Os ydych yn berchennog busnes bach gall defnyddio gwasanaethau digidol fod yn ffordd gosteffeithiol iawn o gyrraedd mwy o gwsmeriaid, rhoi gwybod iddyn nhw am eich brand, a’u hannog i brynu gennych.
Ond nid dyna’r unig fanteision. Gall gwasanaethau digidol hefyd wneud y gwaith caled i chi, gan arbed amser yn gwneud gwaith gweinyddol cefn swyddfa i chi er mwyn i chi allu canolbwyntio ar bethau pwysicach.
Os ydych yn newydd i’r byd digidol, dyma bedair ffordd hawdd i’ch helpu i fynd â’ch busnes ar-lein.
Helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i chi ar-lein
Yn aml iawn, y pwynt cyswllt cyntaf fydd eich gwefan, felly os nad ydych ar-lein, neu os nad oes modd dod o hyd i chi, gallech fod yn colli llawer o ddarpar gwsmeriaid.
Os nad oes gennych arian i dalu i rywun greu gwefan i chi, gallwch ddefnyddio rhaglenni di-dâl, fel WordPress a Wix, i greu eich gwefan eich hun a’ch helpu i ddechrau. Er enghraifft, bydd Wix yn creu gwefan i chi yn seiliedig ar beth bynnag y mae arnoch ei eisiau, neu gallwch greu gwefan drwy addasu templedi sydd ar gael yn barod.
Gwnewch yn siŵr bod eich gwefan yn hygyrch. Mae angen i gwsmeriaid allu dod o hyd i beth bynnag maen nhw’n chwilio amdano mor hawdd ag sy’n bosibl. Dylech gynnwys gwybodaeth gywir a chryno, a negeseuon cyfeirio a gweithredu clir, fel bod cwsmeriaid yn gwneud beth bynnag y mae arnoch eisiau iddyn nhw ei wneud pan fyddant yn cyrraedd eich safle.
Daliwch i bostio cynnwys newydd yn rheolaidd. Mae peiriannau chwilio wrth eu bodd â chynnwys newydd, a byddwch yn gweld gwell canlyniadau os byddwch yn diweddaru eich safle yn gyson. Bydd rhannu cynnwys ar eich cyfryngau cymdeithasol sy’n cysylltu yn ôl i’ch gwefan hefyd yn eich helpu i sicrhau bod eich cwsmeriaid yn dal i feddwl am eich busnes.
Cyrraedd cwsmeriaid ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd hawdd iawn o ryngweithio â chwsmeriaid. Mae oriau busnes 9-5 yn perthyn i’r gorffennol. Heddiw mae cwsmeriaid yn disgwyl gallu cysylltu â busnesau 24 awr y diwrnod 7 diwrnod yr wythnos a chael ymateb. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o gysylltu â busnes ar Facebook neu Twitter na chodi’r ffôn. Yn syml iawn, os yw eich cwsmeriaid ar y cyfryngau cymdeithasol, mae angen i chi fod hefyd.
Cyn i chi ddechrau, meddyliwch am y farchnad rydych am ei thargedu. Gwnewch ychydig o ymchwil i ddarganfod pa safleoedd cyfryngau cymdeithasol mae eich cwsmeriaid yn eu defnyddio, ac ewch arnyn nhw. Er enghraifft, ar gyfer B2C efallai y byddwch yn gweld mai Twitter, Facebook ac Instagram sy’n gweithio orau, ac yn yr un modd, LinkedIn ar gyfer B2B. Os ydych yn newydd i’r cyfryngau cymdeithasol, efallai y byddai’n well cadw at un neu ddwy sianel i ddechrau, a chanolbwyntio ar y rhain, yn hytrach na cheisio defnyddio nifer o blatfformau gwahanol.
Gallwch hefyd edrych beth mae eich cystadleuwyr yn ei wneud a dysgu drwyddyn nhw. Beth maen nhw’n ei wneud yn iawn, neu’n anghywir? Pa blatfformau cyfryngau cymdeithasol maen nhw’n eu defnyddio, a faint maen nhw’n ymgysylltu â’u cwsmeriaid a’u dilynwyr?
Darganfod mwy yn ein gweminar ddi-dâl ar gyfryngau cymdeithasol
Rheoli eich busnes gartref neu pan fyddwch ar fynd
Dangosodd y pandemig i ni nad oes angen cyfyngu busnes i’r swyddfa. Yn ffodus iawn, mae nifer o offer a rhaglenni ar-lein sy’n caniatáu i chi reoli eich busnes o unrhyw le.
Mae’n debyg mai Microsoft 365 yw un o’r rhai mwyaf adnabyddus. Mae ganddo gynlluniau prisio gwahanol ar gyfer busnesau, yn cychwyn o Business Basic sy’n darparu fersiynau gwe o Word, Excel a PowerPoint. Rydych hefyd yn cael mynediad at ebost busnes, rhannu ffeiliau, storio ar-lein a chynadleddau fideo Teams. Mae’r pecyn Premium yn cynnwys pob un o’r uchod ynghyd ag amddiffyniad uwch rhag bygythiadau seiber, rheoli dyfeisiau a phob un o apiau Office Microsoft. Mae Microsoft hefyd yn cynnig Online Office sy’n caniatáu i chi ddefnyddio fersiynau ar-lein o gynnyrch Microsoft megis Word, Excel a PowerPoint am ddim.
Darganfod mwy am Offer Cynhyrchiant yn ein Pecyn Cymorth Digidol di-dâl i Fusnesau
Systemau anfonebu ar-lein
Mae digonedd o offer sy’n gallu gwneud rheoli materion ariannol yn llawer haws i chi drwy glicio botwm. Mae anfonebu ar-lein yn cynnig llawer o fanteision i fusnesau – mae’n gyflym ac yn syml, yn gosteffeithiol, yn cynnig mynediad 24 awr y diwrnod 7 diwrnod yr wythnos, yn ystyriol o’r amgylchedd, ac yn rhoi rheolaeth lwyr i chi.
Platfform anfonebu di-dâl i fusnesau bach yw Zoho Invoice. Mae ganddo nifer o nodweddion, gan gynnwys y gallu i filio nifer o gwsmeriaid, creu anfonebau a nodiadau credyd, awtomeiddio nodiadau atgoffa i dalu, casglu taliadau ar-lein 24 awr y diwrnod 7 diwrnod yr wythnos, sganio derbynebau a llawer mwy.
Mae digon o offer anfonebu ar-lein eraill hefyd, er enghraifft QuickBooks, felly mae’n werth edrych o gwmpas a gweld pa un yw’r un gorau i chi.
Darganfod mwy am systemau anfonebu ar-lein yn ein Pecyn Cymorth Digidol di-dâl i Fusnesau