Mae’r cyfryngau cymdeithasol yma i aros – a ph’un ai bod eich busnes yn fawr neu’n fach, mae angen i chi eu defnyddio.

Mae angen i unrhyw fusnes sy’n gweithredu yn yr oes ddigidol ystyried yr effaith y gallai bod yn ddistaw ar y cyfryngau cymdeithasol ei chael ar eu busnes. Os nad yw presenoldeb cymdeithasol yn rhan o’ch strategaeth marchnata digidol, gallech fod yn colli allan ar lu o gyfleoedd i ymgysylltu â chwsmeriaid posibl a phresennol, creu ymwybyddiaeth o’ch busnes, adeiladu eich brand a chynyddu cyfnewidiadau.

A allai eich busnes weithredu strategaeth cyfryngau cymdeithasol lwyddiannus?

Yr ateb yw, gallai! Dyma 5 cam syml i chi ddechrau arni!

Dewiswch eich sianeli’n ofalus

Pan fyddwch yn penderfynu dechrau arni ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’n bwysig dewis eich sianeli’n ofalus. Nid oes angen i chi fod yn bresennol ar bob llwyfan, gan y gallech fod yn gwastraffu amser ar sianeli na fyddant o fudd i chi. Bydd eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol os byddwch yn ymgysylltu â llwyfannau sy’n cyseinio â’ch cynulleidfa, eich diwydiant penodol a’r math o gynnwys y byddwch yn ei rannu yn unig. Gwnewch waith ymchwil a dewiswch rai llwyfannau cyfryngau cymdeithasol sy’n addas i’ch busnes chi.  

Cymerwch y cyfryngau cymdeithaso o ddifrif

Fel busnes bach neu ganolig, efallai nad oes gennych chi’r gallu i gyflogi rheolwr cyfryngau cymdeithasol, ond nid yw hynny’n golygu y dylai eich cyfryngau cymdeithasol fod yn fater munud olaf sy’n cael ei ruthro. Mae digon o offer ar gael i helpu busnes prysur i wneud y mwyaf o’r cyfryngau cymdeithasol. Ymroddwch ychydig amser i ddatblygu strategaeth cyfryngau cymdeithasol er mwyn i chi allu sicrhau bod gan eich gweithgarwch ddiben a gallwch ei gynnwys yn hawdd yn eich trefn. Mae offer amserlennu, fel Hootsuite a Buffer, yn golygu nad oes rhaid i chi fod yn ‘bresennol’ ar-lein yn gyson i rannu cynnwys a diweddariadau o ansawdd. Fodd bynnag, mae’n fuddiol ymroddi ychydig o amser i wrando ac ymgysylltu â chwsmeriaid a’ch diwydiant mewn amser go iawn i sicrhau eich bod chi’n gyfredol ac yn rhan o’r sgwrs!

Defnyddiwch amrywiaeth o gynnwys

Y cyfryngau cymdeithasol yw eich cyfle chi i fod yn greadigol! Peidiwch â chadw at negeseuon testun ailadroddus - ystyriwch sut gallwch ddefnyddio amrywiaeth o gyd-destunau gweledol ac ychwanegu ychydig o bersonoliaeth neu hiwmor at beth rydych yn ei rannu. Gallech rannu lluniau o’r prosiectau rydych yn gweithio arnynt neu ddigwyddiadau rydych yn mynd iddynt, neu ffeithluniau diddorol sy’n ymwneud â’ch diwydiant. Mae defnyddwyr llawer yn fwy tebygol o rannu neu ymgysylltu â chynnwys sy’n dal sylw - meddyliwch y tu allan i’r blwch testun!

Rhannwch, ymgysylltwch a byddwch yn gymdeithasol!

Peidiwch â rhannu’r un hen gynnwys o dro i dro a disgwyl i nifer eich dilynwyr dreblu dros nos a’ch busnes i ffynnu o ganlyniad. Er mwyn gwneud y mwyaf o’ch cyfryngau cymdeithasol, mae angen i chi fod yn weithgar! Rhannwch negeseuon diddorol, ymgysylltwch â defnyddwyr eraill, rhowch sylwadau ar newyddion a diweddariadau’r diwydiant, a gwnewch yn siŵr bod eich llais a’ch brand yn cyrraedd y cylch cymdeithasol. Peidiwch â gwahaniaethu eich hun oddi wrth ddylanadwyr eraill yn eich maes ychwaith. Gall cysylltu ag eraill a rhyngweithio â’u cynnwys helpu i’ch sefydlu fel llais allweddol neu arweinydd safbwyntiau yn eich cymuned.

Dylech ei ddefnyddio fel offeryn arall

Ystyriwch y ffyrdd eraill y gall y cyfryngau cymdeithasol gynorthwyo eich busnes. Er enghraifft, gall eich llwyfan cyfryngau cymdeithasol weithredu fel offeryn allweddol i gyflwyno gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog. Trwy ddefnyddio eich llwyfannau’n effeithiol, gallwch ddarparu cymorth a chyngor amser real neu fwy effeithlon i gwsmeriaid, ymgysylltu â defnyddwyr i ddatblygu perthnasoedd parhaol neu annog cwsmeriaid i adael adborth ac adolygiadau ar gyfryngau cymdeithasol.  

Trwy gymryd mantais lawn ar y llwyfannau a’r offer cyfryngau cymdeithasol cost isel (neu rad ac am ddim!) sydd ar gael ar-lein, gallai’r cyfryngau cymdeithasol fod yn fwy nag offeryn confensiynol, gallai fod yn gyfle i dyfu a datblygu eich busnes.   

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen