordeb mewn sut gallai eich tîm wella rhannu ffeiliau gyda’r cwmwl?

 

Dechreuwch wrth wraidd y sgil yr hoffech ei ddysgu. Er enghraifft, os hoffech feistroli hysbysebu ar Facebook, mae’n well dechrau gyda deall sut i greu proffil sy’n ymgysylltu cwsmeriaid i ddechrau.

 

Darllenwch a nodwch dudalennau adnoddau ar-lein defnyddiol

 

Mae chwiliad ar-lein cyflym yn debygol o gynnig nifer o flogiau ac erthyglau ar eich dewis pwnc. Mae darllen cynnwys ar-lein yn wych pan fyddwch yn dechrau arni, gan ei fod yn rhad ac am ddim, yn hawdd i’w gyrchu a gallwch ei ail-ddefnyddio. Dechreuwch ddarllen am y pwnc i ddatblygu eich dealltwriaeth cyn mynd ati i wneud unrhyw newidiadau mawr.  Darllenwch nifer o adnoddau parchus i gymharu mewnwelediadau ac ystyried sut maen nhw’n cyd-fynd â’ch nodau eich hun. 

 

Gwyliwch diwtorialau ac arddangosiadau fideo

 

Mae darllen adnoddau ar-lein yn ffordd wych i ddatblygu eich gwybodaeth, ond pan fyddwch chi’n barod i gynnig arni, bydd angen cyngor mwy ymarferol arnoch i wella eich sgiliau. Er enghraifft, os byddwch yn mynd i’r afael â marchnata e-bost, yna efallai y byddwch chi wedi darllen rhai blogiau ar greu templed e-bost diddorol, y cynnwys gorau, a’r amserau gorau i’w hanfon, ar gyfer eich marchnad chi. Pan fyddwch yn barod i sefydlu eich e-bost, bydd tiwtorialau ac arddangosiadau fideo yn cynnig ffordd wych i weld ‘sut mae’ gwirioneddol ar waith a gallech ei ddilyn hyd yn oed.

 

Rhannwch ddysgu o fewn eich tîm

 

Ar ôl i chi fynd i’r afael â datblygu un sgil, efallai y byddwch chi eisiau rhoi cynnig ar lwyfannau neu offer ar-lein eraill - neu efallai y byddwch yn penderfynu eich bod chi eisiau dealltwriaeth fanylach o sgil bresennol. Ffordd wych o ddatblygu set sgiliau eich busnes yw cynnwys y tîm. Defnyddiwch ymagwedd gydweithredol at addysg ac anogwch staff i rannu beth maen nhw wedi’i ddysgu.  Bydd yr ymagwedd hydrin hon at ddysgu yn cymryd llai o amser unigol, a bydd hefyd yn cyflwyno arbenigedd a syniadau newydd. 

 

Mynychwch ddigwyddiad ymarferol, rhad ac am ddim i ofyn cwestiynau

 

Mae dysgu ar-lein yn effeithiol o ran cost ac amser, diolch i argaeledd miloedd o adnoddau ar-lein, fodd bynnag, efallai y byddwch yn dod ar draws rhwystrau neu y bydd gennych chi gwestiynau na allwch ddod o hyd i atebion ar eu cyfer ar-lein. Mae digwyddiadau busnes rhad ac am ddim yn ffordd wych o gael cyngor bywyd go iawn, gofyn cwestiynau a rhannu syniadau a sgiliau gyda busnesau eraill i barhau i wella. Cynhelir cyrsiau Cyflymu Cymru i Fusnesau ledled Cymru, ac maent yn ymdrin â phynciau fel y cyfryngau cymdeithasol, marchnata digidol a diogelu data. Dewch o hyd i ddigwyddiad sy’n addas i chi nawr.  

 

Sicrhewch fod datblygu sgiliau yn rhan o’ch cynlluniau twf

 

P’un ai a ydych chi’n neilltuo slotiau wythnosol byr, neu sesiynau hyfforddi misol hwy, bydd cynnwys patrwm dysgu rheolaidd yn yr amserlen yn helpu i adfywio a meithrin eich set sgiliau a gallu ehangach y busnes yn barhaus. Er efallai y bydd angen i chi fuddsoddi ychydig o amser i ddechrau, gallai’r buddion hirdymor arbed amser, lleihau costau a hybu elw, gyda phrosesau gwell.   

 

Cyrchwch y newyddion a’r tueddiadau diweddaraf

 

Nid rhywbeth untro yn unig yw datblygu eich set sgiliau. Cyfoethogwch eich dysgu trwy ddilyn blogiau’r diwydiant, cofrestru ar gyfer diweddariadau e-bost perthnasol, neu olrhain pynciau neu dueddiadau allweddol ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd cael y wybodaeth ddiweddaraf nid yn unig yn helpu i adfywio eich dysgu yn rheolaidd, ond gallai hefyd amlygu datblygiadau newydd a allai fod o fudd i’r busnes.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen