Gyda mwy a mwy o gynnyrch, gwasanaethau a darparwyr TG ar gael i helpu i drawsnewid eich busnes, mae dewis yr un cywir ar gyfer eich dibenion yn gallu bod yn anodd.

 

Darllenwch y 10 argymhelliad isod i’ch helpu i benderfynu

  • Lle da i gychwyn yw gofyn i chi’ch hunan beth ydych chi eisiau ei gyflawni. Er enghraifft, ydych chi eisiau ei gwneud yn haws i gwsmeriaid brynu eich cynnyrch, neu ydi staff angen gallu gweithio o bell yn fwy effeithiol?
     
  • Gosodwch dargedau ac amlinellwch y prosesau sy’n gyrru eich busnes fel y gallwch egluro eich anghenion (a gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n anghofio unrhyw beth pwysig).
     
  • Y cam nesaf yw chwilio i weld pa dechnolegau all eich helpu i ddiwallu eich anghenion. Rydym yn argymell cynnal ymchwil ar-lein a chymryd sylw o adolygiadau cwsmeriaid. Yn bwysicaf oll, holwch fusnesau eraill rydych yn gwybod amdanynt ac yn ymddiried ynddynt am eu profiadau.
     
  • Er bod cost, cymorth a safon yn parhau’n ystyriaethau hanfodol, eich dewis technoleg Band Eang Cyflym Iawn fydd yn trawsnewid eich busnes. Felly cymharwch brisiau, cytundebau lefel gwasanaeth, a’r signal.
     
  • Ystyriwch atebion yn y cwmwl sydd â thaliadau misol fforddiadwy a phosibiliadau uwchraddio awtomatig. Maen nhw’n cynnig manteision sylweddol i fusnesau sy’n tyfu gan ei fod yn bosib trosglwyddo costau cyfalaf system newydd i gostau gweithredol rheolaidd.
     
  • Os ydych chi’n chwilio am swyddogaethau busnes syml a safonol fel prosesau swyddfa, rheoli stoc, cyfrifon a chyflogres, dylech ddechrau drwy archwilio pecynnau parod sy’n cynnig gwerth am arian ardderchog.
     
  • Cofiwch sicrhau bod eich dewis o dechnoleg yn cyd-fynd â ’ch dyfeisiau cyfredol neu’r dyfeisiau rydych yn bwriadu eu defnyddio yn y dyfodol. Hefyd, gwnewch yn siŵr bod eich meddalwedd bresennol (ac yn y dyfodol) yn integreiddio i greu un system gyfansawdd.
     
  • Gwnewch yn siŵr bod eich Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn ymdrin â’ch anghenion a dim mwy. Er enghraifft, gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n talu am gymorth nad oes ei angen arnoch, ac edrychwch i weld a yw eich anghenion hyfforddi yn gynwysedig o fewn y gost gweithredu neu a fydd cost ychwanegol.
     
  • Ceisiwch ganfod am ba mor hir fydd y cytundeb yn para ac a oes ffioedd gadael, gan fod gan y rhan fwyaf o ddarparwyr meddalwedd llawer o gynlluniau talu gwahanol.
     
  • Hefyd, edrychwch i weld a oes terfyn datblygu a fydd yn golygu na fydd cymorth ar gael i’ch dewis o dechnoleg ar ôl dyddiad penodol.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen