Mae mwy o ddyfeisiau llechen a symudol wedi bod yn cael eu gwerthu na chyfrifiaduron pen desg a gliniaduron yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac felly mae busnesau’n ystyried yr hyblygrwydd uwch a’r manteision niferus a ddaw yn sgil mabwysiadu polisi gweithio symudol.

 

Wrth i ddyfeisiau symudol ddod yn fwy fforddiadwy, gall busnesau sicrhau bod eu gweithwyr yn dilyn y diwylliant ‘ymlaen drwy’r amser’ trwy gynnal eu cysylltiad trwy eu dyfeisiau gwaith neu ganiatáu i staff gymryd rhan mewn polisi ‘Dewch â’ch Dyfais eich Hun’.   

 

Er ei bod yn annhebygol y bydd dyfeisiau symudol yn disodli’r cyfrifiadur pen desg traddodiadol yn llwyr yn y gweithle, mae’n gyffredin erbyn hyn i fusnesau integreiddio dyfeisiau yn y gweithle a bywyd gwaith er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn hyblyg ac yn barod i ymateb yn y fan a’r lle.

 

Os ydych chi’n ystyried rhoi polisi gweithio symudol ar waith yn eich busnes, ble dylech chi ddechrau?

 

Dyma 4 pwynt allweddol i’w cofio!

 

Gwiriwch gydweddoldeb

 

Cyn i chi brynu unrhyw ddyfeisiau neu ganiatáu i staff ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain, mae’n hollbwysig eich bod chi’n gwirio gyda’ch staff cymorth TG neu’ch cyflenwyr meddalwedd fod y dyfeisiau hyn yn cydweddu â’r feddalwedd rydych chi eisoes yn ei defnyddio. Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallai arwain at gostau mawr neu wastraffu gwariant oherwydd fe allai fod rhaid i chi brynu dyfeisiau eraill neu newid eich systemau i sicrhau eu bod yn integreiddio. Gall cynllunio o flaen llaw arbed amser, ymdrech ac arian!

 

Datblygwch strategaeth neu bolisi

 

Gall caniatáu dyfeisiau symudol yn eich diwylliant gwaith fod yn gyfle gwych i’ch busnes gael ei gysylltu wrth deithio o gwmpas, bod yn fwy ymatebol i ddatblygiadau ad-hoc a chroesawu gweithio hyblyg. Fodd bynnag, mae’n bwysig datblygu canllaw ar sut y dylid defnyddio dyfeisiau newydd neu bersonol. Fe allai fod yn ddrud ac yn ddiangen prynu nifer o ddyfeisiau, dim ond i ganfod nad oes arnoch eu hangen mewn gwirionedd. Felly, dylech ddechrau trwy asesu p’un a oes arnoch angen polisi gweithio symudol. Os penderfynwch fynd yn symudol, bydd datblygu polisi yn helpu staff i ddeall sut y gallant ddefnyddio eu dyfeisiau gwaith neu bersonol yn effeithiol ac yn briodol trwy gydymffurfio â chanllawiau’r cwmni.

 

Mae diogelwch yn allweddol!

 

Gallai dyfeisiau symudol gael eu defnyddio i drafod busnes sensitif a data cwsmeriaid, felly mae’n hanfodol bod unrhyw bolisi gweithio symudol yn mynd i’r afael ag amrywiol lefelau diogelwch. Gallwch ddechrau gyda’r lefel fwyaf sylfaenol, fel cloi sgrîn yn awtomatig a chyfrineiriau, hyd at ddiogelwch lefel uchel fel amgryptio gwybodaeth, neu alluogi ‘dileu o bell’ fel y gellir dileu’r holl ddata o bell petai’r ddyfais yn cael ei cholli neu ei dwyn.

 

Ehangwch eich gorwelion

 

Gellir defnyddio dyfeisiau symudol i gyflawni llawer o swyddogaethau allweddol busnes, fel darllen ac ymateb i negeseuon e-bost, gwneud galwadau, gweld dogfennau a rhannu gwybodaeth ar-lein. Fodd bynnag, mae bod yn symudol yn rhoi llawer o gyfleoedd i chi weithio’n greadigol ac wrth deithio o gwmpas. Er enghraifft, gallech fanteisio ar gyfleoedd annisgwyl i gyflwyno’ch cynnyrch neu’ch gwasanaeth trwy gadw cyflwyniadau parod i’w defnyddio ar eich dyfais. Mae llu o apiau symudol ar gael hefyd y gallai’r busnes eu defnyddio i helpu staff i weithio’n gydweithrediadol, bod yn drefnus a chynnal eu cysylltiad â’r busnes.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen