Mae technoleg ddigidol yn opsiwn i bawb, ac nid i’r sector technoleg yn unig. Mae'r cyfleoedd a’r manteision busnes sy’n deillio o dechnoleg ddigidol yn croesi pob grŵp oedran a diwydiant. Mae trawsnewidiad digidol yn rhywbeth hygyrch a hyfyw i bob busnes gan mai gwella prosesau, ymgysylltu gweithwyr talentog ar draws y cwmni a sbarduno modelau busnes newydd, proffidiol ydyw yn y bôn.

 

Yn ôl astudiaeth gan Adolygiad MIT Sloan Management a Deloitte, mae 91% o weithwyr eisiau trawsnewidiad gan eu bod yn credu bod gan dechnolegau digidol y potensial i "drawsnewid y ffordd  sylfaenol mae pobl yn eu sefydliad yn gweithio" ond:

 

Dim ond 43% sy’n fodlon ar y ffordd mae’r sefydliad yn ymateb i’r tueddiadau digidol ar hyn o bryd

 

Mae'r astudiaeth yn amlygu bod busnesau yn wynebu heriau amrywiol wrth fabwysiadu technoleg ddigidol gan gynnwys diffyg strategaeth, gormod o flaenoriaethau, pryderon am ddiogelwch a sgiliau technoleg annigonol neu ddiffyg dealltwriaeth gan y rheolwyr.

 

Bydd mabwysiadu technoleg ddigidol yn y busnes yn dibynnu ar strategaeth glir a phenodol, arweinyddiaeth gref a newid mewn diwylliant a meddylfryd cwmni er mwyn gweld newid go iawn. Dyma 5 ffordd hawdd gallwch gyflwyno technoleg ddigidol fel rhan o’ch arferion busnes er mwyn annog trawsnewidiad a chyflymu twf. 

 

Defnyddiwch dechnoleg ddigidol yn eich busnes drwy ddilyn y 5 cam hawdd hwn:

 

Awtomatiaeth Marchnata

 

Gall technolegau awtomatiaeth marchnata helpu’r busnes i symleiddio, awtomeiddio a mesur ei weithgarwch marchnata a llif gwaith. Mae meddalwedd awtomatiaeth marchnata yn darparu cronfa ddata ganolog ar gyfer yr holl ddata marchnata, gofod ar gyfer creu, rheoli ac awtomeiddio prosesau marchnata ac, yn olaf, yn ffordd i fesur ac ymelwa ar farchnata a'i effaith ar refeniw. Trwy ddiffinio proses glir a gefnogir gan dechnoleg ddigidol, gall eich busnes reoli a gwella’r ffordd mae’n ymateb i ymholiadau neu ddiddordeb cwsmeriaid, meithrin cysylltiadau, segmentu, cadw cwsmeriaid, uwch a thraws-werthu, ac elw ar fuddsoddiad.

 

Rheoli Prosiectau

 

Drwy wella’r ffordd mae prosiectau yn cael eu rheoli o fewn y busnes gellir lleihau amser, ymdrech a chostau sy’n cael eu gwastraffu. Mae teclyn rheoli prosiect yn cynnig ffordd hawdd i dimau gydweithio, rhannu a storio ffeiliau a ffolderi a chadw trosolwg clir o gynnydd cyffredinol y prosiect neu dasg. Trwy gael lle canolog ar gyfer trefnu a gweithio ar brosiect, gallwch gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd y tîm, gwneud yn siŵr eich bod yn cwrdd â therfynau amser, lleihau amser yn chwilio am ddogfennau coll neu sy’n cael ei wastraffu ar gyfarfodydd cynnydd.

 

Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid

 

Mae Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) yn ddull o reoli darpar gwsmeriaid sefydliad yn ogystal â’r rhai presennol. Mae'r system CRM yn gwneud y mwyaf o ddata busnes i alluogi'r cwmni i wella cysylltiadau cwsmeriaid gyda ffocws ar eu cadw. Gallai defnyddio meddalwedd CRM wella’r ffordd rydych yn denu a chadw cwsmeriaid, rheoli gwerthiant posib a chydlynu gweithgareddau cyfathrebu er mwyn datblygu’r busnes. Dysgwch fwy am sut gall busnesau bach a chanolig ddefnyddio systemau CRM.

 

Y Cwmwl

 

Yn lle dibynnu ar weinyddion lleol traddodiadol neu gyfrifiaduron personol i drefnu data, mae’r cwmwl yn caniatáu i ddefnyddwyr gyrchu a storio’r data dros y rhyngrwyd. Mae’r cwmwl yn cynnig nifer o fuddion i fusnesau, gan gynnwys mwy o hyblygrwydd, gallu diderfyn, costau is a chopïau wrth gefn rheolaidd. Drwy symud i'r cwmwl, gallech leihau costau gweithredu a chymorth TG, cynyddu cynhyrchiant gweithwyr drwy alluogi staff i gyrchu ffeiliau o bell ac mewn amser real, a lleihau eich ôl-troed carbon drwy arbed ar gostau ynni. Dysgwch fwy am ddefnyddio'r cwmwl i leihau costau busnes.

 

Amserlennu eich gweithgarwch marchnata

 

Gallai llwyfannau amserlennu ar-lein eich helpu i gydlynu a rheoli eich cyfryngau cymdeithasol, blogio a’ch gweithgarwch cynnwys marchnata. Er enghraifft, gall llwyfannau amserlennu cyfryngau cymdeithasol eich helpu i atgyfnerthu eich brand ar-lein drwy sicrhau eich bod yn weithgar bob amser a rhannu cynnwys o ansawdd uchel. Gallech ddechrau drwy drefnu nifer o negeseuon blog ar eich gwefan a chyfryngau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo eich cynnwys, gwasanaeth a chynigion. Gall defnyddio llwyfan amserlennu cyfryngau cymdeithasol felly helpu i hyrwyddo eich brand, cynnig cynnwys rheolaidd, gwerthfawr i'ch cwsmeriaid. Mae hefyd yn golygu y gallwch fwrw ymlaen â materion pwysig arall tra bod eich gweithgarwch marchnata yn gofalu am ei hun.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen